Diffyg coed 'yn peri risgau iechyd ac amgylcheddol' i bobl trefi fel Caergybi

Stryd yng nghanol Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Caergybi sydd ar frig y rhestr o lefydd sy'n wynebu'r bygythiad amgylcheddol mwyaf oherwydd prinder coed

  • Cyhoeddwyd

Mae sawl tref arfordirol ymhlith y llefydd yng Nghymru sy'n wynebu'r bygythiadau amgylcheddol mwyaf oherwydd prinder coed, yn ôl yr elusen Coed Cadw.

Mae ymchwil yr elusen yn awgrymu bod Caergybi "yn ardal ble mae 100% o'r boblogaeth drefol yn wynebu risgiau iechyd ac amgylcheddol oherwydd diffyg gorchudd coed difrifol".

Mae dau o drefi eraill y gogledd hefyd ymhlith pump uchaf y rhestr, wedi i'r ymchwil awgrymu risg i les dros 82% o'r boblogaeth ym Mhrestatyn a 70% o boblogaeth Llandudno.

Mae'r elusen yn rhybuddio bod yr hyn maen nhw'n ei alw'n "ddiffeithdiroedd coed" mewn sawl tref a dinas yn cynyddu'r posibilrwydd o iechyd gwael, llygredd aer a thymereddau uwch.

Caerfyrddin sydd yn y trydydd safle ar restr Coed Cymru, gydag Aberdaugleddau yn berwerydd.

Ystradgynlais, Y Fflint, Aberystwyth, Pen-y-bont ar Ogwr a Sain Tathan sy'n llenwi safleoedd chwech i 10.

Mae Coed Cadw'n dadlau dros sicrhau bod rhwng 20% a 25% o ardaloedd dinesig wedi eu gorchuddio gan goed aeddfed.

"Mae'r ffigyrau newydd yma'n amlygu annhegwch sy'n dawel effeithio ar iechyd miliynau o bobl," meddai Jacinta Challinor, sy'n arwain ar y mater ar ran Coed Cadw.

"Mae diffeithdiroedd coed yn llefydd ble mae prinder coed difrifol, ac mae cymunedau heb yr holl ddaioni y mae coed yn ei ddarparu.

"Gallai hynny olygu cartrefi a strydoedd mwy poeth, cyfraddau uwch o asthma a chlefyd y galon, ac iechyd corfforol a meddylion gwaeth.

"Mae'r heriau yma yn cael effaith ar fywyd bob dydd mewn nifer o ffyrdd, ac fe allai - ynghyd ag anghyfartalwch ehangach - gyfrannu hyd yn oed at ddisgwyliad oes is."

Dynes yn rhedeg trwy Barc Cathays, Caerdydd yn 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plannu digon o goed mewn ardaloedd dinesig yn sicrhau buddion i iechyd y cyhoedd, medd Coed Cymru

Mae sgorau rhestr Coed Cadw ar sail sawl ffactor, gan gynnwys maint gorchudd canopi coed mewn unrhyw ardal, dwysedd tai a ffyrdd, a niferoedd pobl oedrannus a phlant.

Gall awel y môr helpu lleihau llygredd aer i raddau, a gwneud hi'n fwy anodd i rai mathau o goed dyfu a ffynnu.

Mae Coed Cadw'n dadlau bod pob ardal ddinesig angen gorchudd coed digonol.

"Mae'r buddion sy'n dod yn sgil coed ond yn dod yn sgil coed," dywedodd y rheolwr materion cyhoeddus, Inigo Atkin.

"Mae coed yn gwneud gwahaniaeth anferthol i lygredd aer.

"Ar ddiwrnodau gwirioneddol boeth, mae coed yn arbennig o dda am amsugno gwres sydd ddim wedyn yn cael ei adlewyrchu oddi ar y palmant, gan godi holl dymheredd yr amgylchedd dinesig bum, chwech, saith neu wyth gradd yn uwch na sydd i'w ddisgwyl mewn ardal eithaf deiliog."

Llun o Gae Ras, Wrecsam o'r awyr, sy'n dangos bod nifer o goed aeddfed yn yr ardalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae strategaeth ar waith ers dros ddegawd i blannu mwy o goed yn sir Wrecsam

Mae Coed Cadw yn galw ar awdurdodau lleol Cymru "i fod yn fentrus ac uchelgeisiol pan ddaw i gynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch coed trefol".

Mewn ymateb i arolwg gan yr elusen yn 2025 ymhlith dros 2,000 o drigolion ardaloedd trefol, dywedodd 88% y dylai pawb gael yr un buddion o ganlyniad plannu coed, ble bynnag maen nhw'n byw.

Mae'r elusen yn cyfeirio at ymdrechion Cyngor Wrecsam i fynd i'r afael â phrinder coed, trwy lunio strategaeth yn 2014 i sicrhau bod 20% o ardaloedd trefol y sir dan orchudd coed.

Mae'r cyngor bellach yn adolygu'r strategaeth honno ac yn bwriadu "estyn ein targed canopi" gan ddefnyddio gwybodaeth rhestr yr elusen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.