Ffotograffydd trychineb Aberfan yn difaru cymryd llun eiconig

Susan Maybank yn cael ei dal ym mreichiau'r heddwas Victor Jones, mewn llun a gafodd ei dynnu gan Mel Parry ar fore'r tirlithriad yn Aberfan ym 1966
- Cyhoeddwyd
Ar fore gwlyb ym 1966, fe dynnodd Mel Parry un o'r lluniau mwyaf trawiadol i ddod o drychineb Aberfan.
Roedd yn 18 oed ac yn digwydd teithio trwy'r pentref ar fws pan ddisgynnodd tomen o wastraff glo ar Ysgol Gynradd Pantglas, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion.
Ymhlith y cyntaf i gyrraedd y lleoliad, fe dynnodd lun o heddwas yn cario plentyn bach o weddillion yr ysgol gynradd.
Enillodd wobr arbennig am ei lun, ond fe adawodd ei yrfa fel ffotograffydd ac fe ddaeth i ddifaru tynnu'r llun.

Er i'w lun o achubiaeth Susan Maybank ymddangos ar y tudalennau blaen ac ennill gwobrau, dywedodd Mel Parry ei fod bellach yn difaru ei dynnu
Roedd Mr Parry yn estyn ei gamera uwch ei ben pan dynnodd y llun.
Mae'n dangos y cwnstabl Victor Jones yn dal Susan Maybank, oedd yn 8 mlwydd oed, yn ei freichiau. Y fenyw i'r dde ydy modryb Susan.
Fe enillodd Mel Parry y wobr Ffotograffydd Newyddion Prydeinig y Flwyddyn ym 1966, ond dywedodd mai ffawd oedd llwyddiant y llun.
Roedd ei fws wedi dod i stop yn Aberfan, pan glywodd rhywun yn gweiddi bod yr ysgol wedi disgyn i'r llawr.

Ar 21 Hydref 1966 syrthiodd gwastraff glo ar ysgol gynradd Pantglas yn Aberfan, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion yn yr ysgol ac yn y tai cyfagos
"Digwydd bod mai fi oedd y person yn y fan a'r lle, yn anffodus," meddai Mr Parry.
Gyda dim ond un rôl o ffilm yn ei gamera, benthycodd fwy gan fferyllydd a dechreuodd dynnu lluniau yn syth.
Yn ystod yr anhrefn, roedd un ffrâm o'i gamera yn mynd i ddiffinio'r trychineb ar dudalennau blaen papurau newydd ar draws y byd, er nad oedd Parry yn sylweddoli hynny ar y pryd.
'Dim syniad beth oeddwn i'n ei dynnu'
"Dydw i ddim yn cofio'i dynnu o gwbl," meddai Mel Parry.
"Roedd y camera uwch fy mhen ac yn wyneb i waered, doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i'n ei dynnu."
Yr heddwas yn y llun oedd cwnstabl lleol Aberfan, Victor Jones ac yn ei freichiau mae Susan Maybank, yn fyw ond yn wan a heb esgidiau ar ei thraed.
O'u cwmpas mae torf o bobl.

Roedd Mel Parry yn dal ei gamera uwch ei ben, wyneb i waered, pan dynnodd ei lun o Susan Maybank
Y person â'r cyfrifoldeb o gludo'r ffilm yn gyflym i Gaerdydd oedd gohebydd ifanc y Western Mail, Alun Michael - a fyddai'n dod yn brif weinidog cyntaf Cymru.
Dywedodd ei fod wedi cyrraedd Aberfan i gwrdd â "rhes o ddynion yn cloddio i mewn i weddillion yr ysgol, gan obeithio dod o hyd i oroeswyr".
Pan welodd Mel Parry ei gydweithiwr o'r papur newydd, taflodd y ffilm ato.
"Fe daflodd [y ffilm] dros linell y glowyr," dywedodd Alun Michael. "Doedd e ddim hyd yn oed yn gwybod ei fod wedi tynnu'r llun," meddai.
O fewn oriau, roedd y llun ar dudalen flaen y South Wales Echo ac yn fuan wedi hynny mewn papurau newydd ledled y byd.

Aeth Alun Michael â'r ffilm oedd yn cynnwys llun Mel Parry yn ôl i Gaerdydd, er mwyn cyrraedd tudalennau blaen y papurau newydd
Daeth y llun â chydnabyddiaeth i Parry fel y person ieuengaf erioed i ennill gwobr Ffotograffydd Newyddion y Flwyddyn.
Ond roedd y llwyddiant yn anghyfforddus iddo ac yn y pen draw cyfrannodd at ei benderfyniad i roi'r gorau i'w yrfa ffotograffiaeth yn yr 1970au.
"Roedd yn drasiedi ac yn anffodus fe ges i ryw fath o elw ohoni," meddai. "Dwi'n dymuno erbyn hyn nad oeddwn i erioed wedi'i dynnu."
'Byth, byth eisiau ei brofi eto'
Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad, pan oedd yr ysu newyddiadurol wedi pylu, daeth maint y golled yn glir.
Roedd gan Mr Parry deulu yn Aberfan ac mi gollodd ddau gefnder yno.
"Roedden nhw'n tynnu pobl allan, rhai'n fyw, rhai'n farw," meddai. "Dydy o ddim yn rhywbeth fyddwn i byth, byth eisiau ei brofi eto."

Mae rhesi o gerrig beddau ym mynwent Aberfan i nodi'r bywydau a gafodd eu colli
Bron 60 mlynedd yn ddiweddarach, mae llun Mel Parry yn un o luniau mwyaf trawiadol Aberfan.
Mae pŵer y llun yn deillio o'r cyfansoddiad a'r emosiwn sydd ynghlwm ag ef, yn ôl curadur ffotograffiaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Will Troughton.
"Mae'r cyfansoddiad yn gryf iawn," meddai, "sy'n gwneud i bobl edrych ar y llun ac i ystyried y manylion."

Dywedodd y curadur Will Troughton fod y ddelwedd o Susan Maybank yn "sbardun o obaith" ymhlith y dinistr
Dywedodd Mr Troughton fod "eich llygaid yn symud tuag at y ddwy res o bobl, ac yna rydych chi'n gweld y plismon yn dal y ferch fach."
Mae'r ddelwedd o Susan Maybank yn "sbardun o obaith" ymhlith y dinistr, meddai.
"Gan ei fod yn lun du a gwyn, yn enwedig pan mae gwisg y plismon yn ddu, ac mae'r ferch fach a'i choesau yn noeth... Mae'r gwahaniaeth rhwng y du a'r gwyn yn tynnu'ch sylw," ychwanegodd.
'Atgof o'r hunllef'
Yn ôl Alun Michael mae'r llun yn llwyddo cyfleu rhywbeth y tu hwnt i'r ymdrech i achub Susan Maybank.
"Mae'n atgof o'r hunllef... ond hefyd teimlad o falchder," meddai.
Roedd gweithwyr achub a gwirfoddolwyr ledled de Cymru wedi rhuthro i Aberfan.
Y naws cymunedol "ydy'r nerth fwyaf sydd gyda ni fel cenedl," yn ôl Mr Michael.

Ychydig wythnosau ar ôl y trychineb, cafodd Susan ei hailuno â'r heddwas Victor Jones (dde) a'r ffotograffydd Mel Parry (canol)
Goroesodd Susan Maybank ac fe gafodd aduniad gyda'r heddwas a Mel Parry yn yr wythnosau ar ôl y trychineb.
Bu farw Susan ar ddiwedd 2025 ac mae ei theulu wedi dewis peidio siarad yn gyhoeddus.
Bellach mae Mel Parry yn dweud iddo fethu dianc rhag y ddelwedd a wnaeth ddod i ddiffinio'r trychineb a'r yrfa fer fel ffotograffydd.
'Blinedig o'i weld'
"Wrth i fi fynd yn hŷn, dwi'n mynd yn flinedig o'i weld," meddai Mr Parry.
"Ond pan mae pobl yn ei weld, maen nhw'n cofio Aberfan a beth ddigwyddodd yno. Dwi'n gobeithio y daw rhywbeth da o hynny."
Ar ôl cael ei gyfweld gan BBC Cymru ar gyfer y stori hon, penderfynodd roi'r wobr a enillodd i Amgueddfa Cymru, sy'n casglu eitemau sy'n ymwneud â thrychineb Aberfan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill

- Cyhoeddwyd22 Chwefror

- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
