Dafydd Owain yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Dafydd OwainFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Dafydd Owain ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn brynhawn Gwener

  • Cyhoeddwyd

Dafydd Owain sydd wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda'i ail albwm, Ymarfer Byw.

Y beirniaid eleni oedd Lewys Meredydd, Eluned Haf, Alun Cob, Molly Palmer, Huw Bebb a Cadi Glwys.

Yn siarad ar lwyfan y Pafiliwn wrth dderbyn y wobr - ar ddiwrnod ei ben-blwydd - dywedodd ei fod yn "deimlad grêt".

"Mae jyst 'di bod yn flwyddyn wallgo' efo'r record - lot o ymateb da, a ma' hwn yn beth bach neis arall i gael."

Dywedodd ei fod yn "mynd trwy gyfnod eitha' tywyll" wrth gyfansoddi'r albwm, ac y bu'n brofiad "anodd" ei recordio.

"O'n i ddim yn siŵr os oedd hi'n record dda iawn - dwi'n meddwl achos oedd 'na gymaint o bethau personol yn y record, oedd o'n anodd weithia' trio dehongli hynna o ran be' oedd safon y peth."

Y rhestr fer

Y 10 albwm arall a gyrhaeddodd y rhestr fer oedd:

  • Ani Glass - Phantasmagoria - Pwll Records

  • Buddug - Rhwng Gwyll a Gwawr - Recordiau Cosh

  • Casi - Plentyn yr Haul - Codi Pais Records

  • Ciwb - Gad Mi Ddod Mewn - Sain Recordiau

  • Eve Goodman a SERA - Natur - Recordiau Anian

  • Ffenest - Emynau Anghyflawn - Grwndi Records

  • Griff Lynch - Blas Melysa'r Mis - Lwcus T

  • Lafant - Segurdod - Fflach Cymunedol

  • Mari Mathias - Cyfarwydd - Tarian

  • Sonant - Sonant - Ikaching

Ynys enillodd y wobr y llynedd, am eu halbwm Dosbarth Nos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.