DNA yn adnabod criw llong a adeiladwyd yng Nghymru 200 mlynedd yn ôl

LLun o fodel o long Erebus ar fwrdd pren - mae ganddi dri mast a chychod achub yn hongian o'r ochr. Lluniau du a gwyn o longau eraill yn y cefndirFfynhonnell y llun, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Model o HMS Erebus yng nghanolfan dreftadaeth Doc Penfro

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddillion morwyr a fu farw ar ôl i long a adeiladwyd yng Nghymru gael ei cholli yn yr Arctig yn y 19eg ganrif wedi cael eu hadnabod gan ymchwilwyr o Ganada.

Ni ddychwelodd HMS Erebus o fordaith i geisio canfod llwybr rhwng Cefnfor yr Iwerydd a'r Môr Tawel, dan arweiniad y capten Syr John Franklin.

Bydd arddangosfa newydd yn agor fis nesaf yn Noc Penfro, yn adrodd hanes yr Erebus a adeiladwyd yn y dref yn 1826.

Mae trefnwyr yr arddangosfa yn gobeithio y bydd yr ymchwil yn cynyddu'r diddordeb yn eu digwyddiad nhw, gan fod disgynyddion rhai o forwyr Erebus wedi cyfrannu ato.

Dirgelwch yn parhau

Fe gollwyd Erebus a HMS Terror – oedd ar yr un daith i'r Arctig - ar ôl iddyn nhw gael eu dal mewn iâ mewn tywydd rhewllyd - bu farw cyfanswm o 129 o aelodau criw o'r ddwy long.

Bydd yr arddangosfa ddwyieithog yn cynnwys arteffactau a achubwyd o'r llongddrylliad sydd erioed wedi'u gweld o'r blaen.

Maen nhw'n cynnwys powlen a phlât, esgid a bwcl o wregys, sydd ar fenthyg gan Amgueddfa'r Llynges gyda chymorth grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Dywedodd Tim Payne, trefnydd yr arddangosfa: "Ry'n ni wedi gorfod prynu cas wedi'i selio'n hermetig i reoli lefel y lleithder, oherwydd bod yr eitemau yn fregus iawn.

"Mae cael pethau fel esgid gafodd ei gwisgo gan swyddog ar fwrdd Erebus yn anhygoel."

Llun o Tim Payne mewn siwmper pinc a chrys du yn sefyll yng nghanolfan dreftadaeth Doc PenfroFfynhonnell y llun, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol Tim Payne, trefnydd yr arddangosfa, mae hanes Erebus yn dal i ryfeddu pobl

Cyn y fordaith olaf, roedd Erebus wedi bod yn rhan o deithiau i'r Antarctig rhwng 1841 a 1843 dan arweiniad y Capten James Clark Ross.

Enwyd Mynydd Erebus, llosgfynydd yn Antarctica, ar ei hôl hi.

Ar ôl dechrau am yr Arctig 1845 gyda HMS Terror, cafodd y ddwy long eu dal mewn iâ ym mis Medi 1846 a'r tymheredd yn -20 selsiws.

Ar ôl bod yn sownd am ddwy flynedd, ceisiodd 105 o oroeswyr - roedd 24 aelod o'r criwiau wedi marw eisoes - achub eu hunain trwy gerdded ar draws yr iâ ar y môr i ddechrau ac yna ar dir ynys, gan dynnu slediau trwm o gyflenwadau.

Ond doedd dim goroeswyr.

Daeth elfen arswydus o'r hanes i'r amlwg mewn astudiaeth flaenorol o 400 o esgyrn - roedd ymchwilwyr wedi canfod tystiolaeth o ganibaliaeth ar rai o'r esgyrn.

Darlun du a gwyn o'r ddwy long ar for stormus gyda rhewlifoedd enfawr yn codi'n uchel y tu cefn iddyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o Erebus a Terror yn ystod y fordaith i Antartica

Nawr mae anthropolegwyr o Brifysgol Waterloo yng Nghanada wedi astudio'r gweddillion o'r newydd gan ddefnyddio technoleg DNA a gallu cysylltu gyda disgynyddion byw.

Maen nhw wedi enwi tri morwr oedd ar fwrdd Erebus, sef William Orren, David Young a stiward o'r enw John Bridgens. Mae gweddillion Harry Peglar, capten o HMS Terror, hefyd wedi'i adnabod. Doedd dim ôl canibaliaeth ar eu hesgyrn nhw.

Mae Dr Douglas Stenton yn Athro Cynorthwyol mewn anthropoleg ym Mhrifysgol Waterloo, a dywedodd fod yr amgylchiadau a wynebon nhw ar ôl gadael y llongau yn ofnadwy.

"Allwn ni ddim dychmygu bod pob un o'r 105 o ddynion hynny yn ddigon iach i dynnu'r slediau trwm iawn. Ro'n nhw bron i 30 cilomedr o'r lan, felly nid oedd modd hela i gael bwyd da a ffres.

"Aeth rhywbeth mawr o'i le. Ai gwenwyn plwm oedd e? Ai sgyrfi? Neu [glefyd] Beriberi? Dy'n ni ddim yn gwybod yn union."

Llun o ddyn ar ei liniau mewn cot glas gyda phenglog dynol yn y ddaear o'i flåen - mae e'n symud pridd i ffwrdd o'r penglog yn ofalus gyda theclynFfynhonnell y llun, Prifysgol Waterloo, Canada
Disgrifiad o’r llun,

Dr Stenton yn dadorchuddio gweddillion un o'r morwyr a fu farw yn rhanbarth Nunavut, gogledd Canada

Pan adawon nhw eu llongau, dywedodd Dr Stenton fod y morwyr wedi "camu ar lwybr a fyddai'n arwain at eu marwolaeth ac i ebargofiant".

Does gan deuluoedd y disgynyddion ddim llawer o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw.

"Dwi'n credu ei bod hi'n briodol iawn bod disgynyddion y morwyr yn helpu i ysgrifennu'r bennod newydd hon am yr hyn ddigwyddodd."

Mae'r ymchwilwyr hefyd wedi helpu i greu delwedd o wyneb David Young, gwas caban ar Erebus, a'r morwr iengaf.

"Pan y'ch chi'n cyfuno'r ddelwedd fforensig o'r wyneb... gyda'r gwaith DNA, dwi'n credu ei fod yn dod â phobl yn nes at y stori, mewn ffordd y gallan nhw uniaethu â hi. Y cyhoedd yn sicr, ond hefyd aelodau'r teulu."

Fe fydd fideo tanddwr o'r Erebus yn rhan o'r arddangosfaFfynhonnell y llun, Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd fideo tanddwr o'r Erebus yn rhan o'r arddangosfa

Bydd yr arddangosfa yn Noc Penfro yn cynnwys ail-gread o gaban llong, a delwedd holograffig o gloch Erebus a grëwyd o sganiau 3D.

Hefyd fe fydd fideo tanddwr o'r llongddrylliad gafodd ei ddarganfod yn 2014 ac arddangosfa ryngweithiol sy'n egluro sut y cafodd Erebus ei haddasu ar gyfer teithiau i'r pegynnau.

Bydd pedwar o ddisgynyddion aelodau o griw'r Erebus, gan gynnwys perthynas i'r Capten Franklin, yn lansiad yr arddangosfa, gan gynnwys perthynas i David Young.

Dywedodd Tim Payne: "Hen, hen, hen ewythr un o'n cefnogwyr lleol oedd y gwas caban ar fwrdd HMS Erebus. Cynigiodd fenthyg Medal Arctig ei deulu, sydd gennym yn yr arddangosfa."

'Dod â hi adref'

Adeiladwyd HMS Erebus yn wreiddiol gan y Llynges Frenhinol fel llong fomio - llong arbenigol gyda ffrâm wedi'i hatgyfnerthu a gynlluniwyd i wrthsefyll sioc tanio gynnau mawr.

Er ei bod yn gymharol fach, roedd Erebus yn bwerus iawn – roedd hyn yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer archwilio yn eithafion y de a'r gogledd lle byddai'n cael ei tharo gan rew môr.

Cyfrannodd hi a'i chriwiau at ddarganfyddiadau gwyddonol pwysig ar sawl taith lwyddiannus i'r Antarctig rhwng 1841 a 1843.

Dywedodd Tim Payne fod y stori'n dal i ryfeddu pobl hyd heddiw.

"I ni mae'n gylch cyfan," meddai. "Lansiwyd Erebus o Ddoc Penfro ar 7 Mehefin 1826 ac yn 2014 cafodd ei hailddarganfod.

"Rwy'n credu bod hyn yn dod â hi adref, ac yn adrodd yr hanes rhyfeddol hwnnw sydd gennym."

Mae'r arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro o 8 Mehefin hyd at ddiwedd mis Hydref.

Pynciau cysylltiedig