Dau fu'n helpu wedi i fws droi drosodd yn disgrifio'r 'llefain a sgrechian'

Bws ar ei ochr mewn cae
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd chwech o bobl eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad

GanSara DafyddaLuned PhillipsBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o'r bobl gyntaf oedd ar y safle ar ôl gwrthdrawiad bws difrifol ger Cydweli wedi bod yn rhannu eu profiadau.

Dywedodd dau weithiwr gofal lleol iddyn nhw glywed pobl yn "llefain a sgrechian".

Cafodd 19 o bobl eu hanafu ddydd Mawrth ar ôl i fws adael y ffordd a glanio ar ei ochr mewn cae ger yr A484 rhwng Cydweli a Llandyfaelog.

Yn ôl yr heddlu fe gafodd chwech o bobl eu cludo i'r ysbyty, ond y gred yw nad oes unrhyw un ag anafiadau sy'n peryglu bywyd.

'Pobl wedi eu taflu dros bobman'

Roedd Martyn Pope o Lanyfferi a Dean Hollands o Fynyddygarreg yn gyrru tu ôl i'r bws mewn fan ar adeg y gwrthdrawiad.

Fe aethon nhw'n syth i helpu, a thynnu pobl allan o'r cerbyd.

Dywedodd y ddau: "Doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai'n ein hwynebu pan gyrhaeddon ni."

Ychwanegodd Dean mai "adrenalin" oedd yn ei yrru wrth iddyn nhw ddechrau tynnu ffenest allan a thorri drwy'r drysau.

Mae'r ddau yn gweithio yng nghartrefi gofal Bryn Illtud ac Erw Hir yn Sir Gâr.

Dean Hollands a Martyn PopeFfynhonnell y llun, Martyn Pope
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dean (chwith) a Martyn (dde) yn gweithio mewn cartrefi gofal yn Sir Gâr

Yn ôl Martyn: "Wrth i ni ddod rownd y gornel, roedd y bws yn y cae.

"Mae offer gyda ni yng nghefn y fan, felly fe g'ethon ni gwpl o forthwylion a rhedeg lawr at y cae.

"Roedd pobl yn llefain a sgrechian - gwneud sŵn o'dd ddim yn neis iawn.

"Pan welon ni'r bws o'r top o'dd e wedi rholio drosodd a does dim gwregyse ar fysus, felly bydde pobl wedi eu taflu dros bobman."

Ychwanegodd bod y bws tua 15-20 troedfedd i lawr yn y cae, a'r gwasanaethau brys yn dod â llawer o ddŵr gan ei bod hi mor boeth.

Babi ar y bws ar y pryd

Dywedodd Dean: "Roedd dynes ar y llawr ac roedd hi'n gorwedd ar y ffenest wydr gan fod y bws ar ei ochr.

"Felly aeth Martyn i'r blaen, es i i'r cefn, tynnu un hen fenyw mas, a hen ddyn. Yna aeth Martyn a fi i dynnu'r dryse' mas."

Fe ddywedon nhw iddyn nhw adael ci allan o'r cerbyd, a dyn gyda babi.

"Fe ddechreuon ni glirio'r gwastraff - llawer o bobl wedi bod yn siopa bwyd, felly o'dd bwyd ymhobman.

"Roedd offer cerdded i bobl anabl yn y ffordd."

Bws ar ei ochrFfynhonnell y llun, Martyn Pope
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y bws adael y ffordd a glanio ar ei ochr mewn cae

Fe wnaeth y ddau ganmol y gwasanaethau brys am eu hymateb.

"Wnaethon ni ddim gwneud unrhywbeth yn wahanol i beth fyddai unrhyw berson arall.

"Dy'ch chi ddim yn deall pa mor gryf y'ch chi tan bod rhywbeth fel'na'n digwydd."

Fe wnaeth y ddau ddarganfod yn ddiweddarach bod menyw oedrannus roedden nhw wedi'i helpu yn fam i un o'u cydweithwyr yn y cartref gofal.

Maen nhw'n dweud iddi dorri ei chlun a'i hasennau yn y digwyddiad.

Yn disgrifio'r mathau o anafiadau welon nhw, dywedodd Martyn fod llawer o "friwiau, anafiadau pen... a phobl wedi'u hysgwyd."

Fe ddywedon nhw fod yr ymateb i'r digwyddiad yn "dweud cyfrolau" am y gymuned yng Nghydweli a'r ardaloedd cyfagos.

"Roedd pawb yn wych," meddai Dean.

Bws ar ei ochr mewn caeFfynhonnell y llun, Jacko Thomas

Un arall sy'n ddiolchgar am garedigrwydd y rhai oedd yno yw Sally-Ann Morgan Smith o Gaerfyrddin.

Roedd ei mab 17 oed, Connor, ar y bws yn teithio i gwrdd â'i ffrindiau yn Abertawe.

Cafodd Sally-Ann alwad gan ei mab am 13:50 brynhawn Mawrth yn dweud beth ddigwyddodd.

Doedd hi ddim yn gallu cyrraedd y safle, ond clywodd wedyn bod ei mab yn Ysbyty Glangwili.

Disgrifiodd fynd yno fel y "daith hiraf erioed", cyn cael gweld ei mab.

Dywedodd i Connor gael ei anfon i'r ysbyty oherwydd bod ei "guriad calon yn gyflym iawn".

'Balch iawn ohono'

Er ei fod wedi'i ysgwyd, mae Sally-Ann yn dweud ei fod yn iawn bellach.

"Mae ei ben-glin yn dost, braich yn dost, ac mae'n brifo drosto," meddai.

"Roedd ganddo'i glustffonau ymlaen, felly doedd e ddim yn talu llawer o sylw, ond fe glywodd sgrechiadau drwy'r gerddoriaeth roc yn ei glustffonau.

"Yna tarodd yr ochr a mynd lawr."

BwsFfynhonnell y llun, Jacko Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bws ei godi yn ôl i'r ffordd gyda chraen

Mae Sally-Ann eisiau diolch i'r rhai oedd yno'n helpu.

"Roedd 'na ddynes yno aeth a dŵr iddyn nhw'i gyd, fe redodd y diodydd mas, felly fe roddodd Connor ei ddiod i hen ddynes."

Dywedodd ei bod hi "mor falch" o'i mab, oedd wedi tanio'r allanfa frys yn syth ar ôl y ddamwain.

"Mae Connor yn blentyn tawel, mae e'n eitha' swil, felly ro'n i'n falch iawn ohono."

Cadarnhaodd First Bus, mai gwasanaeth X11 y cwmni sy'n rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Abertawe oedd y cerbyd.

Cafodd y ffordd rhwng cylchfan Parc y Bocs a Llandyfaelog ei chau am beth amser ddydd Mawrth wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.

'Pobl yn gorwedd ar y llawr ym mhobman'

Mae'r ffermwr lleol Jacko Thomas yn rhentu'r cae lle laniodd y bws. Dywedodd ei fod yn "hynod o lwcus" gan oedd yn bwriadu torri'r gwair yno'r diwrnod hwnnw.

Disgrifiodd yr olygfa "yn debycach i ryfel" wrth iddo helpu i gludo pobl i ffwrdd yn ei pickup.

"Roedd y bws ar ei ochr a chyrff ym mhobman, roeddwn i wedi fy syfrdanu achos wir i Dduw o'n i ar fin torri'r gwair yno."

Ychwanegodd ei bod hi'n "eithaf brawychus" gweld yr holl wasanaethau brys a phobl wedi'u hanafu.

"Roedd pobl yn gorwedd ar y llawr ym mhobman" ac mae'n "syndod" nad oedd pethau'n waeth.

Dywedodd ei fod wedi bod yn "aros ers blynyddoedd i gar neu feic modur ddod drwy'r gwrych", gan fod cerbydau'n aml yn gyrru'n gyflym ar y darn hwnnw o'r ffordd.

"Dyw'r ffordd ddim yn addas. Dyw e ddim yn ddigon llydan ar gyfer bysiau na lorïau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol