Taith Dyffryn Teifi: Llwybr newydd yn 'gyfle arbennig' i fusnesau a cherddwyr

Mae Taith Dyffryn Teifi yn 83 milltir o hyd ac yn dilyn Afon Teifi
- Cyhoeddwyd
Mae taith gerdded newydd ar hyd Afon Teifi yn cynnig "cyfle arbennig i fusnesau mewn hinsawdd anodd", yn ôl y pwyllgor sy'n gyfrifol am ei sefydlu.
Wedi'i agor yn swyddogol ddiwedd Ebrill, mae llwybr Taith Dyffryn Teifi yn ymlwybro am 83 milltir o Lyn Teifi ym mynyddoedd Cambria i Aberteifi ar yr arfordir.
Y nod, meddai Pwyllgor Taith Dyffryn Teifi, yw "creu cyfle newydd i bobl leol, denu mwy o ymwelwyr i'r ardal i fwynhau'r tirlun hardd ac i gefnogi'r economi leol".
Daeth dros 100 o bobl ynghyd ar gyfer agoriad swyddogol y llwybr ar 25 Ebrill, ac yn ôl un busnes sydd wedi'i leoli ger Afon Teifi, mae'r daith newydd wedi dod â "hwb ar unwaith".

Mae James Davies a'i bartner Kay Davies yn rhan o Bwyllgor Taith Dyffryn Teifi
Daeth y syniad gwreiddiol o greu llwybr penodol ar hyd Afon Teifi pan oedd ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn un awdurdod lleol - Dyfed.
Ond ar ôl i Ddyfed droi'n dair sir ar wahân, ni chafodd y cynllun ei weithredu.
Cafodd y syniad ei atgyfodi eto gan grŵp o gerddwyr lleol yn dilyn agoriad Llwybr Arfordir Cymru yn 2012.
"Dwi'n cofio llwyddiant llwybr yr arfordir yn syth, a dyma grŵp ohonom ni'n dechrau meddwl os oedd modd gwneud rhywbeth tebyg yn ein hardal ni," meddai James Davies o Lanbedr Pont Steffan - un o aelodau Pwyllgor Taith Dyffryn Teifi.
"Fy mhartner Kay awgrymodd ailgydio yn y syniad o greu llwybr swyddogol yr holl ffordd ar hyd Afon Teifi.
"Penderfynon ni rannu'r syniad gyda'n grŵp cerdded lleol, a dyma ni'n creu Pwyllgor Taith Dyffryn Teifi a dechrau cysylltu gyda gwahanol sefydliadau.
"Tyfodd y peth o hynny tan i ni gyrraedd y pwynt o agor y llwybr o'r diwedd... moment bendigedig ar ôl yr holl waith dros y blynyddoedd."

Mae Alice Smith yn rhagweld bydd y llwybr yn denu mwy o ymwelwyr i ardaloedd llai poblogaidd
Yn llifo dros 76 milltir, mae Afon Teifi yn un o'r afonydd hiraf sydd wedi'i lleoli yn llwyr yng Nghymru.
Mae'r llwybr newydd sy'n dilyn trywydd yr afon yn mynd â cherddwyr heibio lleoliadau pwysig hanesyddol fel Abaty Ystrad Fflur o'r 12fed ganrif, cartref yr hen ddiwydiant gwlân a phrifysgol hynaf Cymru.
Yn ôl Alice Smith o fudiad Ramblers Cymru, mae creu taith o'r fath yn cymryd "ymdrech enfawr".
"Mae grwpiau lleol wedi gorfod checkio pob rhan o'r daith, agor llwybrau newydd, gweithio gyda thirfeddianwyr a'r cyngor i sicrhau bod gan bobl ganiatâd i gerdded, a gosod arwyddion ar hyd y daith," meddai.
"Ac roedd hynny oll dim ond er mwyn agor y llwybr yn y lle cyntaf.
"Bydd rhaid iddyn nhw barhau i gynnal y daith o hyn ymlaen achos does gan yr awdurdodau lleol ddim yr arian i wneud."
Mae Cymru'n hynod o boblogaidd ymysg cerddwyr, yn ôl Alice, ac mae'n ffyddiog y bydd y gwaith caled ar y cynllun yn talu ar ei ganfed.
"Mae cael llwybr swyddogol yn golygu bod e ar y map ac felly yn denu pobl."

Mae Afon Teifi yn boblogaidd gyda chaiacwyr yn barod, ond nod y pwyllgor yw denu mwy o gerddwyr i'r ardal
Dyna'n union yw gobaith rhai o'r busnesau sydd wedi'u lleoli ar hyd y llwybr newydd ar lan Afon Teifi.
Mae'r afon yn llifo trwy sawl tref a phentref rhwng ei man cychwyn a'r môr Celtaidd.
Un o'r rheiny yw Llandysul yng Ngheredigion.
Mae Rhodri James - un o berchnogion Gwesty'r Porth yn y dref - yn "bendant bydd y llwybr newydd yn elwa busnesau'r ardal".
"Ers i Daith Dyffryn Teifi agor dwi wedi cael pobl sydd yn cerdded y llwybr newydd yn barod yn dod mewn i gael pryd o fwyd gyda ni.
"Bydda i'n edrych tuag at y dyfodol nawr. Dwi'n meddwl mae'n gyfle arbennig i ni.
"Mae'n sialens i bawb ar hyn o bryd. O ran unrhyw fusnes mae'n rhaid trial troi eich llaw i sawl peth, ac mae hwn yn elfen arall fydd yn cynorthwyo'r busnes a helpu ni i dyfu."

Mae Geraint James, sy'n rhedeg siop lyfrau yn Aberteifi, yn obeithiol y bydd y llwybr newydd yn dod â hwb i fusnesau'r dref
Tref Aberteifi yw ble y bydd taith cerddwyr yn dod i ben.
Mae'n boblogaidd gyda thwristiaid yn barod - gyda llwybr yr arfordir yn denu ymwelwyr, ac atyniadau fel y castell.
Mae Geraint James, sy'n rhedeg busnes Awen Teifi yn y dref, wedi arfer croesawu twristiaid.
"Mae tipyn o bobl yn dod i weld ni. Dwi wedi cael dwy fenyw o Vermont ddaeth i gerdded ar arfordir yr wythnos diwethaf."
Ond mae'n gefnogol o unrhyw beth sy'n denu mwy o ymwelwyr eto.
"Mae'r llwybr yma yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r hyn sydd gyda ni yn barod," meddai.
"Mae unrhyw beth fel hyn yn help, yn denu pobl mewn, ac mae unrhyw beth sy'n denu mwy o bobl mewn hinsawdd anodd fel hyn - ble mae costau'n cynyddu - o hyd yn help.
"Dwi'n gweld e'n gweithio'n dda."

Mae'r llwybr yn gorffen wrth i'r afon gyrraedd y môr yn Aberteifi
Yn ôl Pwyllgor Daith Dyffryn Teifi, mae modd cwblhau'r daith gyfan mewn rhyw bedwar diwrnod.
Ond i'r rheiny sydd ddim am wneud yr holl beth ar unwaith, mae'r pwyllgor wedi creu llyfr sy'n arwain cerddwyr trwy'r llwybr mewn adrannau.
Mae pob adran rhwng saith a 13 milltir mewn hyd ac yn gorffen mewn tref neu bentref, gan gynnig trafnidiaeth gyhoeddus a llefydd i fwyta ac aros dros nos.
Ond i unrhyw un sy'n meddwl bod y daith bresennol yn rhy fyr, mae gan y pwyllgor gynllun posib i'w ymestyn.
"Ni wedi siarad yn y gorffennol am greu'r Cylch Celtaidd," meddai James Davies.
"Cwlwm 175 milltir sy'n cysylltu Taith Dyffryn Teifi, rhan o Lwybr Arfordir Cymru i Borth, a llwybr Ysbryd y Mwynwyr o Borth i Ystrad Fflur.
"Ond am nawr wnawn ni fwynhau'r llwybr newydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.