'Ofn prawf sgrinio canser fel menyw awtistig'

Gemma Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gemma Thomas fod yr awyrgylch swnllyd, golau llachar a heriau wrth egluro poen yn gwneud y profiad yn anodd

GanMeleri Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae menywod awtistig yn dweud fod profion sgrinio serfigol yn gallu achosi pryder a phoen, gyda rhai ddim yn mynd o gwbl.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi ariannu ymchwil i asesu sut i gael gwared ar heriau.

Dywedodd Dr Aimee Grant o Brifysgol Abertawe fod tystiolaeth yn awgrymu fod llai o fenywod awtistig yn mynd am y prawf - a dyna bryder yr elusen.

Mae'r dull hwn o sgrinio yn canolbwyntio ar brofi am fathau 'risg uchel' o'r feirws papiloma dynol (HPV), sy'n gallu awgrymu risg uwch o ganser.

Mae Gemma Thomas, 33, o Frynaman a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth dair blynedd yn ôl, yn dweud bod mynd i'r apwyntiadau yn heriol.

"Fi'n cofio o'n i'n canslo nhw, drwy'r adeg, o'n i 'di canslo am tua blywddyn achos o'n i'n ofn mynd," meddai.

"O'n i'n 'neud yr apwyntiad achos o'n i'n ymwybodol, maen nhw'n bwysig, maen nhw'n achub bywydau, ond odd actually mynd ar y dydd yn profi'n anodd."

Dywedodd bod apwyntiadau meddygol, yn gyffredinol, yn heriol fel menyw awtistig.

"Y synhwyredd yw e, y goleuadau llachar, mae'n swnllyd, mae gwynt gwahanol, a ma' hwnna'n cymryd dros berson awtistig," dywedodd.

"Ma' gweld person gwahanol brob tro yn gallu bod yn anodd.

"Chi'n trio ymdopi gyda'r boen, neu'r tostrwydd, neu smear test, a ma' trio egluro beth chi'n teimlo yn anodd. Ma' hwnna'n nodwedd o awtistiaeth."

Ond, mae Gemma'n falch iddi fynd i'r apwyntiad.

"Tra o'n nhw'n 'neud y prawf, o'n nhw 'di gweld bod rhywbeth ddim cweit yn reit," dywedodd.

"Es i i gael biopsy, a diolch byth o'dd popeth yn iawn, ond 'nath e roi'r ofn hyn bod hi'n bwysig mynd am y smear tests hyn."

Catrin Edwards-Greaves
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Edwards-Greaves yn dweud bod awyrgylch y feddygfa yn aml yn heriol

Yng Nghymru, mae'r apwyntiadau sgrinio yn cael eu cynnig i bobl rhwng 25 a 49 oed bob pum mlynedd.

Fel arfer, dim ond rhai munudau y mae'r prawf yn para, ac mae'n gallu achub bywydau.

Dywedodd Catrin Edwards-Greaves, 35 o Lantrisant, ei bod yn gwneud addasiadau bach ei hun i hwyluso'r profiad.

"Mae awyrgylch [y feddygfa] yn gallu bod yn anodd i fi," dywedodd.

"Beth dw i'n 'neud nawr, achos bo' fi'n gw'bod bo' fi'n awtistig, yw jyst gofyn os yw nhw'n gallu rhoi gwybod i fi pryd ma'r apwyntiad yn barod, felly 'sdim rhaid i fi aros yna.

"Mae gen i feddyg teulu sydd yn awtistig ei hunan nawr - mae hwnna wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fi."

Dywedodd bod cydnabod difrifoldeb poen yn gallu bod yn anodd.

"Beth wnaeth helpu fi oedd bod y nyrs wedi dweud, 'os oes unrhyw broblemau, dwed'," meddai.

"Dywedais i, ar un pwynt, 'mae'n brifo', ond dw i jyst yn poeni am rywun yn yn profi rhywbeth fel 'na a ddim â'r hyder i ddweud, 'aros funud, mae'n anghyfforddus'."

'Sefyllfa yng Nghymru yn waeth'

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi buddsoddi mewn prosiect yn Mhrifysgol Abertawe sy'n ymchwilio i pam fod pobl awtistig yn llai tebygol o fynd am brawf sgrinio serfigol.

"'Dan ni'm yn gwybod y darlun yng Nghymru, go iawn, ynglyn â beth ydy cyfraddau sgrinio ceg y groth ymhlith pobl awtistig," dywedodd Iwan Rhys Roberts o'r elusen.

"Ma' tystiolaeth o dramor yn dangos ei fod o'n isel, a 'dan ni'n meddwl bod y sefyllfa yng Nghymru yn mynd i fod yn waeth.

"Ma'n bwysig bo' ni'n gallu datblygu triniaethau sy'n addas ar gyfer pobl awtistig. Mae sginio ceg y groth effeithiol yn bwysig iawn, ac mae'n gallu lleihau marwolaethau hyd at 83% felly dyna pam 'dan ni'n ariannu'r ymchwil yma."

Dr Aimee Grant
Disgrifiad o’r llun,

Dr Aimee Grant sydd yn cynnal yr ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe

Bwriad yr ymchwil yw ei gwneud hi'n haws yn y pen draw i bobl awtistig i fynd am brawf sgrinio serfigol.

"Weithiau, mae pobl awtistig yn ei chael hi'n anodd i esbonio'r hyn sydd yn bod... effallai y caiff hyn ei golli gan bobl yn y byd iechyd," dywedodd Dr Aimee Grant.

"Fe fyddwn ni'n meddwl am bopeth - o'r llythyrau mae pobl yn eu cael yn y post, i fwcio'r prawf ac yna beth sy'n digwydd yn ystod y broses.

"Ry'n ni hefyd yn gwneud hyn yn union ar yr adeg cywir. I bobl sydd ddim yn mynd am eu prawf, cyn hir yng Nghymru, bydd gofyn iddyn nhw wneud prawf adref, ond does neb wedi gofyn i bobl awtistig beth maen nhw'n meddwl am hyn eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig