Tri dan amheuaeth o ysbïo dros China ar fechnïaeth tan Awst

Llun cyfansawdd o Steve Jones, David Taylor a Matthew AplinFfynhonnell y llun, BBC/Asia House/Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Jones, David Taylor a Matthew Aplin wedi cael eu hailryddhau ar fechnïaeth tan fis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae mechnïaeth tri dyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China wedi'i hymestyn tan fis Awst.

Cafodd David Taylor, 39 oed, gŵr AS Llafur yn yr Alban Joani Reid, a dau ddyn arall, eu harestio ym mis Mawrth ar amheuaeth o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth dramor.

Ni wnaeth Heddlu'r Met enwi'r tri, ond ddydd Mercher, dywedodd yr heddlu bod y dynion wedi cael eu hailryddhau ar fechnïaeth tan fis Awst.

Mae'r achos yn ymwneud â "ymyrraeth dramor sy'n targedu democratiaeth y DU", yn ôl y gweinidog diogelwch Dan Jarvis.

Cafodd Mr Taylor ei arestio yn Llundain ar 4 Mawrth, gyda dyn 43 oed yn cael ei arestio ym Mhont-y-clun a dyn 68 oed ym Mhowys.

Cafodd eiddo eraill yn Llundain, East Kilbride yn yr Alban a Chaerdydd hefyd eu chwilio fel rhan o'r ymchwiliad.

Fe gadarnhaodd yr heddlu ym mis Mawrth fod y dynion wedi'u harestio o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.

Ym mis Mawrth fe wnaeth Joani Reid wahardd ei hun yn wirfoddol o'r Blaid Lafur nes bydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau.

Dywedodd yr AS nad oedd erioed wedi gweld unrhyw beth a fyddai wedi gwneud iddi amau fod ei gŵr, a oedd wedi'i restru fel 'lobiwr' ar ei buddiannau cofrestredig, wedi torri'r gyfraith.

Ar adeg yr arestiadau dywedodd Dan Jarvis wrth ASau fod swyddogion Tsieineaidd yn y DU ac yn Beijing wedi cael "cerydd", gan ychwanegu bod yr ymchwiliad yn ymwneud ag "ymyrraeth dramor sy'n targedu democratiaeth y DU".

Pynciau cysylltiedig