Carcharu aelodau gang cyffuriau dros lofruddiaeth menyw ddiniwed

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Marcus Huntley, Renaldo Baptiste, Joshua Gordon, Kristina Ginova, Melissa Quailey-Dashper, Jordan Mills-Smith
- Cyhoeddwyd
Mae chwe aelod gang cyffuriau a saethodd fenyw ddiniwed yn farw mewn fflat yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 157 o flynyddoedd.
Fe gafodd Joanne Penney ei lladd yn Llys Illtyd, Tonyguboriau, ar 9 Mawrth y llynedd yn sgil ffrae rhwng dau gang – un yn gweithredu yn yr ardal honno a'r llall o Gaerlŷr.
Wrth ddedfrydu'r diffynyddion yn Llys y Goron Caerdydd, fe ddisgrifiodd Mr Ustus Fordham Ms Penney fel "dioddefwr diniwed rhyfel cyffuriau" a bod ei llofruddiaeth "yn ddisynnwyr".
Roedd y diffynyddion i gyd yn aelodau o gang o Gaerlŷr o'r enw Grŵp Rico oedd yn delio cyffuriau, ac roedden nhw wedi dechrau gweithredu yn ne Cymru.
Roedd y fflat yn Nhonysguboriau yn cael ei gysylltu â chyffuriau, a dyna pam y gwnaeth y grŵp deithio yno.
Wythnosau cyn y llofruddiaeth, roedd y gang wedi gosod deliwr cyffuriau mewn fflat yn Llys Illtyd a dial oedd wrth wraidd yr hyn a ddigwyddodd yn Nhonysgyboriau wedi i'r deliwr hwnnw gael ei guro gan aelod o gang arall.

Renaldo Baptiste, Marcus Huntley a Joshua Gordon gafodd y dedfrydau isafswm hiraf
Mewn gwrandawiad ddydd Mercher, fe gafodd chwe diffynnydd ddedfrydau o garchar am oes am eu rhan yn yr achos wedi i'r llys eu cael yn euog o lofruddiaeth.
Marcus Huntley, 22, o Gaerdydd, wnaeth danio'r gwn ac fe guddiodd yr arf mewn parc yn y brifddinas cyn mynd ar ffo.
Plediodd yn euog i lofruddiaeth ac fe fydd yn treulio o leiaf 30 mlynedd dan glo cyn cael ceisio am barôl.
Bydd yn rhaid i arweinydd y grŵp o Gaerlŷr, Joshua Gordon, 28, a arhosodd mewn car wrth i Ms Penney gael ei saethu, dreulio o leiaf 32 o flynyddoedd yn y carchar.
Cafodd y ddedfryd hiraf ei roi i Renaldo Baptiste, 39, oedd eisoes yn y carchar ers 2022 am achos arall o lofruddiaeth.
Fe chwaraeodd ei ran yn y saethu, a threfnu defnydd y gwn, o'i gell yn y carchar.
Bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 42 mlynedd yn y carchar, i gydredeg â'r 19 mlynedd sy'n weddill o'i ddedfryd flaenorol.
Dywedodd y barnwr wrtho na fydd yn cael ceisio am barôl nes 2068, pan "fyddwch chi yn 81 mlwydd oed".

Cafwyd Jordan Mills-Smith, Melissa Quailey-Dashper a Kristina Ginova hefyd yn euog o lofruddiaeth am eu rhan ym marwolaeth Joanne Penney
Roedd Jordan Mills-Smith, 34, o Gaerdydd, ymhlith y tri a aeth i Lys Illtyd noson y llofruddiaeth, gan gadw golwg tra bo'r ymosodiad yn digwydd.
Cafodd ddedfryd isafswm o 27 mlynedd o garchar.
Melissa Quailey-Dashper, 40, o Gaerlŷr, wnaeth guro'r drws, gan ddweud ei bod yna i brynu cyffuriau.
Bydd hithau dan glo am o leiaf 14 mlynedd.
Isafswm o 12 mlynedd yn y carchar oedd dedfryd cymar Gordon, Kristina Ginova, 22, a ddinistriodd dystiolaeth allweddol ddiwrnod wedi'r saethu.

Roedd Joanne Penney yn aros gyda ffrindiau yn Nhonysguboriau ym mis Mawrth 2025 pan gafodd ei saethu ar ôl ymateb i gnoc ar ddrws y tŷ
Clywodd y gwrandawiad ddatganiadau gan berthnasau Joanne Penney yn disgrifio'u trallod.
Dywedodd ei mab, Cody Griffiths: " Ni allaf roi mewn geiriau beth sydd wedi digwydd i'n teulu.
"Mae colli'r person a ddaeth â mi i'r byd a rhoi bywyd i mi mewn ffordd mor ofnadwy yn rhywbeth na wnaf fyth ddod i delerau ag ef.
"I chi roedd hi'n golygu dim ond i ni roedd hi'n bopeth."
Dywedodd dwy ferch Ms Penney, sydd dan 16 oed: "Sut gall unrhyw un wneud rhywbeth mor greulon?
"Roedden ni ar goll, yn ofnus ac yn grac. Rydym yn dal yn teimlo hynny.
"Nawr ry'n ni'n gofyn pam gafodd ein mam ei saethu? Oedd ofn arni? Oedd hi'n gwybod beth oedd yn digwydd? Ni allwn ni stopio meddwl am ei heiliadau olaf.
"Mae'n rhaid ei fod yn frawychus iddi ac mae'n boenus iawn i ni ei ddychmygu.
"Cawsom flychau atgofion ond doedd dim atgofion gyda ni i'w rhoi ynddyn nhw a fydd 'na fyth. Bu farw ein tad pan roedden ni'n fach ac ry'ch chi wedi cymryd ein mam - mae ein hanes wedi mynd."

Roedd gangiau gwahanol wedi defnyddio fflat 10 Llys Illtyd yn Nhonysguboriau i werthu cyffuriau
Dywedodd mam Ms Penney, Sharon Penney, bod y teulu yn ei cholli'n fawr, a'i bod yn "dal yn cael hunllefau... yn deffro'n sgrechian ac yn crio ond i sylweddoli nad hunllef yw e, mae'n real....
"Mae'n anodd gweld y boen ar wynebau eich tri phlentyn o fod wedi colli eu chwaer. Rwy' mewn dagrau bob tro rwy'n eu gweld..."
Ychwanegodd ei bod wedi methu dychwelyd i'w chartref ei hun ac yn byw gyda'i brawd a'i wraig oherwydd "rwy'n ofni bod ar ben fy hun.... a dyfnder fy iselder".
Pedwar yn euog o lofruddio menyw a gafodd ei saethu
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.