Enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Medal Gelf yr Urdd

- Cyhoeddwyd
Dafydd Llŷr Hughes o Lanbedrog, Pen Llŷn, sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 a Lleucu-Haf Thomas o Sir Benfro sydd wedi ennill y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.
Mae'r ysgoloriaeth sydd werth £2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a'i deulu yn cael ei rhoi am y casgliad o waith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Blwyddyn 10 a 25 oed.
Mae'r Fedal yn cael ei rhoi i'r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno'r gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran oedran Blwyddyn10 i 19 oed.
Beirniaid yr ysgoloriaeth eleni oedd Diana Williams a Nicola Gibson ac mae'r tlws er cof am Owen a Manon Griffith.
Carys Jones, Christine Mills, Siwan Thomas, Owain Sparnon, Ellen Thorpe, Arwyn Roberts a Diana Williams oedd beirniaid y Fedal - sy'n cael ei rhoi er cof am Andrew Southall.

Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc
Mae Dafydd yn 19 oed ac yn dod o bentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Llanbedrog ac Ysgol Botwnnog, mae newydd gwblhau cwrs Ecoleg a Chadwraeth yng Ngholeg Reasheath, Nantwich ar ôl treulio blwyddyn yn Ngholeg Glynllifon yn astudio coedwigaeth a chadwraeth.
Bydd yn mynd i Brifysgol Falmouth yng Nghernyw ym mis Medi i astudio ffotograffiaeth.
Dywedodd Dafydd: "Dechreuais dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo gan gychwyn gyda chamera ffôn cyn symud ymlaen i ddefnyddio camera.
"I ddechrau roeddwn i'n tynnu lluniau o'r golygfeydd anhygoel sydd gennym yn Llŷn - traethau Llanbedrog, Porth Neigwl a'r anifeiliaid gwyllt sy'n byw yno.
"Rwyf wrth fy modd allan yn yr awyr agored ac mae fy niddordebau eraill fel pysgota a syrffio yn adlewyrchu hynny.
"Rwyf yn edrych ymlaen at gychwyn ar fy astudiaethau ym mis Medi.
"Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Urdd am y cyfle drwy'r ysgoloriaeth i allu gwireddu fy nod o ysbrydoli pobl drwy fy ffotograffiaeth i fwynhau a pharchu byd natur."
Beirniad y gystadleuaeth yw Diana Williams, cyn-ddarlithydd o'r adran gelf ym Mhrifysgol Bangor a Nicola Gibson, rheolwr profiad ymwelwyr yn Oriel Môn yn Llangefni.
Dywedodd y beirniaid: "I'r brig daeth ymgeisydd wnaeth ein swyno, nid yn unig efo'i bortffolio ond ei angerdd heintus a'i gariad pur tuag at ei waith.
"Mae'n talu teyrnged i'w fro ac yn cyflwyno delweddau hudolus. Dyma gadwraethwr brwd gydag angerdd am bioamrywiaeth a gwarchod ei gynefin.
"Roedd stori tu ôl i pob darn ac roedd sensitifrwydd y gwaith a'r oriau maith i gipio un ddelwedd yn syfrdanol.
"Mae gan Dafydd lwybr pwrpasol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae'n feistr parod ar ei grefft sydd am fynd o nerth i nerth ac esblygu. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa a'i ddatblygiad artistig."
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Dyfed Childs o Ysgol Bro Hyddgen a Moli Prendergast o Holeg Menai, Bangor oedd yn drydydd.

Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Mae Lleucu-Haf Thomas, yn 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Preseli, Crymych lle mae hi yn ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth yn astudio Cerdd, Drama a Chymraeg. Mae'n aelod brwd o'r Urdd, ac yn Gadeirydd Aelwyd Crymych.
Dywedodd: "Yn ferch o gefn gwlad mae'n meddwl y byd i mi gael rhannu'r grefft o drin a phlethu llafur a dangos y broses o gasglu'r cynnyrch o'r cae, i'w dorri a'i sychu, ac yna mynd ati i greu.
"Mae'r broses o greu a phlethu efo llafur yn rhywbeth personol iawn i fi. Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a'i greu dros oriau di-ri.
"Teimlaf ei bod hi'n hanfodol bwysig i gadw'r traddodiadau hen yn fyw a hoffem ddiolch i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno'r sgil anghyffredin i mi nôl yn 2020 ac am yr holl anogaeth ac ysbrydoliaeth."
Dywedodd y beirniaid: "Roedd y gwaith yn drawiadol, medrus a chaboledig. Dyma waith crefftus, gwreiddiol a chyfoes.
"Mae'r enillydd yn feistr ar ei chrefft a braf yw gweld hen grefftau traddodiadol fel hyn yn dod i'r brig."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
