Rhedwraig o Fôn yn gobeithio am fedal yng Ngemau'r Gymanwlad

Cari Hughes ar y trac yn Nhreborth Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cari Hughes o Ynys Môn yn rhan o dîm Cymru

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae rhedwraig o Fôn yn gobeithio cipio medal eleni wrth iddi baratoi at Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow eleni.

Bydd cyfanswm o 114 o athletwyr yn cystadlu ar draws 10 camp, gan gynrychioli Cymru yn y 23ain Gemau'r Gymanwlad.

Yn eu plith, Cari Hughes, 27 o Fôn, fydd yn cystadlu yn y ras ffos a pherth (steeplechase) 3000m.

Dywedodd: "Rhaid i chi fynd mewn i bob ras yn hyderus a meddwl bo' chi am neud eich gorau... mynd mor agos at fedal â 'dw i'n gallu - dyna'r oll fedra i aimio ato rili."

'Teimlad sbesial iawn'

Bydd tîm Cymru yn cystadlu ar draws 10 camp wahanol gyda 67 o athletwyr benywaidd a 48 o athletwyr gwrywaidd rhwng 16 a 73 oed.

Mae 22 o bara-athletwyr wedi eu dewis a bydd y gemau yn Glasgow yn cynnal mwy o ddigwyddiadau i bara-athletwyr nag erioed o'r blaen.

Ers blynyddoedd lawer, mae Cari Hughes o Ynys Môn, ond bellach yn gweithio yn yr Iseldiroedd, wedi bod yn hyfforddi'n galed.

"O'n i'n gyffrous pan 'naeth tîm Cymru ffonio fi i adael fi wybod mod i'n mynd i'r gemau, ac mae'n deimlad braf cael rhedeg i Gymru, 'da ni ddim yn cael y cyfle yn aml i redeg i Gymru, 'da ni'n rhedeg i Brydain fel arfer.

"Mae'n deimlad sbesial iawn a 'dwi'n edrych ymlaen at gael gwisgo'r cit coch."

Cafodd Cari lwyddiant yng Ngemau'r Ynysoedd yn 2023, a hi ydi'r person cyntaf erioed o Fôn sydd wedi cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd ac sydd bellach yn symud ymlaen i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

Dywedodd: "O'n i isio 'neud Gemau'r Ynysoedd gan mod i heb neud nhw o'r blaen - o'n i wedi bod efo lot o anafiadau cyn hynny oedd wedi stopio fi rhag mynd i'r gemau.

"O'n i'n mynd mewn iddo ddim yn ffit o gwbl, trio enjoio ac mi ddes i allan efo cyntaf ac ail, o'n i'n hapus efo hynny a phrofiad da."

Tîm Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanlwad yn Birmingham yn 2022Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanlwad yn Birmingham yn 2022

Er o Fôn, mae Cari bellach yn rhedeg yn llawn amser a hynny yn yr Iseldiroedd.

Dywedodd ei bod yn hyfforddi mewn gwahanol lefydd yno.

"'Dw i ddim adra llawer, ond pan 'dw i'n dod nôl i Ynys Môn, mae'n braf cael ymarfer yn Nhreborth, Bangor," meddai.

"'Da ni'n cael pythefnos i ffwrdd y flwyddyn, drwy'r flwyddyn 'dw i'n ymarfer 20 i 24 awr yr wythnos.

"Mae'n lot, mae lot yn meddwl mai dim ond rhedeg ti'n 'neud, ond mae 'na lot o bethau eraill fel mynd i'r gym, mynd ar y beic, rhedeg lot hefyd."

Wrth edrych ymlaen at y Gemau, dywedodd ei bod yn cadw'n bositif.

"Rhaid i chi fynd mewn i bob ras yn hyderus a meddwl bo' chi am neud eich gorau.

"Mynd mor agos at fedal â 'dw i'n gallu - dyna'r oll fedra i aimio ato rili."

Bydd Gemau'r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn Glasgow eleni, rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig