Jonathan Davies yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Jonathan ar y maes
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026

  • Cyhoeddwyd

Jonathan Davies sydd wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2026.

Cafodd ei wobrwyo ar lwyfan y Pafiliwn ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mercher.

Y tri arall oedd ar y rhestr fer oedd Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan.

Cychwynnodd Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, ddysgu Cymraeg er mwyn ailgysylltu â'i dreftadaeth a'i hunaniaeth ar ôl byw yn Llundain.

Disgrifiad,

Jonathan Davies yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

Astudiodd Gerddoriaeth yno, gan gwblhau gradd a gradd meistr cyn hyfforddi fel athro drwy gwrs TAR.

Yn 2020 dechreuodd ddysgu Cymraeg, gan wneud cynnydd cyflym a dod yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Aeth ymlaen i ddechrau PhD ym maes Ieithyddiaeth ac Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn addysg.

Mae'n hwyluso grŵp dysgwyr ifanc, yn dysgu ysgrifennu creadigol, ac yn sylfaenydd podlediad Ymchwil ar y Gweill.

Mae hefyd yn rhan o dîm yn datblygu offeryn dwyieithog i asesu hygyrchedd testun.

dysgwyr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jonathan Davies, Caroline Jones, Kierion Lloyd a Paige Morgan yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni

Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd.

Mae'r enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.

Mae'r tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.