Mam o Gaernarfon yn poeni wrth i 'gostau fynd i fyny o bob ongl'

Costau petrol a dieselFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd yn dweud bod costau petrol a diesel yn parhau i roi pwysau mawr ar gyllidebau cartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i bedwar o blant o Gaernarfon wedi dweud bod teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu "gadael ar ôl" wrth i gostau byw barhau i godi.

Dywedodd Llywela Wharton ei bod yn anodd cydbwyso costau bwyd, ynni a gofalu am blant, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol.

Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi cyfres o fesurau newydd gyda'r nod o leihau costau byw.

Mae pennaeth polisi elusen wedi croesawu rhai o'r cynlluniau, ond yn rhybuddio nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i helpu teuluoedd sy'n wynebu pwysau ariannol.

Rachel ReevesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves fod mesurau newydd y llywodraeth wedi'u bwriadu i helpu gyda chostau byw

Mae disgwyl cyhoeddiadau pellach ddydd Iau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymwneud â lleihau costau byw.

Ddydd Mercher fe ddywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai ei chynlluniau economaidd hi yw y rhai iawn, wrth i'r wlad wynebu heriau economaidd pellach yn sgil y rhyfel yn Iran.

Ymhlith y cyhoeddiadau ddydd Mercher gan y prif weinidog Keir Starmer a'r canghellor oedd y byddai'r toriad 5c y litr yn y dreth ar danwydd yn cael ei ymestyn hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi tripiau bysiau am ddim i deuluoedd yn Lloegr dros wyliau'r haf.

Mae disgwyl i'r canghellor gyhoeddi yn ddiweddarach y bydd tollau ar dros 100 o gynnyrch bwyd sy'n cael eu mewnforio, yn cael eu torri.

Mae'r cyfan yn rhan o becyn o fesurau gan Lywodraeth y DU i geisio cynorthwyo aelwydydd, wrth i gostau byw godi yn sgil y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.

Llywela Wharton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon bod teuluoedd sy'n gweithio yn cael eu "gadael ar ôl" wrth i gostau godi

Dywedodd Llywela Wharton o Gaernarfon, sy'n fam i bedwar o blant, bod costau bwyd, ynni a thanwydd yn rhoi pwysau mawr ar deuluoedd sy'n gweithio.

"Costau egni, costau bwyd, costau petrol a diesel sy'n ein heffeithio fwyaf," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Mae'n teimlo fel mae prisiau jyst yn cynyddu a 'di cyflogau ddim."

Dywedodd ei bod hi'n teimlo nad oes digon o gymorth ar gael i bobl sydd mewn gwaith.

"Fyswn i'n licio clywed bod 'na help i'r rheiny sy'n gweithio," meddai.

"Mae'n teimlo bod llawer mwy o help i bobl sydd ddim yn gweithio na phobl sydd yn, ond sy'n trio byw bob dydd."

Ychwanegodd fod costau gwyliau ysgol yn rhoi pwysau ychwanegol ar rieni.

"Mae mynd i lefydd a gwneud pethau efo'r plant yn ofnadwy o ddrud," meddai.

"'Da chi'n sôn am £15 y plentyn weithia', ac i deulu mae hynny'n gallu bod tua £100 am ddiwrnod allan, cyn rhoi bwyd a thrafnidiaeth ar ei ben o."

'Fawr ddim' o help

Dywedodd ei bod yn "eitha' lwcus" bod ei chyflogwr yn gadael iddi weithio o adref yn ystod hanner tymor, ond mai "nid pawb sy' efo'r cyfle yna".

"'Da chi'n gweld costau'n mynd i fyny o bob ongl yn ystod y gwyliau," meddai.

"Mae'r gwyliau haf yn un awful i drio rheoli a chydbwyso pob dim."

Dywedodd Llywela ei bod wedi defnyddio banc bwyd yng Nghaernarfon sawl gwaith oherwydd pwysau ariannol.

"Ma' 'na betha' bach do'n i ddim yn gwybod am, ac mae 'na help allan yna, ond 'di o fawr o ddim byd, yn enwedig pan 'da chi'n gweithio.

"Ges i ryw £30 tuag at gostau ynni ella, ond dydy hynny ddim yn cadw'r tŷ i fynd am wythnos, heb sôn am fis."

Mabli Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mabli Jones yn rhybuddio bod llawer o deuluoedd yn parhau i wynebu pwysau ariannol er gwaethaf y cynlluniau diweddaraf

Dywedodd Mabli Jones, pennaeth polisi gydag elusen Sefydliad Bevan, nad yw'r cyhoeddiadau hyd yma gan Lywodraeth y DU yn debygol o fynd yn ddigon pell.

"Yr hyn ni 'di clywed hyd yn hyn, yn anffodus fi ddim yn credu y bydd hynny'n ddigonol i helpu pobl gyda'r gwasgedd ar gostau byw 'da ni'n gweld, ac sy'n debygol o godi eto dros weddill y flwyddyn," meddai ar Dros Frecwast.

"'Da ni dal heb glywed unrhyw beth o ran y mesurau fydd yn dod o ran helpu pobl gyda biliau ynni - ni'n gwybod bod rheiny'n debygol o gynyddu lot dros y misoedd nesa'.

"Yn amlwg, mae helpu teuluoedd yn Lloegr gyda chostau bysus yn beth da - 'da ni eisoes gyda chynllun yng Nghymru sy'n un fwy hirdymor ar gyfer plant a phobl ifanc.

"Mae hynny'n bwysig ar gyfer pobl ar incwm isel, achos maen nhw'n fwy tebygol o ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus."

'Her enfawr i deuluoedd'

Dywedodd bod rhai mesurau sydd wedi dod i rym dros y blynyddoedd diwethaf wedi helpu teuluoedd, "yn enwedig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd", sydd wedi gwneud "gwahaniaeth enfawr".

Ychwanegodd ei bod hi hefyd yn falch o weld ymrwymiad llywodraeth newydd Cymru i roi prydau ysgol am ddim i ddisgyblion uwchradd os yw eu rhieni yn derbyn budd-dal credyd cynhwysol.

"'Da ni hefyd yn gwybod bod pethau fel costau gofal plant yn her fawr i deuluoedd, a 'da ni'n edrych 'mlaen at weld rholio mas y rhaglen o ofal plant am ddim i bawb dros y blynyddoedd nesa'.

"Ond mae pethau fel biliau ynni, costau tai a rhent, costau bwyd, yn dal i fod yn her enfawr i deuluoedd, sy'n gwaethygu o hyd."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn aros i glywed beth yn union yw manylion cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig", ond eu bod "yn croesawu mesurau fydd yn helpu i leihau costau byw i deuluoedd, ffermwyr a busnesau".

"Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi y tocyn bws sengl am £1 neu docyn diwrnod £3 i bobl ifanc o dan 21 oed.

"Mae hyn ar gael drwy gydol y flwyddyn ac mae'n allweddol i helpu plant a phobl ifanc gael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.