Emyr Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod y Garreg Las

Emyr LewisFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ail Gadair Emyr Lewis, ac mae wedi ennill y Goron hefyd

  • Cyhoeddwyd

Emyr Lewis sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

Dyma'r eildro iddo dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau yn 1994.

Ef hefyd enillodd y Goron yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998, a'i ffugenw eleni oedd A.

Y beirniaid oedd Idris Reynolds, yr Archdderwydd Mererid Hopwood a Carwyn Eckley - enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Dywedon nhw ei bod yn "gystadleuaeth ardderchog", a ddenodd 16 o geisiadau - y nifer fwyaf ers 1988 - a'i bod yn eithriadol o dynn rhwng dwy awdl.

Disgrifiad,

Emyr Lewis fu'n trafod y gwahaniaethau rhwng ei fuddugoliaeth eleni, a 32 mlynedd yn ôl

Cafodd Emyr Lewis ei eni yn Llundain, ac fe symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn chwech oed.

Aeth i Ysgol Gymraeg Llundain, Ysgol Gynradd Bryn-taf ac Ysgol Gyfun Rhydfelen, lle taniwyd ei ddiddordeb mewn cynganeddu gan ei athrawes Gymraeg, Nia Daniel (Royles bellach).

Datblygodd ei grefft dan arweiniad yr englynwr T Arfon Williams.

Mae ganddo radd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt a gradd yn y gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae'n byw yng Nghraig-cefn-parc ger Abertawe ers 36 mlynedd.

Idris Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Idris Reynolds y bu'n "gystadleuaeth nas gwelwyd ei thynnach, am wn i, ers Eisteddfod Aberteifi yn 1976"

Mae Emyr Lewis wedi cyhoeddi tair cyfrol o gerddi: Chwarae Mig, Amser Amherffaith/Dysgu Deud Celwydd yn Tsiec a twt lol.

Bu'n aelod cyson o dîm Ymryson y Beirdd Morgannwg, ac ef yw beirniad Englyn y Dydd yn yr Ymryson ers pedair blynedd.

Bu'n gweithio fel cyfreithiwr hyd 2019 pan benodwyd yn bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae bellach yn Athro Emeritws.

Cyn hynny bu'n gweithio hefyd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd ac yn aelod o Bwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop, sy'n craffu ar sut mae gwledydd yn trin ieithoedd lleiafrifol.

'Awdl wefreiddiol a thyner'

Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Llinell/Llinellau.

Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Idris Reynolds fod dwy awdl wedi dod i'r brig - Pwll y Wrach, ac A.

Yn trafod awdl A, dywedodd: "Dyma reiat o awdl sy'n dod â newydd-deb carlamus i gystadleuaeth y Gadair.

"Mae'n tywys yr awdl eisteddfodol i fannau na fu yno o'r blaen wrth blymio i ddyfnderoedd abswrd yr isymwybod.

"Siwrne drên sydd yma drwy hunllefau'r nos dan gromlin y lleuad anwadal, anwastad.

"Ond trên rhyfedd yw hwn. Nid oes teithiwr arall arno, na chwaith na thaniwr na gyrrwr na giard.

"A dweud y gwir, aros yn ei unfan a wna; y nos sy'n symud o'i gwmpas.

"Siwrne echrydus yw hon gan fod haid o adar ar y lein – 'rhyw ddwywaith, tri pymtheg plws wythdeg-saith' ohonynt.

"Mae sticeri arnynt gyda'u henwau arswydus megis Mastrwni, Mwgi Mekk, Fathadawra a Derekk – gyda dwy 'k' gyda llaw.

"Crynhoir y cwbl gyda'r llinell ardderchog 'Adar nad adar ydynt'.

y gadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae blaen y gadair wedi'i ysbrydoli gan gadair yr Arglwydd Rhys, sydd i'w gweld yng Nghastell Aberteifi

"Mae'r adar yn ei ddrysu'n llwyr wrth chwarae ar ei ansicrwydd.

"I ddianc mae'n disgyn o'r trên, ond gwaethygu wna pethau wrth iddo ddod, yng ngeiriau'r bardd, at 'dŷ maen mawr erchyllwych, marmor chwellawr'.

"Mae'r perchennog y ei adnabod ac mae'r gwatwar a'r pwyntio bys yn waeth byth.

"Ond mae dihangfa'n dod drwy gyffyrddiad ysgafn ei gymar a'i 'Bore da' tyner.

"Mae'r siwrne drosodd, mae'r hunllef drosodd a'r lleuad wedi diflannu.

"Ac mae'r diweddglo yn gyfoethog o amwys 'Mae trannoeth. Mae trueni,'

"Diolch i A am awdl wefreiddiol a thyner.

"Braint o'r mwyaf yw cytuno â'm cyd-feirniaid mai eiddo A yw'r gadair eleni a hynny mewn cystadleuaeth nas gwelwyd ei thynnach, am wn i, ers Eisteddfod Aberteifi yn 1976"

Mae'r gadair yn rhoddedig eleni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a'r wobr o £750 yn rhoddedig gan Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi.

Tomos Lewis, sy'n wreiddiol o Langlydwen, oedd yn gyfrifol am gynllunio a chreu'r gadair, ac mae mwy o wybodaeth amdani yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.