Grŵp teuluoedd mewn galar yn gwrthod adolygiad Covid heb bwerau cyfreithiol

- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr dros deuluoedd a gollodd berthnasau i Covid yn dweud na fyddant yn cymryd rhan mewn adolygiad Llywodraeth Cymru i'r pandemig oni bai bod ganddo bwerau statudol.
Mae Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dweud ei fod yn pryderu y bydd yr adolygiad yn "ad hoc" heb unrhyw bŵer cyfreithiol i alw pobl i roi tystiolaeth dan lw, rhywbeth a addawodd y gweinidog iechyd cyn dod i rym.
Mae llywodraeth Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd yn cynnal adolygiad annibynnol o sut y gwnaeth y weinyddiaeth Lafur flaenorol drin y pandemig ond nid yw wedi rhoi manylion.
Mae Reform yn dweud y byddai unrhyw beth heblaw ymchwiliad cyhoeddus llawn i Gymru yn "dro pedol aruthrol" gan Blaid Cymru.
Gwraig a gollodd ei gŵr i Covid yn benderfynol o gael swydd fel nyrs
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
Lleisiau plant Covid: 'Methu canolbwyntio a ddim mor allblyg'
- Cyhoeddwyd29 Medi 2025
Cyhuddo AS o fod ar ei ffôn a 'phoeni dim' wrth wrando ar deuluoedd Covid
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
Gwrthododd llywodraeth flaenorol Lafur Cymru gynnal ymchwiliad, gan ddadlau y dylid ymchwilio iddo yng nghyd-destun y DU.
Nawr mae gweinyddiaeth Plaid Cymru wedi dweud y bydd adolygiad yn cael ei sefydlu gan Dafydd Trystan Davies, y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad.
Ym mis Mawrth dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd ac sydd bellach yn weinidog iechyd, fod ei blaid wedi ymrwymo i gynnal "ymchwiliad byr a manwl" mewn meysydd nad ydynt wedi'u cynnwys yn "ddigonol" gan yr ymchwiliad ledled y DU.
Ond dywedodd y byddai ganddo "gylch gwaith ac amserlen glir" ac na fyddai'n ymchwiliad cyhoeddus llawn fel yr un ar gyfer y DU.
"Y disgwyliad gydag ymchwiliad cyhoeddus yw ei fod yn broses agored gydag adnoddau ac amser diderfyn," meddai.
"Nid dyna yr ydym yn ei gynnig. Bydd ein hadolygiad yn fyr, yn graff ac yn ffocysu, a'i nod a'i bwrpas yn glir - dysgu'r gwersi o'r pandemig y mae angen i ni eu dysgu yma yng Nghymru."
Ond dywedodd hefyd ar y pryd y byddai tystion yn cael eu gorfodi i roi tystiolaeth dan lw.
Pwy sy'n gyfrifol?
Ddydd Iau, dywedodd Catherine Griffiths – cyd-arweinydd Covid Bereaved Families for Justice Cymru, y bu farw ei thad ar ôl dal Covid-19 mewn cartref gofal – wrth y BBC y dylai fod gan yr adolygiad bwerau statudol.
"Er mwyn canfod beth ddigwyddodd, nodi pwy sy'n gyfrifol a gwneud argymhellion, mae angen i'r ymchwiliad fod yn un statudol.
"Fel arall, trefniant ad hoc ydyw. Does neb yn gorfod darparu tystiolaeth.
"Ni fyddem yn gallu cymryd rhan mewn adolygiad fel grŵp, ac mae'n ymddangos bod Plaid yn gweithredu'n groes i'w haddewid maniffesto."
Mae Benjamin Hodge Mckenna AS, llefarydd iechyd Reform, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru hefyd, gan ddweud na fydd y cyhoeddiad "yn gwneud llawer i guddio'r ffaith bod Plaid wedi torri eu haddewid i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid".
"Addawodd Plaid ymchwiliad llawn i Covid yng Nghymru, ond maent bellach wedi newid eu safbwynt yn llwyr ac mewn modd syfrdanol," meddai.
"Reform yn unig y gellir ymddiried ynddynt i gyflawni'r hyn rydym yn ei addo."
Dywedodd Natasha Asghar, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod yn edrych ymlaen at graffu ar gyfnod "anarferol a thrallodus".
"Mae cwestiynau anodd y mae angen mynd i'r afael â nhw, megis pam y caniatawyd i'r feirws ledaenu mewn cartrefi gofal, a pham y mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull llawer llymach o ran cyfyngiadau symud o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU," meddai Asghar.
Disgwylir i Dafydd Trystan Davies ddarparu manylion am yr adolygiad pan fydd aelodau o'r Senedd yn dychwelyd o doriad yr hydref ym mis Tachwedd.
Nododd datganiad gan Lywodraeth Cymru nos Fercher bod y gweinidog cabinet dros effeithiolrwydd llywodraeth a'r cyfansoddiad wedi cytuno i sefydlu adolygiad annibynnol o Covid-19 yng Nghymru.
Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.