Plaid Cymru yn mynnu mwy o gyllid i reilffyrdd yng Nghymru

HS2Ffynhonnell y llun, HS2
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2023 fe wnaeth Senedd Cymru alw ar Lywodraeth y DU i ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig

  • Cyhoeddwyd

Mae gweinidog trafnidiaeth newydd Plaid Cymru wedi gofyn am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU i fynnu mwy o gyllid i reilffyrdd yng Nghymru.

Dywedodd Mark Hooper fod llywodraethau olynol y DU wedi methu â mynd i'r afael â "symbol hirhoedlog o gyllid annheg i reilffyrdd" ynghylch HS2, sydd wedi cael ei ddynodi'n brosiect Cymru a Lloegr.

Dywedodd Hooper fod £445m a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer gorsafoedd newydd y llynedd "yn llawer llai na'r disgwyl", a galwodd am lefel "fwy uchelgeisiol" o fuddsoddiad.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Roedd Plaid Cymru wedi addo yn etholiad mis Mai y bydden nhw yn pwyso am fwy o gyllid a phwerau gan San Steffan.

Er bod nifer fach o linellau yng nghymoedd de Cymru yn cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o seilwaith y rheilffyrdd.

Mae llywodraethau blaenorol Cymru wedi cwyno ers tro bod y rhwydwaith rheilffyrdd yma wedi dioddef o danfuddsoddi.

Fe wnaeth y symiau mawr o arian a wariwyd ar HS2 waethygu'r cwynion hynny.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y gallai'r cynllun gostio hyd at £102.7bn, ac efallai na fydd yn agor tan 2039.

Mae cynlluniau sydd wedi'u dynodi fel rhai ar gyfer Lloegr yn unig yn cynhyrchu swm canlyniadol o arian i gyllidebau Cymru.

Ond oherwydd bod HS2 wedi'i ddynodi fel prosiect Cymru a Lloegr, nid yw hynny wedi digwydd - yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Trên Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraethau blaenorol Cymru wedi cwyno ers tro bod y rhwydwaith rheilffyrdd yma wedi dioddef o danfuddsoddi

Mae Llywodraeth y DU wedi dadlau eu bod yn mynd i'r afael â thanfuddsoddi mewn rheilffyrdd, gan gyhoeddi £445m ar gyfer gorsafoedd rheilffordd newydd a phrosiectau eraill flwyddyn yn ôl.

Cyn yr etholiad ymrwymodd Syr Keir Starmer i gynllun gwaith gwerth £14bn dros 15 mlynedd, er nad yw'r rhan fwyaf o'r arian i adeiladu'r 43 gorsaf arfaethedig wedi'i nodi.

Dim ond y £445m sydd wedi'i ymrwymo'n ffurfiol, gydag arian wedi'i gadarnhau ar gyfer saith gorsaf.

'Tanfuddsoddi hanesyddol'

Mewn llythyr at ysgrifennydd trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, ysgrifennodd Mr Hooper: "I Gymru, mae HS2 hefyd yn symbol hirhoedlog o gyllid annheg i reilffyrdd nad yw llywodraethau olynol y DU wedi mynd i'r afael ag ef."

Er iddo groesawu cymeradwyaeth cynllun rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gwerth £14bn, dywedodd y dirprwy weinidog trafnidiaeth fod y cyllid a gyhoeddwyd y llynedd "yn bell o fod yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol".

"Rwy'n awyddus i'n swyddogion gydweithio ar biblinell fuddsoddi llawer mwy uchelgeisiol cyn yr adolygiad gwariant nesaf," ychwanegodd.

Mae disgwyl yr adolygiad gwariant nesaf yn 2027.

Dywedodd Mr Hooper fod Llywodraeth Cymru "eisiau negodi cyllid tecach ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru", ynghyd â llwybr i ddatganoli llawn.

Mae Plaid Cymru eisiau i reolaeth dros reilffyrdd Cymru fod yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Daeth y llythyr gan Mr Hooper yn dilyn gohebiaeth gan Heidi Alexander ynghylch ei chyhoeddiad diweddar am gostau cynyddol HS2.

Ysgrifennodd hithau y bydd prosiectau Llywodraeth y DU yn "darparu gorsafoedd newydd, teithiau cyflymach a gwasanaethau gwell i deithwyr yn ogystal â chysylltu pobl â swyddi a gyrru twf economaidd ym mhob cwr o Gymru".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.