Cadeirydd newydd URC am 'adolygu'r cynllun' i dorri rhanbarth

Lyndon FaulknerFfynhonnell y llun, URC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Lyndon Faulkner yn dechrau yn y swydd erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb ar 22 Tachwedd

GanMatt LloydaHarri EvansBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, Lyndon Faulkner, wedi cadarnhau y bydd yn adolygu'r cynllun dadleuol i ddileu clwb proffesiynol yng Nghymru.

Bydd y dyn busnes o Gasnewydd yn dechrau yn y swydd erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Undeb ar 22 Tachwedd.

Mae eisoes wedi llunio rhestr o flaenoriaethau i fynd i'r afael â nhw, gan gynnwys adolygiad o nifer y rhanbarthau yn y dyfodol a pherfformiad ariannol "pryderus" yr undeb.

Mae Mr Faulkner – nai i un o gewri rygbi Cymru, Tony 'Charlie' Faulkner – wedi ymateb i awgrymiadau iddo gael ei benodi'n syml er mwyn gwthio drwodd, heb wrthwynebiad, y newidiadau dadleuol a fydd yn lleihau nifer y rhanbarthau o bedwar i dri yn 2028.

"Mae sôn allan yna fod pwy bynnag a dderbyniodd y swydd hon wedi cytuno, fel amod, na allen nhw siarad am [y newidiadau rhanbarthol] – ond mae hynny'n hollol anghywir," meddai.

"Fyddwn i ddim wedi cymryd y swydd o dan yr amodau hynny, na phe bai'n rhaid i mi fod yn berson sydd bob amser yn cytuno â phopeth. Dyw hynny ddim yn fi."

Yn ei gyfweliad cyntaf ers derbyn y rôl, cyfaddefodd Faulkner nad oedd yn ymwybodol o raddfa lawn dyled URC nes iddi gael ei chyhoeddi wythnos diwethaf.

"Dwi'n teimlo mai fy rôl i yw adolygu popeth sydd ar y gweill, ei herio, ei archwilio, a, gobeithio, defnyddio fy mhrofiad mewn meysydd lle credaf y gallwn wneud pethau'n well.

"Dydw i ddim wedi cyflawni'r hyn rydw i wedi'i gyflawni mewn busnes drwy beidio â gwneud hynny."

Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n barod i dynnu'n ôl o benderfyniad URC i ddileu rhanbarth, atebodd Faulkner: "Yn bendant – ac mae hynny'n berthnasol i bopeth rwy'n ei weld."

Lyndon FaulknerFfynhonnell y llun, URC
Disgrifiad o’r llun,

Gwyliodd Faulkner gemau yng Nghaerdydd ac Abertawe ddydd Sadwrn

Mae'n cefnogi unrhyw gystadleuaeth Eingl-Gymreig bosibl – gan ei fod wedi chwarae mewn cystadleuaeth debyg dros Bont-y-pŵl yn yr 1980au – ac roedd yn cytuno, ar y cyfan, â phenderfyniad URC i achub Caerdydd.

Ni fydd Faulkner yn rhan o dîm gweithredol URC, ond bydd yn cadeirio'r bwrdd; ac er nad ef sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol, bydd yn cael dylanwad sylweddol.

"Fe wnaethon nhw fy newis i oherwydd fy mhrofiad, felly byddai'n wirion peidio â rhoi ystyriaeth i'r hyn rwy'n ei ddweud," meddai.

Mae'n teimlo "empathi" tuag at ddiffyg ymddiriedaeth gan y Gweilch a'r Scarlets – y ddau dîm sydd mewn perygl fwyaf o gael eu dileu– ac roedd yn awyddus na fyddai adolygiad yn ymestyn y broses o wneud penderfyniad ynglŷn â'r ad-drefnu rhanbarthol sydd eisoes wedi llusgo ymlaen.

Dywedodd: "Mae gennym bedwar rhanbarth, pob un â'i hanes ei hun yn ein gêm wych. Felly, rwy'n deall y teimladau y mae hynny'n eu codi. Yn y pen draw, mae angen i ni gynnal adolygiad, ac yna gweld beth fydd y canlyniad."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.