Teyrnged i ymgyrchydd canser a'r fam 'fwyaf caredig, llawn cariad a chryfder'

Elen HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elen - mam i dri o blant - yn un o sylfaenwyr gwefan Ffynnu

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchydd o Ynys Môn sydd wedi'i disgrifio fel "y person mwyaf caredig, llawn cariad a chryfder" wedi marw ar ôl brwydr 18 mlynedd â chanser.

Cafodd Elen Hughes, 55 o Lansadwrn, ei diagnosis cyntaf yn 2008.

Ond ar ôl goroesi canser y fron fe ddaeth yn ôl yn 2016 fel canser cam 4 ar ei hesgyrn a'i serfics, a doedd dim modd gwella.

Roedd Elen - mam i dri o blant - yn un o sylfaenwyr gwefan Ffynnu, dolen allanol, sy'n cynnig cymorth i bobl â diagnosis o ganser, ac roedd hi'n gwneud podlediadau er mwyn sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar gael.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei chwaer Glain fod Elen bob amser eisiau helpu pobl eraill, ac mae ei neges oedd i "gymryd anadl ddofn a dal ati".

Dywedodd ei merch, Catrin Elen Limberg ar y cyfryngau cymdeithasol fod pawb a "oedd yn 'nabod mam yn gwybod mor ddisglair oedd hi".

"Roedd hi'n gallu rhannu ei chariad hefo pawb a helpu pobl arall er ei bod mor sâl ei hun.

"I fi, hi oedd y fam orau un."

Wrth rannu ei phrofiad ar-lein dywedodd Elen ei bod yn agored iawn gyda'i theulu a'i ffrindiau agos.

"Nes i ddim sôn llawer mwy nag egluro am y llawdriniaeth hefo'r plant y tro cyntaf," meddai ac "roedd rhannu am y diagnosis cam 4 yn llawer anoddach".

Esboniodd ei bod wedi gorfod dysgu i fyw gyda chanser a cheisio ei reoli, ond "ar ôl 10 mlynedd o fyw fel hyn, nes i benderfynu siarad allan, ac rydw i wedi derbyn cymaint o ymateb positif gan bobl ar ôl gwneud hyn".

Bu hefyd yn siarad am ei phrofiad yn trio cyffur newydd ar ôl i'r bilsen capivasertib gael ei chymeradwyo yng Nghymru a Lloegr.

Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn y llynedd dywedodd ei bod "mor falch" ei bod yn fyw i gael cyfle i drio'r cyffur, a chael bod yn "guinea pig er mwyn g'neud bywyd pobl eraill yn well".

"Ma'r cyffur yma yn mynd i newid y gêm i ni," meddai.

"'Dwn i ddim am faint, ond mae o'n golygu bo' ni'n gallu, gobeithio, edrych ar ddwy, dair, pedair, ella' pum mlynedd o heddwch."

'Calon ein teulu ni'

Wrth fyw gyda chanser fe benderfynodd Elen wneud pethau positif fel cynllunio podlediad, sefydlu gwefan Ffynnu a garddio, a oedd yn help mawr, meddai.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei merch Catrin: "Gyda'r tristwch mwyaf un ydw i'n rhannu 'mod i wedi colli mam anhygoel.

"Hi oedd y person mwyaf caredig, llawn cariad a chryfder, a chalon ein teulu ni.

"Hi oedd fy ffrind gorau un. Roedd ei chariad yn ddiddiwedd ac yn ddiamod a bydd hynny'n para am byth."

Mae Elen yn gadael ei gŵr Trevor, ei thri o blant Catrin, Thomas a Richard, ei hwyres Alice Elen a'i mam Anwen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig