Cyfres ddrama TikTok yn 'arbrofi' ag arferion gwylio cynulleidfaoedd iau

Disgrifiad,

Bydd Signal yn gyfres 60 o benodau fydd yn cael eu cyhoeddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol

GanBeth Alaw Williams
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn ogystal â bwrlwm y cystadlu, roedd y Sioe Fawr yn Llanelwedd hefyd yn gefndir i gyfres ddrama fertigol newydd ar gyfer TikTok, gyda'r nod o ddenu cynulleidfaoedd iau at gynnwys Cymraeg.

Bydd Signal yn dilyn perthynas bachgen o Gaerdydd a merch o gefn gwlad Cymru, gan adrodd stori ramant dros 60 o benodau i gynulleidfaoedd ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae Gabriel Owen, un o sêr ifanc y gyfres newydd, yn dweud mai'r platfformau yma yw "ble mae'r byd yn mynd", gyda'r gyfres yn cael ei ffilmio gyda maint ffôn mewn ystyriaeth.

Gyda phob pennod ond ychydig funudau o hyd, y gobaith yw y bydd y gyfres ar gyfer Hansh ar S4C yn dal sylw cynulleidfaoedd ifanc wrth i arferion gwylio newid.

Gabriel- polo shirt glas a cefndir pinc efo brandio S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gabriel Owen yn chwarae rhan Alffi yn y gyfres ddigidol newydd

Er bod actorion fel arfer yn anelu at fyd teledu a sinema, mae Gabriel o Gaerdydd yn dweud ei fod yn treulio "gormod o amser" ar gyfryngau cymdeithasol.

Nawr, mae'n chwarae rhan Alffi yn y gyfres fydd yn ymddangos ar blatfformau digidol yn unig.

Dywedodd: "Dwi'n credu dwi'n ffodus i gychwyn ar fath newydd o ddramâu fel hwn.

"Dyma ble mae'r byd yn mynd, mae popeth yn mynd at gyfryngau cymdeithasol.

"Jyst wrth sgrolio, bydd o'n hawdd i wylio fe."

Lili yn gwisgo crys melyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Lili ddileu TikTok oddi ar ei ffôn gan ei fod "mor addictive"

Mae ei gyd-actor, Lili Mai Davies o Sir Gar wedi cyfaddef y bydd yn rhaid iddi ail-lawrlwytho TikTok i wylio'r gyfres, ar ôl gorfod ei ddileu gan ei fod "mor addictive".

Er mai dyma'r tro cyntaf iddi gymryd rhan mewn cynhyrchiad o'r fath, doedd hi ddim yn credu bod "gwahaniaeth mawr" yn y ffordd roedden nhw'n ymdrin â'r gyfres.

"Mae o dal yn cymryd yr un faint o amser i wneud, mae e' jyst yn ffordd wahanol o ffilmio.

"Mae'n rili pwysig i greu cynnwys Cymraeg i blant a phobl ifanc, a dwi'n credu'r ffordd orau o gysylltu â nhw ydy ar gyfryngau cymdeithasol, fel TikTok ac Instagram."

Guto Rhun
Disgrifiad o’r llun,

Mae S4C yn ceisio bod yn arloesol wrth greu cynnwys ar gyfer pobl iau, yn ôl Guto Rhun

Mae'r cynhyrchiad ar y cyd gyda chwmni Mojo yn adlewyrchu strategaeth S4C i fod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf, wrth i ffigyrau gwylio'r sianel deledu ostwng.

Ar y llaw arall, mae nifer y bobl sy'n edrych ar gynnwys platfformau cyfryngau cymdeithasol y gwasanaeth wedi cynyddu 83%, gyda chomisiynydd cynulleidfaoedd ifanc y darlledwr, Guto Rhun yn dweud bod mwy o fuddsoddiad wedi cael ei roi i'r gyfres.

"'Da ni wastad wedi trio arloesi efo cynnwys mae pobl ifanc yn cysylltu ac ymgysylltu efo," meddai.

"Dwi'n credu 'da ni wedi dangos ymrwymiad i fod yn fwy na sianel teledu."

Gan gystadlu â chynnwys arall y platfform, bydd pob pennod o Signal yn gorffen ar 'cliffhanger' er mwyn denu'r gynulleidfa yn ôl am y bennod nesaf - rhywbeth fu'n "gamp" gan yr ysgrifenwyr, yn ôl Guto.

Hon yw'r ail gyfres fertigol mae S4C wedi gweithio arni, gyda Guto Rhun yn dweud bod y cyfrwng yn "drend ledled y byd" bellach.

Mali Harries
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfarwyddwr Mali Harries yn gobeithio y bydd y gyfres yn cydio sylw cynulleidfaoedd ifanc

Yn ogystal â ffilmio yn y Sioe Fawr, bydd y cynhyrchiad hefyd yn mynd â'r cast a chriw i Faes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Seren Pobol y Cwm ac Y Gwyll, Mali Harries yw cyfarwyddwr y gyfres, ac mae'n credu bod y gyfres yn gyfle i bobl ifanc "ddianc".

"Mae siwrne gan bob cymeriad yn digwydd, felly mae'n gafael ynddoch chi ac yn mynd a chi ar reid.

"Mae gyda ni gast ifanc sy'n rili frwdfrydig ac yn agored iawn, felly gawn ni laugh yn gwneud [y gyfres].

"Achos dwi'n credu os gawn ni laugh yn gwneud y gyfres, bydd pobl yn cael laugh yn gwylio'r gyfres."

Mae disgwyl i Signal gael ei dangos ar TikTok ar ddechrau 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.