Cymro yn paratoi i gystadlu yn erbyn cogyddion o bedwar ban byd

Sam Everton yn dathlu ennill Chef Cenedlaethol Cymru - a chael lle yn rownd derfynol y Global Chef Challenge
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro o Landysul yn paratoi i gystadlu yn erbyn rhai o gogyddion gorau'r byd.
Dyma'r tro cyntaf i'r Global Chefs Challenge Final ddod i'r DU mewn bron i 100 mlynedd.
Ar ôl cael ei gynnal yn ddiweddar yn Singapore ac yn Dubai, bydd yn dod i Gymru fis Mai - ac yng nghanol y cyfan fydd Sam Everton.
Fe ddechreuodd Sam, sy'n dysgu arlwyo yng Ngholeg Ceredigion yn Aberteifi, fagu diddordeb mewn coginio pan oedd yn fachgen ifanc.
"Gytre, jest yn watchiad Mam-gu yn neud cinio rhost a helpu mas, o fanna [daeth y diddordeb] ac wedyn bues i yng Ngholeg Sir Benfro," meddai.
Wyth awr o goginio
Dros y blynyddoedd mae Sam wedi teithio'r byd i gymryd rhan mewn cystadlaethau coginio - gan gynnwys Awstralia, China, Rwsia a Ffrainc.
Mae'n dweud ei fod nawr yn edrych ymlaen at gystadlu gartref yng Nghymru ar ôl llwyddo cyrraedd y rownd derfynol wedi iddo ennill mewn rownd flaenorol.
Fe fydd yn rhaid iddo fo a'i commis chef, Tyler Richardson o fwyty Y Seler, Aberaeron, fynd benben â 15 o gogyddion o wledydd eraill yng nghanolfan cynhadledd ICC Wales, Casnewydd ar 17 Mai - a choginio am wyth awr o flaen cynulleidfa.
"Mae miloedd o spectators a supporters a sponsors yn dod i weld ni," meddai Sam ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Y brîff ydi pedwar cwrs i 20 o guests - mae 'na mandatory ingredients i ddefnyddio ond fi'n rhoi twist i representio Cymru.
"Obviously lava bread - yn dod o West Wales, y coastal theme i'r fish dish a falle bach o bîff a lamb... cenin hefyd a tato."
Yn ogystal â dysgu arlwyo yng Ngholeg Ceredigion mae Sam, sy'n 26 oed, yn gweithio rhan amser yn Yr Hen Printworks, Aberteifi.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal gan Worldchefs, gafodd ei sefydlu yn y Sorbonne, Paris, yn 1928, i hyrwyddo'r proffesiwn arlwyo.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2023

- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2025
