Cyhoeddi Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad

Emma Finucane, Matt Richards, Jeremiah Azu ac Olivia BreenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gorffennodd Cymru yn wythfed yng Ngemau'r Gymanwlad 2022, gan ennill 28 medal yn Birmingham - wyth aur, chwe arian ac 14 efydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi cyhoeddi enwau 114 o athletwyr fydd yn cystadlu mewn 10 o wahanol gampau yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 yn Glasgow.

Bydd rhagor yn cael eu dewis yn ystod yr wythnosau nesaf o ddwy gamp arall - pêl-rwyd a phêl-fasged cadair olwyn 3x3.

Mae'r tîm ar gyfer y gemau ym mis Gorffennaf yn cynnwys 66 o fenywod a 48 dyn rhwng 16-73 oed.

Mae'r tîm hefyd yn cynnwys 22 o bara-athletwyr, y nifer uchaf erioed.

Ruby Evans yn Lerpwl ar 22 Mawrth, 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ruby Evans yn gobeithio am fedal yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf yn Glasgow

"Mae'r grŵp yma'n cynrychioli'r gorau o chwaraeon Cymru - ymroddedig, uchelgeisiol a balch o wisgo'r crys coch," meddai pennaeth cenhadaeth 'Tîm Cymru', Gethin Jones.

"Rydym yn adeiladu ar etifeddiaeth 2014 ac allai ddim bod yn fwy balch o fod yn rhan o'r tîm yma.

"Allai ddim disgwyl i weld be' maen nhw'n cyflawni yn Glasgow."

Cafodd Gareth Davies, cyn-faswr Cymru a'r Llewod, ei benodi'n gadeirydd Tîm Cymru ym mis Ebrill 2023.

"Mae cyhoeddi'r tîm bob amser yn foment falch, nid yn unig i'r athletwyr ond i bawb sy'n rhan o wneud y daith hon yn bosibl," meddai.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer iawn o waith wedi mynd i'r cynllunio y tu ôl i'r llenni ac mae'r tîm yma'n adlewyrchiad o'r ymdrech yna ar draws chwaraeon Cymru.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fynychu'r gemau a chefnogi'r tîm wrth iddyn nhw gynrychioli Cymru gyda balchder ar lwyfan y byd."

Gymnasteg artistig

Bydd 10 athletwr yn cystadlu mewn Gymnasteg Artistig dros Gymru yr haf yma.

Bydd enillydd medal arian Pencampwriaeth y Byd, Ruby Evans, yn gobeithio am fedal yn ei Gemau Cymanwlad cyntaf, ar ôl ennill teitl ym Mhencampwriaethau Prydain yn Lerpwl ym mis Mawrth.

Dim ond Joe Cemlyn-Jones a Jacob Edwards sy'n dychwelyd o'r tîm a wnaeth gystadlu yn Birmingham bedair blynedd yn ôl.

Y rhestr lawn

Abigail Roper, Alexander Niscoveanu, Elliot Vernon, Emily Roper, Frances Stone, Henry Lewis, Jacob Edwards, Jemima Taylor, Joe Cemlyn-Jones, Ruby Evans.

Athletau a phara-athletau

Bydd Athletau Cymru yn anfon tîm o 18.

Bydd Adele Nicoll yn cystadlu mewn taflu pwysau a hynny bedwar mis ar ôl cynrychioli Tîm Prydain yn y Bobsleigh yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn yr Eidal.

Mae pencampwyr 2022 Aled Davies ac Olivia Breen yn dychwelyd, yn ogystal â'r enillydd medal efydd Harrison Walsh.

Bydd enillydd y fedal yn y Gemau Olympaidd, Jeremiah Azu, hefyd yn gobeithio ychwanegu medal y Gymanwlad at ei gasgliad.

Y rhestr lawn

Abigail Pawlett, Adele Nicoll, Aled Davies, Amber Simpson, Ava Lloyd, Bree Cronin, Cari Hughes, Charlotte Henrich, Ellie Bowen, Funmi Oduwaiye, Harrison Walsh, Isabelle Boffey, Jake Heyward, Jeremiah Azu, Justin Davies, Melissa Courtney-Bryant, Olivia Breen, Thomas Walley

Bowls

Mae Bowls Cymru wedi dewis wyth enw i gystadlu'r haf yma.

Bydd Daniel Salmon yn gobeithio amddiffyn y teitl parau dynion enillodd bedair blynedd yn ôl gyda Ross Owen - a fydd yn cystadlu'n unigol hefyd.

Cafodd Julie Thomas arian mewn para-fowlio yn 2022, yn y parau cymysg â nam ar eu golwg a bydd hi'n cystadlu gyda Steffan James a'r cyfarwyddwyr, James Jones a John Wilson.

Y rhestr lawn

Amy Williams, Daniel Salmon, James Jones (cyfarwyddwr), John Wilson (cyfarwyddwr), Julie Thomas, Lauren Gowen, Ross Owen, Steffan James

Rosie EcclesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Rosie Eccles aur yng ngemau 2022

Bocsio

Bydd enillydd medal aur yn y gemau diwethaf, Rosie Eccles, yn dychwelyd i'r gemau fel rhan o garfan o saith.

Dim ond 18 oed oedd Owain Harris-Allan pan enillodd yr efydd bedair blynedd yn ôl ac mae eisiau bod "ar frig y podiwm" y tro hwn.

Dechreuodd Orlando Holley-Sotomi focsio yn 15 oed, yn wreiddiol i gadw ffitrwydd wrth chwarae rygbi.

Y rhestr lawn

Connor Williams, Daniel Pitt, Helen Jones, Niamh Brookes, Orlando Holley-Sotomi, Owain Harris-Allan, Rosie Eccles

Judo

Ashleigh Barnikel ydy'r unig un o'r wyth yn y garfan a wnaeth gystadlu yn Birmingham yn 2022.

Bellach wedi ymddeol, Natalie Powell sydd wedi dewis y tîm i Glasgow - lle yr enillodd hi aur ei hun yn 2014.

Y rhestr lawn

Ashleigh Barnikel, Ben Moore, Holly Devall, Joshua Bell, Joshua Whitehouse, Lola Hodson, Millie Bayliss, Oliver Barratt

Nofio a phara-nofio

Wedi ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd yn y gorffennol, mae Matt Richards a Kieran Bird ymysg y 21 o nofwyr yn y tîm.

Dim ond 17 oed oedd Rhys Darbey pan enillodd aur ac arian yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis 2024.

Enillodd Ela Letton-Jones, 19, arian ym Mhencampwriaethau Para-nofio'r Byd fis Hydref.

Y rhestr lawn

Alexandra Bastone, Amy Crowley, Dan Jones, Dylan Broom, Ela Letton-Jones, Harry Milne, Jack Knight, Joshua Inglis, Kieran Bird, Kyle Booth, Lewis Fraser, Matthew Richards, Medi Harris, Meghan Higgs, Meghan Willis, Rebecca Sutton, Rhys Darbey, Rose Williams, Sophie Davies, Theodora Taylor, Tyler Melbourne-Smith

Emma FinucaneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Emma Finucane ddwy fedal efydd yn 2022

Seiclo trac a phara-seiclo trac

Bydd 19 o feicwyr yn cymryd rhan yn y cystadlaethau yma.

Roedd y cwpl priod, Ciara a Lewis Oliva, wedi ymddeol ers 2018, ond mae'r ddau yn eu holau wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Enillodd Emma Finucane ddwy fedal efydd bedair blynedd yn ôl, ond ers hynny mae hi wedi ennill medalau aur gan gynnwys un Olympaidd.

Y rhestr lawn

Anna Morris, Carys Lloyd, Ciara Oliva, Emma Finucane, Ioan Hepburn, James Ball, Jessica Roberts, Jonah Jenkins, Lewis Oliva, Lowri Thomas, Matthew Botherham (peilot), Megan Barker, Rhian Edmunds, Rhys Britton, Rory Gravelle, Steffan Lloyd, William Perrett, William Roberts, William Slater

Codi pwysau

Mae chwech yn y garfan codi pwysau, gan gynnwys Catrin Haf Jones, 27, a fydd yn teithio i'r gemau am y trydydd gwaith.

Bydd Laura Hughes yn mynd am yr eildro a Madaline Connelly - wnaeth ennill aur yn y Pencampwriaethau Prydeinig y llynedd - yn mynd hefyd.

Y rhestr lawn

Catrin Haf Jones, Chloe Hood, James Wales, Laura Hughes, Madaline Connelly, Nikole Roberts

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig