'Nes i ddim gadael i fy mhen ddisgyn' - Leo Smith yn edrych tua'r dyfodol wedi anaf

Leo Smith yn chwarae i'r Seintiau NewyddFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Leo Smith arwyddo i'r Seintiau Newydd yn 2020 yn dilyn cyfnod gyda Chaernarfon

GanAled Williams
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae Y Seintiau Newydd Leo Smith yn dweud ei fod wedi gweithio'n galed ac yn teimlo'n gryfach nag erioed ar ôl brwydro'n ôl o anaf difrifol.

Cafodd Smith yr anaf i'w ben-glin - anaf ACL - mewn gêm yn erbyn Shkëndija o Ogledd Macedonia yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf.

Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae nawr yn edrych ymlaen at chwarae unwaith yn rhagor yn y gystadleuaeth.

"Dwi wedi gweithio'n galed," meddai Smith, a gafodd ei fagu ym Mhorthmadog ac a ddechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda Wrecsam.

"Mae rhywbeth fel yna yn gallu cymryd amser hir.

"Ond mi oeddwn yn ôl yn trainio yn gyfan hefo'r tîm cyntaf ar ôl chwe mis ac yn chwarae fy gêm gyntaf ar ôl saith mis.

"Mae pethau fel yna dwi yn gallu edrych yn ôl ar ba mor galed dwi wedi gweithio i fod yn y sefyllfa yma.

"Dwi'n teimlo fwy ffit ac yn lot cryfach nag o'n i."

'Ddim wedi teimlo'n sori dros fy hun'

Yn ogystal â chefnogaeth y clwb, mae Smith yn dweud bod ei deulu wedi bod yn help ac yn gysur mawr iddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Nes i ddim gadael i fy mhen ddisgyn a theimlo'n sori dros fy hun o gwbl," meddai.

"Mae'r pethau 'ma'n digwydd ac alli di ddim newid beth sydd wedi digwydd.

"Mae'n rhaid edrych ymlaen at y dyfodol a gwneud yn siŵr mod i'n gweithio'n galed i ddod yn ôl.

"A dwi'n falch o ddweud mod i'n teimlo yn y lle gorau ar hyn o bryd."

Leo Smith yn cael ei gario o'r maes wedi ei anaf ym mis Gorffennaf 2025Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Leo Smith yn cael ei gario o'r maes wedi ei anaf ym mis Gorffennaf 2025

Chwaraeodd Smith mewn ychydig o gemau wrth o'r tymor diwethaf ddirwyn i ben, gyda'r Seintiau eisoes wedi ennill y Cymru Premier.

Mae'r garfan wedi bod yn ôl ers ganol mis Mai yn ymarfer ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Pencampwyr, lle byddan nhw'n wynebu Sabah o Azerbaijan.

"Mae'r hogia' i gyd yn edrych ymlaen i'r sialens," meddai.

"Dwi'n gwybod y bydd hi'n gêm anodd - rhaid i ni baratoi mor dda ag y gallwn ni, edrych ymlaen at y gêm a mwynhau."

'Wedi creu hanes yn barod'

Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ddwy flynedd yn ôl.

Chwaraeodd pencampwyr Cymru yng Ngynghres UEFA gan wynebu mawrion fel Fiorentina o'r Eidal a Panathinaikos o Groeg.

Rhediad tebyg ydi'r uchelgais unwaith yn rhagor, medd Smith.

"'Da ni wedi creu hanes yn barod wrth wneud hynny," meddai'r chwaraewr 28 oed.

"O'dd pawb yn gwybod pa mor bwysig oedd o i ni fel clwb adeg yna, ond tro 'ma 'da ni eisiau creu hanes eto.

"Ond ar ddiwedd y dydd mae'n dod lawr i lwc pwy 'da chi'n cael yn y draws.

"Ond allwn ni ddim meddwl am hynny, ac ond canolbwyntio arno ni a gwneud yn siŵr 'da ni'n mynd fewn i'r gêm yn bositif."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig