Andrew Cusworth yn ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod y Garreg Las

Andrew CusworthFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  • Cyhoeddwyd

Andrew Cusworth sydd wedi ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Y thema ar gyfer y fedal eleni oedd barddoniaeth Waldo Williams - un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr 20fed ganrif ac yn un o feibion amlycaf yr ardal leol.

Lluniodd y beirniaid restr fer o dri chyfansoddwr o'r 27 a ymgeisiodd ar gyfer y wobr. Y tri hynny oedd Andrew Cusworth, Gwenno Morgan a Claire Victoria Roberts.

Bu'r tri yn treulio chwe mis yn gweithio gyda'r cyfansoddwr a'r tiwtor, Nathan James Dearden, i ddatblygu gweithiau corawl newydd.

Roedd angen cyfansoddi dau gyfansoddiad byr - un ar gyfer côr lleisiau SATB ac un ar gyfer côr plant/ieuenctid (SA) yn seiliedig ar eiriau Waldo Williams.

Cafodd y cyfansoddiadau eu perfformio yn ystod y seremoni yn y pafiliwn ddydd Sadwrn.

Gwenno Morgan, Andrew Cusworth, Claire Roberts Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfansoddwyr a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd Gwenno Morgan (chwith), Andrew Cusworth a Claire Roberts

Pwy yw Andrew Cusworth?

Fe astudiodd y cyfansoddwr o dde Sir Benfro gerddoriaeth yng Nghaergrawnt lle'r oedd yn ysgolor organ yng Ngholeg Magdalen.

Cwblhaodd radd MMus mewn astudiaethau corawl, hefyd yng Nghaergrawnt, cyn ennill doethuriaeth o'r Brifysgol Agored am ei ymchwil i gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Mae ei gerddoriaeth hyd yma wedi cael ei chyhoeddi gan Novello a Curiad, a'i recordio a'i pherfformio gan amrywiaeth o artistiaid, gan gynnwys Kantos, Concanenda, John Turner, BBC Singers a Calmus Ensemble.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Eisteddfod Genedlaethol, Tŷ Cerdd a Chymdeithas Gerddoriaeth Cymru.

Cyflwynir y wobr o £750 gan Iestyn Evans, er cof am Beti Williams, Rhos-fach, Llantwd, ei athrawes biano.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.