Dewi Lake a Jac Morgan yn Cymreigio Caerloyw
Cymry Caerloyw: Dewi Lake a Jac Morgan
- Cyhoeddwyd
Dewi Lake a Jac Morgan ydi dau o chwaraewyr rygbi pwysicaf Cymru.
Dros y tymhorau diwethaf maen nhw wedi rhannu'r gapteiniaeth, a mi fydd gan y ddau ran hollbwysig i'w chwarae yng Nghwpan y Byd yn Awstralia flwyddyn nesaf.
Ar ôl chwarae i'r Gweilch hefo'i gilydd am sawl tymor, mae'r ddau ffrind bellach wedi symud i Gaerloyw, ac yn paratoi i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn eu gyrfaoedd.
Ac er fod y ddau'n enwau cyfarwydd i bawb yn y byd rygbi, mi oedden nhw'n nerfus cyn eu diwrnod cyntaf gyda'u clwb newydd.
"Ro'n ni ar y ffôn drwy'r amser gyda'n gilydd," meddai Dewi.
"Ni wedi cwrdd ar y bore cyntaf yn y maes parcio achos doedden ni ddim moyn mynd mewn i'r ystafell newid ar ben ein hun.
"Mi oedd e bron fel mynd i'r ysgol am y tro cyntaf eto."

Mi fydd Jac Morgan a Dewi Lake yn chwarae i Gaerloyw y tymor nesaf
Fe ddaeth cytundebau'r ddau gyda'r Gweilch i ben y tymor diwethaf, ac oherwydd yr holl ansicrwydd am ddyfodol y rhanbarth dyma benderfynu gadael Cymru.
Ond cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hi fod y ddau wedi penderfynu ymuno â Chaerloyw.
"Mi oedden ni wedi cael chat yn ystod y flwyddyn i drafod be' oedden ni'n mynd i'w wneud, aros neu gadael," ychwanegodd Dewi.
"Un dydd o'n i wedi mynd lan at Jac a dweud fy mod wedi bod yn siarad gyda Chaerloyw, a dyma Jac yn dweud 'a fi', a dyna sut nes i ffeindio mas."
Yn fuan ar ôl i Jac gynnal trafodaethau gyda Chaerloyw am y tro cyntaf fe ddatgymalodd ei ysgwydd tra'n chwarae dros Gymru yn erbyn Yr Ariannin yn ystod Cyfres yr Hydref 2025.
"Ges i'r anaf a nes i ddim gweld Dewi am fis ar ôl cael llawdriniaeth," yw atgof Jac o'r cyfnod.
"Fi'n eithaf balch fod y ddau ohono ni wedi dod lan yma gyda'n gilydd a chael i cyfle i dal chwarae efo'n gilydd i glwb newydd."

Fe ymunodd Max Llewellyn â Chaerloyw yn 2023
Gan fod Caerloyw mor agos at y ffin mae 'na sawl Cymro wedi chwarae i Gaerloyw dros y blynyddoedd.
Mae Max Llewellyn, Josh Hathaway, Deian Gwynne a Caio James ymhlith y Cymry sydd yno dyddiau yma, gyda phob un ohonynt yn siarad Cymraeg.
Felly faint o Gymraeg sy'n cael ei siarad yno?
"Mae lot ohono ni'n siarad Cymraeg wrth trainio. Pan ti'n gwybod fod rhywun yn siarad Cymraeg mae'n galed i siarad Saesneg iddyn nhw," meddai Jac.
"Mae hi'n grêt gallu siarad yr iaith. Mae e fel home from home gyda'r holl Gymry sydd 'ma.
"Pan ddechreuon ni, mi oedd hi'n handi fod y bois [Cymraeg] 'ma, bois ni wedi chwarae gyda o'r blaen, bois ni'n eu nabod, felly mae hynny wastad yn gwneud pethau'n rhwyddach."

Mae dyfodol Y Gweilch dan fygythiad gyda chynlluniau i dorri un rhanbarth
Mae tymor 2026/27 yn argoeli i fod yn un cyffrous i Gaerloyw, wrth iddynt lygadu llwyddiant yn Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Pencampwyr Ewrop.
Ond tydi'r un peth ddim yn wir am gyn-ranbarth Dewi a Jac - Y Gweilch.
Mi fydd Undeb Rygbi Cymru yn cwtogi y nifer o ranbarthau o bedwar i dri yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ac am resymau daearyddol mi fydden nhw'n cael gwared â naill ai'r Gweilch neu'r Scarlets.
"Mae'r ddau ohona ni dal gyda ffrindiau really da yn Y Gweilch, a mae 'na bobl yno sydd wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd felly ni dal yn becso am y bobl 'na," yw ateb gonest Dewi.
"Mae 'na hyfforddwyr yno sydd wedi gwneud lot i'n gyrfaoedd ni, sydd wedi ein galluogi ni i chwarae dros Gymru.
"Ni dal yn caru'r clwb a ni dal eisiau i'r clwb fod yn saff."

Mae Dewi Lake a Jac Morgan yn ddau o chwaraewyr pwysicaf Cymru
Adeg yma flwyddyn nesaf mi fydd Cymru yn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd yn erbyn Zimbabwe yn Adelaide.
Os yn holliach byddai disgwyl i Dewi a Jac fod yn nhîm Steve Tandy, gydag un ohonynt yn gapten.
Ond fel mae Jac yn esbonio - dydych chi ddim yn gallu cymryd dim byd yn ganiataol.
"Y swydd gyntaf sydd gen i i'w gwneud nawr yw dod mewn i Gaerloyw, gwneud y gorau fi'n gallu, a gobeithio cael y cyfle i chwarae i'r clwb.
"Gobeithio wedyn y bydd fy mherfformiadau yn helpu i fi gael fy mhigo gan Gymru.
"Mae wastad yn anrhydedd i roi'r crys coch arno, ac wrth chwarae'n dda yn y fan hyn gobeithio hefyd y gallai gadw ymlaen i chwarae dros Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.