'Oglau llosgi mawr' wrth i dân barhau a phobl leol yn 'bryderus'

Tân Bwlch SychnantFfynhonnell y llun, Rita Raweily
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i dân mawr yn Sir Conwy barhau ddydd Llun wrth i fwy o dywydd poeth daro Cymru, meddai'r gwasanaeth tân.

Mae swyddogion wedi bod yn brwydro tanau ar Fynydd y Dref yng Nghonwy a Bwlch Sychnant ers bore Sul ac wedi bod yn mynd drwy'r nos.

Bu rhaid i drigolion ym mhentref Capel Ulo ger Penmaenmawr adael yr ardal gyda 36 o gartrefi'n cael eu gwagio oherwydd y mwg.

Dywedodd y gwasanaeth tân fore Llun nad ydyn nhw'n rhagweld bod angen gwagio mwy o gartrefi, ond ei bod yn rhy gynnar i ddweud pryd y gall trigolion Capel Ulo ddychwelyd i'w cartrefi.

Mae dwy ysgol leol - Ysgol Capel Ulo ac Ysgol Pencae ym Mhenmaenmawr - ar gau ddydd Llun oherwydd yr amodau.

Y tân wedi'i weld o loeren ddydd SulFfynhonnell y llun, EU/ESA/Copernicus
Disgrifiad o’r llun,

Y tân wedi'i weld o loeren ddydd Sul

Cafodd y digwyddiad ei ddynodi fel "digwyddiad difrifol" ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r tân ddwysáu eto, meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân, "ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy'r nos i baratoi ar gyfer hynny".

Mae tua 200 erw o dir wedi cael eu heffeithio hyd yma.

"Gafon ni ein deffro tua 05:00 [fore Sul] gyda'r tŷ yn llawn mwg," medd un person lleol, wrth i un arall ddweud ei bod hi'n "ofnadwy".

Gwyndaf PritchardFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwyndaf Pritchard fod y fflamau'n symud yn gyflym iawn ac y bydd yn cymryd amser hir i adfer y difrod i fyd natur yr ardal

Dywedodd Gwyndaf Pritchard, sy'n byw yn Nwygyfylchi, "fod 'na oglau llosgi mawr" yn y dyffryn o hyd fore Llun.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd ei fod wedi cael ei ddeffro gyda'r tŷ yn llawn mwg fore Sul, ac aeth yn y car i weld beth oedd yn digwydd.

"Oedd y dyffryn i gyd yn llawn mwg a'r lludw'n dod i lawr hefyd," meddai.

"Oeddach chi'n gallu gweld y fflamau ar y dyffryn - o'ddan nhw'n symud yn gyflym iawn.

"Mae Sychnant ei hun wedi cal difrod mawr i'r byd natur."

Yr awyr yn oren ym mhentref Capel Ulo fore SulFfynhonnell y llun, Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng Nghapel Ulo fore Sul, gyda'r awyr yn oren a lludw yn yr aer

Mae Mr Pritchard yn gosod tai haf yn yr ardal, ac esboniodd ei fod wedi gallu cynnig un o'i dai yn Nwygyfylchi i deulu pryderus a oedd wedi gorfod gadael eu cartref.

"Maen nhw'n bryderus dros ben," meddai.

Aeth Mr Pritchard ymlaen i ddweud mai "be' sy'n bwysig ydy does 'na ddim llawer o anafiadau".

Ond mae'n poeni'n fawr am yr effaith mae hyn am ei chael ar fyd natur.

"Mi gymerith hi flynyddoedd i ddod â'r ardal yn ôl at ei gilydd," meddai.

"Mae'r gymuned yn agos yma - pawb yn edrych ar ôl ei gilydd - a dyna sy'n bwysig am y gymuned yma."

Tim LloydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tim Lloyd fod y tai gyferbyn â'i gartref "ynghanol y mwg"

Dywedodd y cyn-ddiffoddwr tân Tim Lloyd, sy'n byw yn y pentref, ei fod yn cydymdeimlo â'r swyddogion.

"Mae'r gwynt yn codi unwaith eto," meddai ar Dros Frecwast, "a hwnnw ydy'r drwg".

"Mae'r job yn un andros o anodd i'r diffoddwyr tân drio cadw ar ben petha'."

Esboniodd fod y mynydd yn rhy serth a pheryglus i ddiffoddwyr frwydro'r fflamau'n uchel i fyny, felly "maen nhw just yn gorfod disgwyl i'r tân gyrraedd nhw a wedyn diffodd y tân".

Dywedodd fod y tai ochr arall i'r lôn o'i gartref "ynghanol y mwg - o'dd hi'n ofnadwy".

'Pawb yn poeni'

Er bod y sefyllfa wedi gwella dros nos dywedodd un ffermwr lleol, Gareth Wyn Jones "mae dal yn bryderus, mae pawb yn poeni - mae'r tanau yma'n gallu ailgychwyn".

Esboniodd mai dyma'r pedwerydd tân yn yr ardal eleni "ond hwn ydy'r un mwyaf dwi 'di gweld ers talwm".

"O'dd o'n dychryn rhywun ddoe - mor sydyn 'naeth y tân symud."

Pwysleisiodd fod angen cael y "neges allan yno i bobl fod yn ofalus os ydyn nhw'n mynd allan i gefn gwlad adeg yma'r flwyddyn".

Disgrifiad,

Bu Llinos Evans o Wasanaeth Tân y Gogledd yn rhoi diweddariad fore Llun

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael eu galw am 02:15 fore Sul ac y bu rhaid iddyn nhw ddelio "â nifer sylweddol o ddigwyddiadau difrifol ar draws gogledd Cymru".

"Bu ein diffoddwyr tân yn gweithio drwy'r nos, gan ddechrau ddoe yn y bore, ac maen nhw'n parhau ar y safle heddiw," meddai fore Llun.

"Mae tua 200 erw o dir wedi'u heffeithio."

Esboniodd fod y tân tua 1.6 cilomedr o hyd ar ei waethaf, "felly roedd o'n ddigwyddiad mawr a sylweddol iawn i ni".

"Oherwydd y tirwedd anodd iawn ar Fynydd y Dref, mae'n anodd iawn i ni gael ein timau yno. 'Da ni'n disgwyl bod yno am beth amser.

"Wrth i'r tymheredd godi yn yr ardal y bore 'ma ac yn ystod y dydd, 'da ni'n disgwyl gweld y tân yn dwysáu eto, ond mae ein timau wedi bod yn cynllunio drwy'r nos i baratoi ar gyfer hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.