'Hwb i'r economi a'r Gymraeg' – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, "dydy Eisteddfod ddim yn cyrraedd ac yn diflannu. Y bwriad yw gadael ôl ar gymunedau'r ynys am flynyddoedd."

GanGwen Aeron
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn wagio, mae llawer yn gofyn yr un cwestiwn – be' fydd gwaddol yr ŵyl ar yr ynys?

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ddod i Ynys Môn ers 2004, ac eleni hefyd oedd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd bara saith diwrnod llawn.

O hwb economaidd i fusnesau lleol, i gynnydd mewn hyder ymysg pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg, mae sawl un yn dweud fod yr Eisteddfod wedi gadael "ôl parhaol" ar gymunedau'r ynys.

Ar ddiwrnod olaf yr ŵyl, cadarnhaodd Urdd Gobaith Cymru fod Eisteddfod Ynys Môn 2026 wedi torri recordiau.

Cafwyd 118,089 o gofrestriadau i gystadlu – y nifer uchaf erioed i Eisteddfod yr Urdd yn y gogledd – gyda dros 14,000 o'r rheiny yn dod o Ynys Môn.

Yn ystod yr wythnos hefyd, cyhoeddwyd mai hon oedd Eisteddfod fwyaf gwyrdd y mudiad erioed, gyda 40 tunnell o allyriadau carbon wedi eu harbed drwy ddefnyddio ynni gwyrdd ar y maes.

Yn ôl Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, "dydy Eisteddfod ddim yn cyrraedd ac yn diflannu. Y bwriad yw gadael ôl ar gymunedau'r ynys am flynyddoedd."

Elfed Morgan Morris
Disgrifiad o’r llun,

"Dyna ydi gwir waddol yr Eisteddfod i fi – bod plant yn gweld y Gymraeg fel iaith fyw, gymdeithasol a hwyl" meddai Elfed Morgan Morris

Un o'r enghreifftiau amlycaf o'r effaith honno oedd y gwaith o sefydlu adran newydd sbon ar yr ynys - Adran Lligwy - a hynny'n benodol ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

Elfed Morgan Morris, pennaeth dwy ysgol yn Môn oedd yn gyfrifol am ei sefydlu ac am hyfforddi'r plant yno.

"Mae'r Eisteddfod yma o'r diwedd, a 'da ni wedi bod yn edrych ymlaen drwy'r flwyddyn am y diwrnod mawr o agor," meddai.

"Fel ysgol, 'da ni wedi bod yn andros o weithgar, nid yn unig yn cystadlu fel ysgol, ond hefyd yn sefydlu adran newydd, sef Adran Lligwy.

"Ar y dechrau, doeddan ni ddim yn gwybod faint o blant oedd am gymryd rhan, ond mae'r diddordeb wedi bod yn anhygoel. Mae'r plant wedi taflu eu hunain i mewn i bob dim – canu, dawnsio, actio – a'r peth gorau ydi eu bod nhw'n gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg."

'Plant yn gweld y Gymraeg fel iaith gymdeithasol a hwyl'

Dywedodd fod gweld hyder y plant yn tyfu dros y misoedd diwethaf wedi bod yn "arbennig iawn".

"Mae rhai o'r plant yma o bosib ddim wedi defnyddio llawer o Gymraeg y tu allan i'r ysgol o'r blaen, ond erbyn hyn maen nhw'n dod i ymarfer ac yn sgwrsio'n naturiol efo'i gilydd yn Gymraeg.

"Dyna ydi gwir waddol yr Eisteddfod i fi – nid jyst y perfformiadau mawr, ond y ffaith bod plant yn gweld y Gymraeg fel iaith fyw, gymdeithasol a hwyl."

Ychwanegodd fod y gwaith yn mynd i barhau ymhell ar ôl i'r maes gau.

"Mae'r plant eisoes yn gofyn pryd mae'r ymarferion nesaf. Mae rhai ohonyn nhw isio cystadlu ym Mro'r Wenynen yn barod," meddai wrth chwerthin.

"Dach chi'n gallu gweld y balchder yn wynebau'r plant. Dyna'r peth fydd yn aros efo nhw. Mae hynny'n dangos bod rhywbeth wedi cydio!"

Mabli a Nerys Haf o Gwmni Llefrith Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Mabli a Nerys Haf o Gwmni Llefrith Cybi yn dweud fod yr wythnos wedi bod yn "help enfawr" i'r busnes

Roedd Cwmni Llefrith Cybi, sydd wedi ei leoli ar Ynys Cybi, ymysg y busnesau oedd yn gwerthu ar y maes am y tro cyntaf.

Dywedodd Mabli a Nerys Haf o'r cwmni fod cael bod yn rhan o'r Eisteddfod wedi bod yn "brofiad arbennig".

"Ni yw Cwmni Llefrith Cybi, a mae'n ffantastig i fod yma yn Eisteddfod yr Urdd wythnos yma yn cefnogi digwyddiad mor ffantastig i bobl ifanc ar draws Cymru," meddai Mabli.

'Llwyfan i fusnesau bach lleol'

"Mae'n brilliant i ni fel cwmni lleol gael bod yn rhan ohono fo ac i ddangos Ynys Môn ar ei gorau.

"Mae pobl wedi bod yn dod atom ni drwy'r wythnos yn gofyn am y busnes, yn gofyn lle 'da ni wedi ein lleoli, ac mae hynny'n neis iawn achos mae'n rhoi llwyfan i fusnesau bach lleol."

Er mai dim ond ers blwyddyn mae'r cwmni wedi bod yn gwneud hufen iâ, mae'r teulu wedi bod yn cynhyrchu llaeth ers dros 70 mlynedd.

"'Da ni'n weddol newydd i wneud hufen iâ, felly mae wythnos fel hyn yn help enfawr i ni," ychwanegodd Nerys Haf.

"Mae hi wedi bod yn hynod brysur. 'Da ni'n ddiolchgar iawn am yr haul wythnos yma – mae hynny wedi bod yn ffantastig i ni yn y busnes.

"Mae gweld cymaint o bobl ifanc Cymraeg yn mwynhau eu hunain yma hefyd yn neud rhywun yn falch iawn o'r ynys."

Llio Parry o Gyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

"Mae digwyddiad fel hyn yn rhoi hwb economaidd enfawr i'r ardal," meddai Llio Parry o Gyngor Sir Ynys Môn

Dywedodd Llio Parry o Gyngor Sir Ynys Môn fod yr wythnos wedi rhoi "boost anhygoel" i'r economi leol.

"Mae'n rili rili da gweld gymaint o fusnesau lleol yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026," meddai.

"Mae'n fraint i fod yma fel aelod o Gyngor Sir Ynys Môn, a just mor braf gweld gymaint o leisiau Cymraeg a'r gymuned i gyd yn dod at ei gilydd.

"Mae digwyddiad fel hyn yn dod â miloedd o bobl i'r ynys – pobl yn aros mewn gwestai, yn defnyddio caffis, bwytai a siopau lleol.

"Mae hynny'n rhoi hwb economaidd enfawr i'r ardal, ond hefyd yn rhoi hyder i fusnesau lleol fod digwyddiadau mawr Cymraeg yn gallu gweithio yma ac yn gallu denu pobl o bob rhan o Gymru."

Ychwanegodd fod yr wythnos wedi dangos yr hyn sy'n bosibl i'r ynys yn y dyfodol.

"Mae'n dangos bod Ynys Môn yn gallu croesawu digwyddiadau mawr cenedlaethol a gwneud hynny'n llwyddiannus.

"Mae yna falchder lleol mawr wedi bod wythnos yma."

Cheryl a Ceri Thomos o Siop Sêr Bach
Disgrifiad o’r llun,

Cheryl a Ceri Thomos o Siop Sêr Bach yn dweud eu bod wedi "cyfarfod llwyth o gwsmeriaid newydd" yn ystod yr wythnos

Ymhlith y busnesau eraill ar y maes roedd Siop Sêr Bach o Langefni.

Dywedodd Cheryl a Ceri Thomos fod y profiad wedi bod yn un "ofnadwy o dda", gyda llawer o bobl newydd yn darganfod y busnes am y tro cyntaf.

"Pawb wedi edrych ar ôl ni o'r funud wnaethom ni archebu lle," meddai Cheryl.

"'Da ni wedi cael gwybodaeth dda, cyfathrebu da, ac wedi cyfarfod llwyth o gwsmeriaid newydd.

"Mae hi wedi bod yn brofiad positif ofnadwy, ac mae hi'n neis gweld pobl yn awyddus i gefnogi busnesau lleol Cymraeg."

Dywedodd Ceri fod cael siarad Cymraeg efo cwsmeriaid drwy'r wythnos wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

"Mae'r awyrgylch wedi bod mor gyfeillgar. Mae pobl yn dod draw i siarad, i ofyn am y busnes ac i gefnogi.

"Dyna sy'n neis am yr Eisteddfod – mae'n dod â phobl at ei gilydd."

Mair Wyn Jones o Boutique MD
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mair Wyn Jones o Boutique MD fod yr Eisteddfod wedi dod ar "yr amser perffaith" i'w busnes newydd

Yn y cyfamser, dywedodd Mair Wyn Jones o Boutique MD yn Llangefni fod yr wythnos wedi dod ar "yr amser perffaith" i'w busnes newydd.

"Mae'n fraint cael bod yn yr Eisteddfod ar Ynys Môn," meddai.

"'Da ni'n lwcus iawn cael hi mor agos atom ni, ac yn enwedig gan 'mod i newydd agor siop newydd yn Llangefni.

"Mae'r tywydd wedi bod efo ni, mae pawb mewn hwyliau da, a mae'n neis cael bod yma yn hybu busnes lleol newydd."

Dywedodd fod yr wythnos wedi bod yn gyfle pwysig i roi enw'r busnes allan i gynulleidfa newydd.

"Mae llawer o bobl wedi dod draw wythnos yma sydd falle ddim wedi clywed amdanom ni o'r blaen.

"Mae hynny'n bwysig iawn i fusnes newydd – cael y cyfle i gyflwyno dy hun i bobl newydd wyneb yn wyneb."

Robin Hughes o Tai Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Robin Hughes o Tai Gogledd Cymru yn dweud fod yr wythnos wedi helpu dangos fod "cyfleoedd yma" i bobl ifanc aros ar yr ynys

Dywedodd Robin Hughes o Tai Gogledd Cymru fod yr Eisteddfod wedi bod yn gyfle i newid canfyddiadau pobl am fyw ar yr ynys.

"Mae hi wedi bod yn wythnos braf dangos i bobl yn Sir Fôn bod gennym ni dai fforddiadwy yma," meddai.

"Mae mwy o dai ar fin cael eu hadeiladu hefyd, felly mae cyfleoedd i chi aros ar yr ynys os ydych chi wedi tyfu i fyny yma neu os oes gennych chi deulu yma ac eisiau symud i'r ardal.

"Yn aml iawn mae pobl ifanc yn meddwl bod rhaid gadael yr ynys i gael gwaith neu i gael cartref, ond mae'n bwysig dangos fod cyfleoedd yma."

Dywedodd fod digwyddiadau fel yr Eisteddfod yn helpu rhoi hyder mewn cymunedau lleol.

"Mae pobl wedi gweld wythnos yma fod yr ynys yn fyw, yn Gymraeg ac yn llawn potensial.

"Mae hynny'n bwysig, yn enwedig i bobl ifanc sydd eisiau adeiladu dyfodol yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.