Beio 'gyrwyr yn taflu drwy'r ffenest' gyda sbwriel ar 99% o ffyrdd

Mae gwirfoddolwyr casglu sbwriel yn dweud bod sbwriel yn aml yn cronni o fewn pellteroedd agos i lefydd bwyd brys
- Cyhoeddwyd
Mae "cynnydd sylweddol" yn faint o sbwriel bwyd a diod sy'n cael ei daflu ar ochr y ffordd yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr sy'n dweud bod angen i bobl "gymryd cyfrifoldeb".
Yn ôl arolwg diweddar gan Cadwch Gymru'n Daclus, fe wnaethon nhw ganfod sbwriel diodydd a bwyd brys (fast food) ar ochr dau o bob tri o ffyrdd y wlad.
Roedd stympiau sigarét a phapurau melysion hefyd ymhlith yr eitemau oedd i'w gweld amlaf – gyda bron dim un ffordd oedd heb sbwriel arni.
Dywedodd un casglwr sbwriel gwirfoddol ei fod yn "broblem gyson", gyda chwsmeriaid yn aml yn taflu pecynnau bwyd brys i ochr y ffordd, yn enwedig mewn llefydd nad ydyn nhw'n disgwyl cael eu dal.
'Baw ci, caniau diod, crisps, diodydd'
Mae Tomos Williams, 25, yn athro mewn ysgol yn Hen Golwyn, Sir Conwy ac ymhlith criw o wirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel yn lleol.
"Mae 'na bob math ochrau lôn, baw ci, caniau diod, crisps, diodydd," meddai.
"Mae'n rhaid i rywun 'neud o. 'Dan ni'n wirfoddolwyr, does neb yn cael eu talu. Mae'n rhaid cynyddu cyfrifoldeb.
"'Dan ni fel ysgol wedi bod allan yn clirio o gwmpas y clwb pêl-droed lleol, ac oedd y plant wrth eu boddau yn tacluso a dysgu amdano fo."

Mae pecynnau bwyd yn aml yn cael eu gweld ar y ffyrdd, meddai Ron Ford
Mae Ron Ford, 75, yn gwirfoddoli gyda grŵp casglu sbwriel yn ardal Pont-y-pŵl, Torfaen, ac yn dweud eu bod wedi casglu 650 o fagiau llawn ers dim ond dechrau'r flwyddyn.
"Maen nhw y math o bethau sy'n cael eu taflu'n glou i'r llwyn," meddai. "Mae hwnna'n creu problem i ni wedyn, achos ni sy'n gorfod dringo mewn i'w gael e mas.
"Fel arfer pethau fast food ydyn nhw – ddim yn bell o fan hyn, mae gyda chi ddau leoliad mawr sy'n gwerthu bwyd fel 'na. Felly mae'r math yna o sbwriel wastad fan hyn."

Dyma oedd yr olygfa ar ochr un ffordd mewn stâd ddiwydiannol yn Nhorfaen ble bu Ron Ford yn casglu sbwriel
Alison Harrison, 59, yw un arall o wirfoddolwyr y grŵp, ac mae'n credu bod y broblem wedi gwaethygu'n ddiweddar, gan ddweud y byddai rhoi mwy o ddirwyon yn helpu.
"Mae'n siom weithiau pan chi'n gweld y sbwriel, ond mae'n rhaid i ni just fwrw 'mlaen," meddai.
"'Dyn ni'n gwybod lle mae'r llefydd gwaethaf... ond unwaith ni wedi bennu, ac mae'n edrych yn neis a thaclus, dyna pam ni'n 'neud e."
'£3m o gost i drethdalwyr'
Fe wnaeth arolwg gan Cadwch Gymru'n Daclus rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025 ganfod bod sbwriel yn bresennol ar 98.8% o ffyrdd A a B yng Nghymru.
Cafodd sbwriel ysmygu a stympiau sigarét eu canfod ar 88.1% o'r ffyrdd, tra bod papurau melysion i'w gweld mewn 80.7% o'r lleoliadau.
Dangosodd y data bod sbwriel diodydd ar 72.1% o ffyrdd, tra bod sbwriel bwyd brys ar 67% ohonynt.
"'Dyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ran faint o sbwriel on-the-go 'dyn ni'n ei weld dros y blynyddoedd," meddai prif weithredwr yr elusen, Owen Derbyshire.

Ar hyd 50m o heol yn arwain o stâd ddiwydiannol yn Nhorfaen i'r ffordd ddeuol gyfagos, fe wnaeth y BBC gyfrif dros 170 darn unigol o sbwriel
"Ac mae'n rhywbeth mae'n gwirfoddolwyr ni'n ffeindio ym mhobman ar y funud, ym mhob cymuned yng Nghymru.
"Mae'n hawdd beio pawb arall am broblemau fel hyn, ond yn sicr mae elfen o orfod cymryd cyfrifoldeb personol hefyd.
"Mae'n warthus bod unrhyw un yn teimlo fod e'n briodol i daflu pethau allan o'u ffenestri wrth yrru. Ddylai hynny ddim fod yn dderbyniol yng Nghymru yn 2026."

Yn ôl Owen Derbyshire, y peth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf wrth leihau sbwriel ffordd fyddai i bobl gymryd cyfrifoldeb personol dros fynd â'u gwastraff
Yn ogystal â'r blerwch, mae Mr Derbyshire yn dweud y gallai sbwriel fel fêps – sy'n cynnwys batris – fod yn "beryglus" i gerbydau sy'n gyrru drostynt.
Mae'r cyfan hefyd angen cael ei lanhau gan rywun yn y diwedd, ac weithiau mewn lleoliadau sy'n gallu bod yn anodd eu cyrraedd.
"Mae'n costio'r trethdalwyr i ni lanhau hyn i gyd, a ni'n gwario tua £3m ar draws Cymru yn taclo sbwriel ar ochr y ffordd," meddai Mr Derbyshire.
"Ac yn amlwg mae hwn yn gallu bod yn waith peryglus i'r rheiny sydd wrthi hefyd."

Byddai'n well gan gynghorau petai eu timau cynnal a chadw'n gallu treulio mwy o amser yn glanhau a harddu trefi a phentrefi, meddai Tony Spear, yn hytrach na chasglu sbwriel
I weithwyr cynghorau lleol sy'n cael y dasg o glirio sbwriel ar hyd lonydd prysurach, mae'n rhaid lleihau'r perygl wrth gau ffyrdd – a hynny'n creu anghyfleustra i deithwyr.
"Weithiau mae'n rhaid i ni gau achos does dim ffordd saff arall o'i wneud e, yn enwedig ar ffyrdd mwy gwledig," meddai Tony Spear, o dîm Cynnal a Chadw Priffyrdd Cyngor Sir Bro Morgannwg.
"Byddai'n well gen i os nad oedd rhaid [iddyn nhw gasglu sbwriel ochr ffordd], a chanolbwyntio ar bopeth arall, ond yn anffodus dyna sut mae'n rhaid i ni wneud e.
"Felly os oedd pobl yn mynd â phethau gyda nhw yn amlach, gallen ni wedyn ddefnyddio'r adnoddau yna rhywle arall."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
