Ymchwiliad heddlu i ddigwyddiad rhwng chwaraewr Caerdydd a chefnogwr Portsmouth

Chwaraewyr Caerdydd a Portsmouth a swyddogion o flaen cefnogwyr yn fuan wedi digwyddiad yn ystod gêm ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd a Portsmouth a swyddogion o flaen cefnogwyr ar ymyl y cae yn fuan wedi digwyddiad yn ymwneud â'r amddiffynnwr Krystian Bielik yn ystod gêm ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad rhwng un o chwaraewyr tîm pêl-droed Caerdydd a chefnogwyr eu gwrthwynebwyr, Portsmouth, yn ystod eu gêm Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.

Roedd yr amddiffynnwr Krystian Bielik yn rhan o ffrwgwd corfforol gyda chefnogwr wrth gasglu'r bêl o blith y dorf yn hwyr yn yr ail hanner.

Yn dilyn y gêm, a gafodd ei hennill gan Portsmouth o ddwy gôl i ddim, fe honnodd prif hyfforddwr Caerdydd, Brian Barry-Murphy, fod Bielik "wedi cael slap i'w wyneb", tra bod fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel petae chwaraewr Gwlad Pwyl yn cydio yn rhan uchaf corff cefnogwr ifanc.

Fe gadarnhaodd Heddlu Hampshire eu bod "yn ymchwilio i ddigwyddiad ble yr honnir bod bachgen yn ei arddegau wedi dioddef ymosodiad cyffredin yn ystod gêm bêl-droed ym Mharc Fratton".

Fe wnaeth sawl cefnogwr Portsmouth ystum yn awgrymu eu bod yn credu bod y bachgen wedi cael ei gydio wrth ei wddf.

Yn y cyfnod dilynol, fe daflodd cefnogwr arall bêl at ben amddiffynnwr Caerdydd, Perry Ng.

Cafodd y ddau gefnogwr eu hel o'r stadiwm.

Conor Shaughnessy yn dathlu sgorio un o'r goliau ddydd Sadwrn wrth i Portsmouth drechu CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Conor Shaughnessy yn dathlu sgorio un o'r goliau ddydd Sadwrn wrth i Portsmouth drechu Caerdydd o ddwy gôl i ddim

Roedd yna ymddiheuriad i chwaraewyr Caerdydd yn dilyn y gêm gan brif hyfforddwr Portsmouth, John Mousinho.

Mewn datganiad brynhawn Sul, dywedodd y clwb eu bod "yn ymwybodol o bryderon cefnogwyr mewn cysylltiad â'r digwyddiad rhwng cefnogwr ifanc a chwaraewr y gwrthwynebwyr yn ystod gêm ddoe ym Mharc Fratton".

Dywed y clwb, gan eu bod hwythau a'r heddlu yn ymchwilio i'r mater, "na fyddai'n briodol i ni wneud sylw pellach ynghylch yr amgylchiadau ar hyn o bryd".

Ond yn sgil "sawl honiad ar y cyfryngau cymdeithasol", maen nhw'n annog pobl i "beidio â dyfalu tra bo'r ymholiadau'n parhau" ac yn pwysleisio bod "lles a diogelwch pobl ifanc o'r pwys mwyaf" i'r clwb.

Ychwanegodd: "Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn gwybod am y mater a bydd yn adolygu manylion adroddiad y dyfarnwr cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau."

Dywedodd CPD Caerdydd: "Rydym yn fodlon gyda'r ffordd y deliodd swyddogion gyda'r sefyllfa yn ystod y gêm, o fod wedi gweld y cyfan.

"Bydd diogelu chwaraewyr wastad o'r pwys mwyaf i ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.