Beth yw barn pobl ifanc ar y gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol?

- Cyhoeddwyd
Mae cynllun Llywodraeth y DU i wahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio llwyfannau fel TikTok, Snapchat ac Instagram wedi sbarduno trafodaeth ynghylch diogelwch ar-lein a rhyddid pobl ifanc.
Mae'r llywodraeth "yn gobeithio pasio rheoliadau cyn y Nadolig" fel bod y gwaharddiad yn dod i rym erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Mae cefnogwyr y cynllun yn dadlau y bydd yn helpu i leihau'r niwed y gall plant ei wynebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ond mae eraill yn cwestiynu a yw gwaharddiad llwyr yn mynd i ddatrys y broblem, neu a fydd pobl ifanc yn dod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio'r llwyfannau.

Dywedodd Ifan Parry nad yw'n siŵr mai gwaharddiad llwyr ar gyfryngau cymdeithasol yw'r ateb
Mae Ifan Parry o Ynys Môn, a drodd yn 16 oed yn ddiweddar a fu'n wyneb cyfarwydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Urdd yn ystod yr Eisteddfod eleni, yn dweud nad yw'r mater yn "ddu na gwyn".
"Fedra i weld y da ynddo fo, ond mae'n hawdd i fi ddweud hynny rŵan gan nad yw'n mynd i effeithio arna i, ac os 'sa hyn wedi digwydd ambell fis yn ôl pan o'n i'n 15 byddwn i wedi ei weld fel problem fawr."
Dywedodd nad yw'n siŵr mai gwaharddiad llwyr yw'r ateb ac y byddai'n well gweld mwy o bwyslais ar addysg.
"Dwi'n meddwl bod lot o betha' eraill fedrith y llywodraeth wneud fel dysgu plant sut i fod yn fwy cyfrifol a sut i ddefnyddio technoleg, ac mae addysg yn rhan fawr o'r broblem dan sylw."
Mae "lot o bethau eraill" allai ddiogelu plant ar-lein, meddai Ifan Parry
Ychwanegodd fod y cyfryngau cymdeithasol wedi rhoi cyfleoedd cadarnhaol iddo gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a helpu'r Urdd i greu cynnwys yn ystod yr Eisteddfod.
"Trwy bethau fel 'na ti'n gallu gweld pa mor bositif mae pethau'n gallu bod drwy hybu diwylliant Cymraeg."
Dywedodd hefyd fod diffyg gweithgareddau a mannau i bobl ifanc yn golygu bod llawer yn troi at eu ffonau.
"Dyddiau yma does 'na ddim digon o bethau i bobl ifanc eu gwneud yn gyhoeddus, felly mae'r cyfryngau cymdeithasol yn llenwi'r bwlch."
Ond pwysleisiodd ei fod yn deall bod peryglon ar-lein ac yn croesawu ymdrechion i ddiogelu plant.
"Ma' pob sefyllfa yn wahanol felly dwi'n meddwl mai rhieni a gwarchodwyr ddylai benderfynu beth mae eu plant nhw'n ei wneud ar eu ffonau."

Yn Ysgol Llangynwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd barn disgyblion blwyddyn 8 yn gymysg ynghylch y cynllun.
Dywedodd Charlie ei fod wedi synnu wrth glywed y newyddion gan nad oedd yn disgwyl i'r DU ddilyn esiampl Awstralia.
"Mae e'n teimlo fel bod nhw wedi meddwl amdano fe heb siarad gyda phobl ifanc am hyn," meddai.
Dywedodd Matilda fod cyfryngau cymdeithasol yn rhan o'i bywyd bob dydd ac y byddai'r newid yn un mawr.
"Dwi'n meddwl bydd e'n anodd - mae e'n rhan o fy niwrnod pob dydd, ond bydd e'n cael lot o bobl ifanc oddi ar eu dyfeisiau nhw," meddai.

Ychwanegodd hefyd ei bod yn credu bod pobl yn aml yn fwy parod i ddweud pethau cas ar-lein nag wyneb yn wyneb.
"Mae pobl yn fwy dewr ac yn teimlo eu bod nhw'n gallu dweud pethau ar-lein na fydden nhw byth yn eu dweud wrth rywun wyneb yn wyneb," meddai.
Roedd Lincoln yn fwy cefnogol o'r syniad, gan ddweud fod pobl yn treulio "gormod o amser ar eu ffonau yn lle gweld teulu a ffrindiau".
"Dwi'n meddwl mae'n beth da bod e'n cael ei banio," meddai.
Dywedodd Quaide ei bod yn poeni y byddai gwaharddiad yn atal pobl ifanc rhag mynegi eu hunain yn greadigol.
"Mae pobl yn gallu bod yn greadigol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol a mynegi eu hunain, felly mae'r ban yn mynd i atal nhw rhag gwneud hynny," meddai.
'Pobl yn fwy dewr ar-lein'
Roedd rhai o'r disgyblion hefyd yn dweud bod seibr-fwlio yn broblem ar y cyfryngau cymdeithasol ac y gallai llai o amser ar y llwyfannau leihau ymddygiad o'r fath.
Roedd nifer o'r disgyblion yn credu y bydden nhw'n treulio mwy o amser yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu'n gweld ffrindiau pe na fyddai cyfryngau cymdeithasol ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Charlie y gallai hynny fod yn well i iechyd meddwl pobl ifanc.
"Yn lle edrych ar sgrin, byddwn ni'n cael awyr iach ac yn bod yn gymdeithasol yn lle gwneud e trwy'r ffôn," meddai.
Ar y llaw arall, roedd y disgyblion hefyd yn amau pa mor hawdd fyddai gorfodi'r gwaharddiad, gan awgrymu y gallai rhai greu cyfrifon newydd neu apiau newydd neu ddefnyddio dulliau eraill i osgoi'r rheolau.
Dywedodd Lincoln: "Os ydyn nhw am gadw pobl ifanc off e bydd rhaid iddyn nhw roi mwy o precautions mewn lle i stopio nhw."

Dywedodd Miss Emily Lewis fod llythrennedd digidol yn rhan allweddol o ddiogelwch pobl ifanc ar-lein
Dywedodd Miss Emily Lewis, pennaeth blwyddyn 9 ac athrawes mathemateg yn yr ysgol, ei bod yn cefnogi'r egwyddor o wahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio'r prif lwyfannau.
"Dwi'n meddwl ei fod e'n syniad da i wahardd nhw o'r cyfryngau cymdeithasol," meddai.
Ychwanegodd fod llawer o'r gwrthdaro y mae ysgolion yn ei weld yn deillio o gamddealltwriaeth sy'n digwydd ar-lein.
"Dwi'n meddwl bydd e'n lleihau ar ddigwyddiadau 'dyn ni'n gweld yn yr ysgol," meddai.
Plant dan 16 oed i gael eu gwahardd o TikTok, Snapchat ac Instagram
- Cyhoeddwyd1 awr yn ôl
'Dwi'n deall dibyniaeth': Y rhieni sy'n brwydro am gyfyngiadau ar ffonau
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
Ond dywedodd fod ganddi amheuon ynghylch sut y byddai'r cynllun yn gweithio'n ymarferol a sut y byddai modd gwirio oedran defnyddwyr neu atal pobl ifanc rhag osgoi'r rheolau.
Dywedodd hefyd fod "addysg am ddiogelwch ar-lein yn parhau'n hanfodol", gan bwysleisio bod angen dysgu pobl ifanc sut mae technoleg ac algorithmau'n gweithio yn ogystal â'u cadw'n ddiogel.
Yn ei barn hi, pe bai llai o bobl ifanc yn dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn y lle cyntaf, gallai hynny gael effaith gadarnhaol ar eu lles dros y blynyddoedd i ddod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.