'Diffyg hyder' gan athrawon ar bynciau 'cymhleth a sensitif' addysg rhyw

dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Nid oes gan lawer o athrawon hyder wrth ymdrin â rhai o'r themâu mwy "cymhleth neu sensitif" ym maes Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), yn ôl adroddiad.

Mae Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion Cymru, yn dweud bod anghysondeb wrth addysgu pobl ifanc am rywioldeb, cydsyniad, hunaniaeth rhywedd a stereoteipiau rhywiol niweidiol.

Er bod ansawdd y ddarpariaeth yn amrywio, mae Estyn yn dweud fod yna "batrymau clir o ymrwymiad moesol cryf ar draws systemau i gefnogi a hyrwyddo lles disgyblion a pherthnasoedd iach".

Dywedodd Llywodraeth Cymru "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i gefnogi eu hiechyd, eu lles a'u diogelwch."

'Staff yn llai hyderus'

Mae ACRh yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer plant tair i 16 oed, ac mae'n cynnig addysg ar faterion fel perthynas, hunaniaeth, iechyd rhywiol, lles, diogelwch a pharch sy'n addas i blant yn ôl eu hoed.

Yn ôl yr adroddiad roedd angen mynd i'r afael gyda'r amrywiaeth yn hyder staff i addysgu'r pwnc.

Mae'r adroddiad yn dweud: "Roedd staff yn llai hyderus wrth addysgu themâu mwy cymhleth neu sensitif, fel rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, misogynedd, a normau niweidiol o ran rhywedd."

Er hynny roedd llawer o ysgolion yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, swyddogion heddlu a sefydliadau cymunedol er mwyn eu helpu i ymateb yn effeithiol i bryderon a oedd yn dod i'r amlwg gan gynnwys misogynedd, ecsbloetio ar-lein, agweddau niweidiol at normau rhywedd a pherthnasoedd afiach.

Roedd bron pob disgybl gafodd eu holi gan Estyn mewn 30 ysgol wedi dweud eu bod nhw'n "teimlo'n ddiogel yn yr ysgol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu gofyn am gymorth pan roedd angen".

Roedd pryder serch hynny am ddilyniant rhwng y sector cynradd ac uwchradd gan arwain at ddylbygu mewn rhai meysydd ac at fylchau mewn meysydd eraill.

Roedd amrywiaeth yn y gefnogaeth i ysgolion gan awdurdodau lleol a phwysau ariannol a phrinder amser hefyd yn cael effaith ar ansawdd y ddarpariaeth.

"At ei gilydd, roedd disgyblion yn elwa ar ddysgu a oedd yn briodol i oedran ac yn cyd-fynd yn dda â'u cyfnod datblygiadol", meddai Estyn.

dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryder serch hynny am ddilyniant rhwng y sector cynradd ac uwchradd gan arwain at ddylbygu mewn rhai meysydd ac at fylchau mewn meysydd eraill

Roedd disgyblion tair oed dysgu am gariad, caredigrwydd a chyfeillgarwch.

Roedd disgyblion saith oed yn archwilio cydraddoldeb, diogelwch digidol a pherthnasoedd iach, a disgyblion hŷn ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn trafod testunau fel cydsyniad, hunaniaeth rhywedd a pherthnasoedd camdriniol.

Ond doedd ddim digon o gynllunio i sicrhau bod ACRh yn cael sylw yn y cwricwlwm ehangach.

"Prin oedd yr ymdriniaeth â thestunau fel rhyw, rhywedd a rhywioldeb. Roedd hyn yn dibynnu'n sylweddol ar hyder staff unigol, eu dealltwriaeth o sut i fynd i'r afael â thestunau sensitif a'u gallu i ddefnyddio'r derminoleg gywir."

Ond, meddai'r arolygwyr, roedd y cryfderau'n gorbwyso meysydd i'w datblygu: "Ar draws bron pob ysgol roedd disgyblion yn ymgysylltu'n gadarnhaol â dysgu ACRh."

"Roeddent yn dangos empathi, parch, ac awydd i drafod materion yn ymwneud â pherthnasoedd" ac roedd disgyblion hŷn "yn aml yn dangos dealltwriaeth aeddfed o themâu mwy cymhleth".

Owen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans, "mae'n bwysig bod dysgu'n datblygu o ran manylder a chymhlethdod"

Yn ôl Prif Arolygydd Estyn, Owen Evans, "mae'n bwysig bod dysgu'n datblygu o ran manylder a chymhlethdod fel y gallant feithrin y wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd fel oedolyn".

Wrth ymateb fe ddywedodd undeb pennaethiaid ysgolion NAHT Cymru: "Ar adeg pan mae ysgolion yn wynebu prinder arian dyw hi ddim yn ymddangos fod meysydd fel hyn wedi cael blaenoriaeth ac ry ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod hyn yn digwydd"

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad Estyn ac yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ar Addysg Rhywiol a Pherthynas (ABR) i bob ysgol er mwyn rhoi hyder a chysondeb ledled Cymru.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i gefnogi eu hiechyd, eu lles a'u diogelwch."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig