Ysgol hynaf Cymru yn dathlu 350 o flynyddoedd

Dathliad yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adeilad ei godi yn ei ffurf wreiddiol yn 1676

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgol gynradd sy'n credu ei bod yr hynaf yng Nghymru wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 350 o flynyddoedd oed.

Cafodd Ysgol St Chad ym mhentref Hanmer, Sir Wrecsam barti yn yr ardd, gyda dros 100 o westeion oedd yn cynnwys cyn-ddisgyblion ac adloniant gan blant yr ysgol.

Mae wedi'i lleoli ar y ffin rhwng Sir Wrecsam a Sir Amwythig.

Ers ei godi yn 1676 mae'r adeilad wedi cael ei ddefnyddio i addysgu, ac mae tua 90 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol Saesneg ar hyn o bryd.

Dywedodd un o athrawon yr ysgol, Victoria Edwards, ar y Post Prynhawn ei bod wedi dysgu yno ers 20 mlynedd, ei bod yn "caru'r lle, y plant, y rhieni" a'i bod yn "ysgol arbennig iawn".

Cacennau

Dywedodd William, disgybl blwyddyn 6, ei bod hi'n "arbennig iawn bod yma" a "dim llawer o bobl sy'n cael dathlu 350 mlynedd o ysgol".

Yn ôl disgybl arall, Enid, mae hi weithiau'n meddwl am yr holl bobl sydd wedi mynychu'r ysgol dros y blynyddoedd.

Dywedodd Eva fod yr ysgol yn "hardd a llachar" a'i bod yn gobeithio y byddai'n dal i sefyll mewn 450 o flynyddoedd.

Disgrifiodd Nicola Locker, y pennaeth, y balchder y mae'r plant yn rhoi iddi, gan ychwanegu ei bod hi'n ysgol "unigryw" ac mai braint yw bod yn rhan fechan o'r hanes.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig