Dathlu 75 mlynedd ers achub Rheilffordd Talyllyn

Rheilffordd Talyllyn oedd y cyntaf yn y byd i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn 1951
- Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr yng Ngwynedd yn dathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r rheilffordd gadwraethol gyntaf yn y byd.
Gan fanteisio ar gledrau oedd unwaith yn cario llechi, cafodd Rheilffordd Talyllyn ei sefydlu gan wirfoddolwyr brwdfrydig yn 1951.
Pan gymron nhw'r awenau roedd perchennog y rheilffordd newydd farw, ac roedd y cledrau mewn cyflwr gwael ac ar fin cau.
Ond gyda'r gwirfoddolwyr yn benderfynol o weld trenau yn parhau i redeg rhwng Tywyn ac Abergynolwyn, fe wnaeth eu gwaith ysbrydoli eraill i achub llinellau tebyg mewn rhanau eraill o Brydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac Awstralia.

Mae'r cledrau yn rhedeg am dros saith milltir rhwng Tywyn a Nant Gwernol ger Abergynolwyn, er mwyn gwasanaethu chwareli llechi Bryn Eglwys
Bellach yn atyniad treftadaeth ers 75 mlynedd, mae'r rhan yma o'r byd hefyd yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru UNESCO.
Ymhlith y gwirfoddolwyr cyntaf oedd y Parchedig Wilbert Awdry, sef crëwr cymeriadau Thomas the Tank, a wnaeth seilio rhai o'r straeon ar ei brofiadau wrth weithio ar Reilffordd Talyllyn.
Erbyn hyn mae rhedeg y rheilffordd yn ddibynnol ar fyddin o thua 450 o wirfoddolwyr, gyda rhai hyd yn oed yn teithio o'r UDA, Denmarc, Awstralia a Japan.
Rheilffordd 'gallwn fod yn falch ohoni'
Un o'r gwirfoddolwyr ieuengaf ydy Isabel Richmond, sy'n 18 oed ac yn byw yn Nolwyddelan, Sir Conwy.
"Wnes i ddechrau yn y department loco a wnes i ddisgyn mewn cariad hefo fo," meddai Isabel, sy'n dilyn ôl-troed ei thad, sydd hefyd yn gwirfoddoli.
"Y rheswm [dwi'n gwneud hyn] ydi mod i'n ei garu, mae pawb yn dod yma oherwydd bod nhw'n licio dod yma."

Mae Isabel Richmond wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r rheilffordd, a bellach mae'n anelu at yrfa beirianyddol
Ychwanegodd: "Mae pawb yn treulio amser yn ystod y gwyliau, y penwythnosau, 'da ni'n licio dod yma. 'Da ni'n licio'r ffrindiau 'da ni'n wneud yma ac yn hoff iawn o'r atmosffer yma.... ma'n dda.
"Weithiau mae 'na bach o banter rhwng y department traffig a'r department loco... ond mae pawb yna i chi.
"Mae'n deimlad neis."
Mae Isabel hefyd yn falch o weld y rheilffordd yn cyrraedd y garreg filltir bwysig yma.
"Mae'n bwysig, y ffaith ein bod ni wedi gallu para am amser fel 'na, mae'n rhywbeth 'da ni fel rheilffordd yn gallu bod yn falch ohono."
'Denu sylw ar draws y byd'
Dywedodd Ian Drummond o Gymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Talyllyn bod dyfalbarhad y gwirfoddolwyr cynnar wedi talu ar ei ganfed.
"Roedd y ffaith bod gwirfoddolwyr yn cymryd drosodd a rhedeg rheilffordd gyhoeddus yn beth hollol newydd," meddai.
"Wnaeth o ddenu sylw ar draws y byd, gan ddechrau mudiad a ddechreuodd yma yng Nghymru."
Yn gynharach eleni llwyddodd y rheilffordd i sicrhau grant gwerth bron i £3.7m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda'r arian yn mynd tuag at ailddatblygu'r cyfleusterau.
Bydd y gwaith yn cynnwys uwchraddio mawr, creu gofodau gweithdy estynedig a chyfleusterau gwaith coed gwell i gynnal y cerbydau hanesyddol drwy gydol y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr

- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
