Rhun ap Iorwerth - Nod yw ffurfio llywodraeth leiafrifol

Disgrifiad,

Gwyliwch: Rhun ap Iorwerth yn siarad o flaen y Senedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi cadarnhau ddydd Sadwrn mai'r nod yw ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio gyda phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.

Roedd cwestiynau wedi bod - tybed a fyddai'r blaid yn ceisio creu clymblaid gyda phlaid/pleidiau eraill, neu'n gwneud yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth bellach wedi cadarnhau.

Daw'r newyddion yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol y blaid ddydd Gwener - y blaid fwyaf yn y Senedd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Cyn hynny roedd Llafur wedi dominyddu pob etholiad yng Nghymru ers dros ganrif.

Bellach gyda 43 o'r 96 sedd yn y Senedd, dywedodd yr arweinydd ei fod yn "cofio am y rheiny a wnaeth yr holl waith caled i Gymru ac sydd ddim yma i weld hyn".

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 7, Rhun ap Iorwerth o flaen torf,

Wrth gyfarch y dorf ym Mae Caerdydd, dyma oedd gan arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth i'w ddweud:

"Alla' i ddim dweud pa mor braf ydi gweld yr olygfa yma heddiw. Ym mhob rhan o Gymru, dwi'n gwybod gymaint mae pobl yn dathlu'r foment yma.

"Mae hwn yn hanes sydd wedi ei greu gan Gymru ac mae wedi bod yn fraint cael gweithio ar yr ymgyrch hwn.

"Ond bu'r ymgyrch yma yn adeiladu ar waith sydd wedi'i wneud ers canrif o gredu yn ein cenedl.

"Ma' rhai o'r cewri yna, sy'n rhan o hanes Cymru a Phlaid Cymru yma heddiw a braf iawn bod yn eich cwmni chi. Mae eraill yn methu bod yma bellach."

Torf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd wedi ymgynnull ym Mae Caerdydd i ddathlu canlyniad hanesyddol Plaid Cymru

Yn ei araith, dywedodd fod Plaid Cymru yn "barod i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru ac rydym yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan, heb amheuaeth, pob cymuned".

"Byddwn yn gwneud popeth i ad-dalu'r ffydd y mae pobl wedi rhoi ynom ni, oherwydd mae gennym yr awch amlwg i wneud gwahaniaeth i'r hyn sy'n bwysig i fywydau pobl.

"Rydym yn cofio am y rheiny a wnaeth yr holl waith caled i Gymru ac sydd ddim yma i weld hyn.

"'Da ni'n gwneud hyn dros Gymru gyfan, a fy mraint i yw bod yma rŵan fel darpar brif weinidog fel rhan o grŵp o 43 o aelodau," ychwanegodd.

Wrth ateb cwestiynau'r wasg fe wnaeth Rhun ap Iorwerth gadarnhau mai'r nod yw bwrw ymlaen fel llywodraeth leiafrifol, gan gydweithio gyda phleidiau eraill ar ddeddfwriaeth a chyllidebau unigol.

Ar un adeg, wrth ateb cwestiynau gan y wasg, roedd yn rhaid i Rhun ap Iorwerth stopio siarad gan fod y dorf yn canu'r anthem genedlaethol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.