Gwella ar y graean - yr her sy'n wynebu Elfyn Evans i ddod yn bencampwr byd

Mae Elfyn Evans a'i gyd-yrrwr Scott Martin yn arwain Pencampwriaeth y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na deimlad o déjà vu am sefyllfa Elfyn Evans.
Union 12 mis yn ôl roedd yn arwain Pencampwriaeth Rali'r Byd hanner ffordd drwy'r tymor.
Mae'r Cymro yn yr un safle unwaith eto 'leni, ond yn gobeithio y bydd 'na ddiweddglo gwahanol y tro hwn.
Mae'r gyrrwr 36 oed o Ddinas Mawddwy bellach wedi gorffen yn yr ail safle yn y bencampwriaeth ar bum achlysur.
Sébastien Ogier gafodd ei goroni'n bencampwr yn 2025 ar ôl i'r Ffrancwr ennill rali olaf y tymor yn Saudi Arabia.
Elfyn Evans: "Da ni'n gwybod mor gyflym mae pethau'n gallu troi rownd"
Mae Elfyn wedi cael dechrau hynod addawol i'r tymor presennol, gan ennill Rali Sweden a Rali Japan, yn ogystal â gorffen ar y podiwm mewn tair rali arall.
Mae 20 pwynt yn glir o Takamoto Katsuta sy'n yr ail safle yn y bencampwriaeth cyn Rali Gwlad Groeg ar 25-28 Mehefin.
Ond er bod ganddo fantais sylweddol, tydy hi ddim am fod yn hawdd iddo orffen y tymor ar y brig - a hynny oherwydd y math o ralïau sydd i ddod.
Trafferthion gyda graean
Os ydy Elfyn am ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn ei yrfa mae'n gwybod y bydd yn rhaid iddo berfformio'n well mewn ralïau graean (gravel).
Mae saith rali yn weddill o'r tymor, ac mae pob un yn rai graean.
Y tymor diwethaf roedd 'na saith rali graean rhwng mis Mai a mis Medi, a ni lwyddodd Elfyn i ennill yr un ohonyn nhw.
Yn y pendraw, dyna'r prif reswm iddo orffen yn ail yn y bencampwriaeth.
Mae 'na ddwy rali graean wedi bod y tymor yma - fe orffennodd yn 13eg yn Rali Safari Kenya, cyn dod yn drydydd yn Rali Portiwgal.
"Y ralïau graean sydd wedi achosi y mwyaf o broblemau i ni yn y gorffennol," meddai Elfyn.
"Ar ôl dweud hynny fe aeth pethau'n eithaf da i ni yn Rali Portiwgal ym mis Mai.
"Mi oedd hynny'n gam i'r cyfeiriad cywir, ond yn amlwg mae 'na sawl rali fel hyn o'n blaenau ni.
"Mi fydd yn rhaid i ni aros i weld sut y bydd pethau'n mynd."

Mae Elfyn Evans wedi gorffen yn ail ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yn 2020, 2021, 2023, 2024 a 2025
Gan mai Elfyn sy'n arwain y bencampwriaeth, fo fydd y cyntaf ar y ffordd yn Rali Gwlad Groeg.
Mewn ralïau tarmac mae hyn yn fantais fawr i'r gyrwyr, ond tydy hynny ddim yn wir mewn ralïau graean. Os rhywbeth, mae'n dipyn o anfantais.
Mae'r car cyntaf yn clirio'r graean, felly mae'r ffordd yn cyflymu wrth i'r rali fynd yn ei blaen, sy'n gweithio o blaid y gyrwyr sy'n mynd yn hwyrach.
"Mae'r car cyntaf yn 'sgubo'r ffordd, sy'n golygu fod 'a fwy o grip ar gael i'r ceir wrth i'r rali fynd yn ei blaen," esboniodd Elfyn.
"Mi oedd 'na sefyllfa debyg y llynedd gyda saith rali ar y graean, a mae'n deg dweud i ni gwympo nôl yn y bencampwriaeth yn ystod y saith rali yna.
"'Da ni'n gwybod pa mor gyflym mae pethau'n gallu newid.
"Dwi'n disgwyl gweld arweinydd y bencampwriaeth yn newid sawl gwaith yn ystod y saith rali nesaf."

Fe orffennodd Elfyn Evans yn y trydydd safle yn Rali Portiwgal ar y graean yn gynharach eleni
Mae'r gyntaf o'r saith rali graean yn dod yng Ngwlad Groeg y penwythnos yma.
Tydy Elfyn erioed wedi ennill y ras yma, er fe lwyddodd i orffen yn ail ynddi yn 2023.
"Dwi'n edrych ymlaen ond mae hi o hyd yn rali sy'n dipyn o sialens - lot o bethau'n gallu mynd o'i le," meddai.
"Mae hi'n rali rough, poeth, caregog, wedyn mae punctures yn gallu bod yn broblem.
"Mi fydd angen trio bod yn garedig ar y car. Wrth gwrs mi fydd yn rhaid trio mynd yn gyflym ond mi fydd yn rhaid meddwl am y ffactorau eraill hefyd."
Mae'r Cymro yn gwybod fod angen i'w berfformiadau mewn ralïau graean wella dros y misoedd nesaf.
Os bydd o'n llwyddo i wneud hynny a gorffen ar y podiwm yn gyson yn ystod y saith rali nesaf, yna mae ganddo gyfle gwirioneddol o ennill Pencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror

- Cyhoeddwyd15 Ionawr

