Lluniau: Dydd Sadwrn Eisteddfod yr Urdd 2026

  • Cyhoeddwyd

Daeth miloedd i Gae Sioe Môn ar ddiwrnod agoriadol Eisteddfod yr Urdd 2026 - y tro cyntaf i'r ŵyl gael ei chynnal am saith diwrnod ac agor ar ddydd Sadwrn.

Roedd dydd Sadawrn yn ddiwrnod i ddysgwyr Cymraeg ac i gystadlaethau dawnsio - a daeth yr haul allan i groesawu pawb.

Criw o ffrindiau gyda hetiau haul yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Prendergast, Hwlffordd, ddaeth i Fôn i gystadlu yn y parti unsain

Dwy ffrind mewn crys peldroed yr Ariannin
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Emilia a Carolina yr holl ffordd o'r Gaiman, Patagonia, i'r Eisteddfod yng nghrysau pêl-droed Yr Ariannin

Brawd a chwaer ifanc
Disgrifiad o’r llun,

Cynan, o bentref Maenan, ger Llanrwst, yn edrych ar ôl ei chwaer fach Lliwen

Bachgen gyda tlws
Disgrifiad o’r llun,

Esa, 7 oed, o Ysgol Bro Idris, Dinas Mawddwy, yn dathlu ar ôl ennill y llefaru unigol i ddysgwyr - a hynny ddwy flynedd yn unig ers iddo dechrau siarad Cymraeg

Geneth ifanc gyda gwisg a phenwisg
Disgrifiad o’r llun,

Olivia, 9 oed, o Gaernarfon gyda gwisgoedd y ffilm Madfabulous yn stondin Into Film Cymru

Geneth yn ceisio sefyll ar belen goch
Disgrifiad o’r llun,

Mimi ac Evie, o'r Fenni, yn cael hwyl yn y lle syrcas

Person ifanc gyda chwech twp o gandi fflos
Disgrifiad o’r llun,

Prawf mai gŵyl i blant a phobl ifanc ydy hi... George o Sir Benfro yn nôl mwy o gandi fflos i'r stondin losin...

Ymarfer parti llefaru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle am un ymarfer olaf i ddisygblion Ysgol Rhosnesni, Wrecsam, cyn cystadlu yn y llefaru ail iaith blwyddyn 10 ac uwch

Person wedi cael colur
Disgrifiad o’r llun,

Greta o Bethel yn y lle celf - gyda cholur sy'n haeddu bod yn rhan o'r arddangosfa

Tad a'i blant yn edrych ar fap
Disgrifiad o’r llun,

"Lle mae'r stondin candi fflos Dad?" - William a Grace, a'u tad Euros, o Aberystwyth, yn cyrraedd y Maes. Roedd Grace yn cystadlu yn y perfformiad aml-gyfrwng heddiw

Y grwp Tew Tew Tennau
Disgrifiad o’r llun,

Does dim llawer o fynyddoedd ar Ynys Môn i TewTewTennau redeg i fyny nhw wrth iddyn nhw berfformio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cystadleuwyr yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

Mae digon o gyffro ar y Llwyfan Canlyniadau....

Cystadleuydd yn dathlu
Disgrifiad o’r llun,

... ac mae'n le poblogaidd gyda'r dorf hefyd

Dwy o enethod mewn gwisg arian
Disgrifiad o’r llun,

Aria a Non o Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, yn barod i gystadlu yn y dawnsio disgo

Gareth yr orangutan yn eistedd ar gadair gydag oedolyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod yn gallu bod yn le blinedig, ac mae Gareth wedi ymlâdd. Lwcus bod Sion, o stondin Busnes Cymru, yno i edrych ar ei ôl