Dylid fod wedi gwneud mwy i osgoi cau ysgol â dau ddisgybl, medd mam

Mae Sharon Morgan yn teimlo y dylid bod wedi gwneud mwy i geisio cadw Ysgol y Garreg ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae rhiant sydd â phlentyn mewn ysgol sy'n cau am ei bod ag ond dau ddisgybl, yn dweud bod y cyngor sir wedi "anghofio" am y plant.
Bydd dau ddisgybl presennol Ysgol Y Garreg, Llanfrothen, yng Ngwynedd, yn symud i ysgol uwchradd ym mis Medi.
Yn ôl Sharon Morgan - mam un o'r disgyblion, Samuel - bydd cau'r ysgol yn amddifadu teuluoedd eraill yn y pentref rhag y cyfle i gael addysg o'r un ansawdd â'i mab.
Dywed Cyngor Gwynedd bod cost blynyddol addysgu disgybl yn Ysgol Y Garreg -£21,471 - yn "sylweddol uwch" na chyfartaledd y sir, sef £5,998, a bod y penderfyniad i gau'r ysgol "yn boenus, ond anochel".
Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gau ysgol leiaf y sir
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
Cyngor Gwynedd yn bwrw 'mlaen gyda chau ysgol â dau ddisgybl
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Mae Ysgol Y Garreg yn dathlu canrif ers ei hagor eleni, ond ei chanmlwyddiant fydd ei blwyddyn olaf.
Yn gynharach y mis hwn, fe benderfynodd y cyngor i'w chau oherwydd "niferoedd isel iawn y disgyblion sy'n ei mynychu" a'r disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol.
Ond ym marn Sharon Morgan, dylid fod wedi gwneud mwy i geisio ei chadw ar agor.
"Mae'n biti garw – maen nhw wedi anghofio am y plant," dywedodd.
"Dysgodd fy mab i fwy mewn amgylchedd ysgol bentref fach nag y byddai erioed pe tasa wedi gorfod teithio'n bellach i ffwrdd.
"Dwi'n poeni am deuluoedd yn y pentref sydd â phlant dyflwydd, tair oed na fydd yn cael y cyfle rŵan i gael addysg o'r un ansawdd ag y cafodd fy mab."

Bydd Ysgol Y Garreg yn cau ddiwedd y tymor wrth i'r ddau ddisgybl olaf symud i ysgol uwchradd
Dywed Ms Morgan - sy'n gyn-athrawes yng Ngwynedd - bod ei mab a'i gyd-ddisgybl wedi ceisio protestio yn erbyn cau'r ysgol, ond eu bod wedi eu hanwybyddu.
"Ysgrifennon nhw at David Attenborough fel rhan o broject ysgol, ac fe atebodd, ond wnaeth Cyngor Gwynedd ddim hyd yn oed cydnabod eu llythyrau," meddai.
"Mae'n biti – bydd cau'r ysgol yn niweidio'r pentref.
"Mae ein cymuned yn Llanfrothen wedi brwydro i gadw ein tafarn a'n siop ar agor, ond doedden ni ddim yn gallu cadw'r ysgol ar agor."
'Amhosib anwybyddu'r ffeithiau o'n blaenau'
Roedd y penderfyniad yn anochel, medd y cyngor, wrth i niferoedd disgyblion ostwng ar draws y sir.
Dywedodd Dewi Jones, yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg, bod tua 9,000 o blant yn ysgolion cynradd Gwynedd yn 2016, ond bod hynny wedi gostwng i "ychydig dros 7,800".
Dywedodd wrth y cyfarfod pan gafodd yr argymhelliad i gau ei gadarnhau mai dyma oedd un o'r penderfyniadau anoddaf iddo erioed.
"Does neb yn mynd i'r maes addysg er mwyn cau ysgolion," dywedodd.
"Ein huchelgais yw gweld ysgolion yn ffynnu, plant yn llwyddo a chymunedau'n aros yn gryf."
Ond dywedodd bod cyfrifoldeb ar y cyngor i ystyried sefyllfa ariannol yr ysgol.

Dywed Cyngor Gwynedd bod y penderfyniad i gau Ysgol Llanfrothen yn anodd ond "anochel"
"Mae'r heriau demograffig i rai o'r cymunedau gwledig yn rhai gwirioneddol," meddai.
"Faint bynnag boenus yw cydnabod hynny, gallwn ni ddim anwybyddu'r ffeithiau o'n blaenau, ac yn achos penodol Ysgol Y Garreg, mae'n amhosib i anwybyddu difrifoldeb y sefyllfa.
"Mae'n ostyngiad sylweddol, ac yng ngoleuni hynny, gallwn ni ddim jest cario ymlaen fel ydan ni. Mae'n ein gorfodi i newid pethau."
O fis Medi ymlaen, Ysgol Cefn Coch ym Mhenrhyndeudraeth - ychydig dros ddwy filltir o Lanfrothen - fydd yr ysgol gynradd agosaf ar gyfer disgyblion y dalgylch.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.