Cyhoeddi 'digwyddiad difrifol' wedi gwrthdrawiad bws yn Sir Gâr

Mae'r A484 ar gau rhwng Cydweli a Llandyfaelog
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn delio â "digwyddiad difrifol" yn Sir Gaerfyrddin, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â bws.
Dywedodd y llu eu bod yn delio gyda'r digwyddiad ar yr A484 ger cylchfan Parc y Bocs yng Nghydweli.
Mae'r ffordd ar gau ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cadarnhau bod eu timau nhw yn ymateb i'r digwyddiad hefyd.
"Mae ein hadrannau brys yn brysur, ac mae amseroedd aros yn debygol o fod yn hirach wrth i ni drin yr unigolion sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf."
Mae'r stori yma newydd dorri. Bydd mwy yn cael ei ychwanegu pan ddaw rhagor o wybodaeth i'r amlwg. Bydd angen diweddaru'r dudalen er mwyn cael y fersiwn ddiweddaraf.