Sheen yn galw am weithredu brys i osgoi 'gwenwyno cymunedau'

- Cyhoeddwyd
Mae Michael Sheen wedi galw am raglen brofi genedlaethol ar gyfer safleoedd hanesyddol lle cafodd gwastraff gwenwynig ei waredu, gan rybuddio am "berygl dybryd" y gallai'r sefyllfa bresennol arwain at wenwyno cymunedau am genedlaethau.
Roedd yr actor yn ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Iau i drafod canfyddiadau "dystopaidd" a "brawychus dros ben" ei raglen ddogfen ddiweddar ar gyfer y BBC, a oedd yn edrych ar honiadau bod cemegion gwenwynig wedi treiddio i dir a dyfroedd dros ardal eang.
Roedd galwadau am ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i'r rhaglen ddogfen ganfod lefelau uchel o gemegau sy'n achosi canser, PCBs, mewn samplau pridd yn ogystal ag yng ngwaed pobl leol oedd yn byw ger safleoedd sy'n gysylltiedig â'r cwmni cemegol Americanaidd Monsanto.
Eastman Chemical Company sy'n gyfrifol am waddol cynnyrch Monsanto ym Mhrydain, ond dydyn nhw ddim wedi ymateb i gais y BBC am sylw.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mynd i'r afael â thir halogedig fel hyn yn "flaenoriaeth allweddol".

Ymddangosodd Sheen gerbron Pwyllgor Materion Cymru gyda'r newyddiadurwyr ymchwiliol Lucy Taylor a Dan Ashby
Dywedodd Sheen wrth Aelodau Seneddol nad oedd "erioed wedi dod ar draws unrhyw beth mwy annheg na hyn" a bod cymunedau yn wynebu "anghyfiawnder ofnadwy".
Dechreuodd diddordeb yr actor yn y mater ddegawd yn ôl ar ôl darllen am Douglas Gowan, ymgynghorydd ffermio a drodd yn ymgyrchydd, a dreuliodd ddegawdau yn rhybuddio bod cymunedau mewn perygl.
Roedd Gowan wedi bod yn ymchwilio i Monsanto - cwmni â ffatrïoedd yng Nghasnewydd a Wrecsam - oedd yn cynhyrchu'r hyn roedd e'n ei alw'n "rhai o'r llygryddion gwaethaf sy'n hysbys i ddyn".
Ar un adeg, roedd PCBs yn cael eu defnyddio'n eang mewn pethau mor gyffredin â lipstic a theclynnau cartref mawr.
Ond bellach maen nhw wedi eu gwahardd ledled y byd fel sylweddau sy'n achosi canser, ac yn cael eu hystyried y "cemegau tragwyddol" cyntaf – cemegau sy'n cronni yn yr amgylchedd ac yn bygwth bywyd gwyllt ac iechyd pobl.
Gwnaeth Michael Sheen gyfweliad â Gowan ychydig cyn ei farwolaeth, cyn mynd ymlaen i gydweithio gyda'r newyddiadurwyr ymchwiliol Lucy Taylor a Dan Ashby, a oedd wedi etifeddu holl ddogfennau ac ymchwil Gowan.
Fel rhan o'u hymchwil, fe fuon nhw'n profi 14 safle yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr lle y credir bod Monsanto wedi gwaredu PCBs, gan ganfod lefelau uwch na'r arfer ym mhob safle ag eithrio un.

Fe ddaeth y newyddiadurwyr Dan Ashby a Lucy Taylor o hyd i lefelau uchel o PCBs mewn 13 o safleoedd
Wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Iau, dywedodd Lucy Taylor eu bod wedi cael gwybod bod un o'r samplau tir mor wenwynig, "pe byddech chi'n ei gyffwrdd, byddai'n beryglus i iechyd".
"Yn ôl gwyddonwyr, pe bai ci yn rhedeg drwy bwll dŵr yno, byddai'r ci yn marw oherwydd lefelau'r cemegau yn y pridd," ychwanegodd.
Roedd y profion hynny, meddai, wedi dod o dir cyhoeddus o amgylch, yn hytrach nag ar, hen safleoedd tirlenwi neu safleoedd diwydiannol, gan fod rheiny wedi'u ffensio ar gau.
"Ry'n ni'n sôn am gemegau yn gollwng allan o'r safleoedd hynny... [ar] lwybrau troed cyhoeddus, coetiroedd cyhoeddus, caeau chwarae a ffyrdd."
Fe wnaethon nhw hefyd gynnal profion gwaed ar nifer fach o drigolion lleol - roedd dau o'r rheiny â lefelau uwch o PCB na'r cyfartaledd a gofnodwyd mewn astudiaeth fawr yn yr Unol Daleithiau.
Roedd rhain yn cynnwys Michael Phillips, sy'n ymddangos yn y rhaglen ddogfen ac yn cofio chwarae gyda'i ffrindiau yn un o'r safleoedd gwaredu gwastraff mwyaf drwg-enwog – lagŵn Llwyneinion yn Wrecsam – pan oedd yn blentyn.
Degawdau'n ddiweddarach, mae nifer o'r ffrindiau hynny, a Phillips ei hun, wedi datblygu mathau prin o ganser, ac maen nhw'n credu y gallai hyn fod yn gysylltiedig â'r cemegion yno.

Dywedodd Dan Ashby ei fod yn "warthus" bod lagŵn Llwyneinion dal ar agor yn Wrecsam
Yn ôl y newyddiadurwr Dan Ashby, mae presenoldeb y lagŵn yn "warth ar Brydain" ac mae'n sgandal ei fod yn dal i fod yno.
"Mae'n warthus ei fod wedi bod yno ers 20 mlynedd," meddai.
"Rwy'n credu y byddai Cyngor Wrecsam yn cydnabod hynny ac yn cydnabod eu rhwystredigaeth oherwydd nad oes ganddyn nhw'r arian i'w glirio, a fwy na thebyg bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn teimlo'r un peth."
Dywedodd Ashby fod "ymateb enfawr gan y cyhoedd" wedi dilyn darlledu'r rhaglenni dogfen a bod "mwy i'r stori", gan annog y gwleidyddion y pwyllgor i gymryd y mater o ddifrif.
Dywedodd Sheen ei fod wedi cysylltu â Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru, cyn darlledu'r rhaglen ddogfen, ond na chafodd y cynnig am gyfarfod ei dderbyn.
"Ro'n i'n meddwl ei fod yn gyfle gwych i'r prif weinidog, fel prif weinidog newydd, sydd newydd ddechrau yn y swydd, i ymuno â'r ymgyrch a chwilio am atebion...
"Yn anffodus, ni chafodd y cynnig hwnnw ei dderbyn."
Roedd cwestiynau'r pwyllgor ddydd Iau yn canolbwyntio ar brofi ac adfer safleoedd lle mae amheuaeth bod yna broblem - miloedd ohonyn nhw o bosib.
"Mae'n ymddangos bod y rhai sy'n gyfrifol am wneud hyn yn y lle cyntaf wedi dianc rhag y cyfrifoldeb; mae'n ymddangos fel pe baen nhw wedi'u hamddiffyn, eu gwarchod," meddai Sheen.
Awgrymodd fod hyn yn golygu bod "math o anghydfod neu sefyllfa lle mae pethau wedi dod i ben y daith" ar hyn o bryd, gyda chynghorau ag "ofn mawr gwneud penderfyniad" ynghylch a yw tir wedi'i halogi ai peidio, gan y byddai'r gost o orfod delio â hynny yn ddigon i'w gwneud yn fethdalwyr.
"Mae'n rhaid tynnu'r baich oddi ar y cynghorau," meddai, gan alw am gyllid cenedlaethol, "os nad rhyngwladol", ar gyfer profi ac adfer trylwyr.
"Ar hyn o bryd, ni yw'r rhai sydd ar ôl o'i gymharu â gweddill y byd," ychwanegodd Ashby, gan nodi bod yr Unol Daleithiau yn "cloddio ac yn glanhau'r safleoedd hyn" ac yn gweld lefelau PCB yn yr amgylchedd yn gostwng o ganlyniad.
'Dydw i ddim yn fodlon derbyn hynny'
Yr wythnos diwethaf, mynychodd tua 160 o drigolion gyfarfod cyhoeddus yn Acre-fair, Wrecsam, yn agos at hen ffatri Monsanto.
Dywedodd y cynghorydd cymunedol Katie Witherden, a drefnodd y cyfarfod ar ôl ymddangos yn rhaglen ddogfen Sheen, fod y gymuned eisiau "atebion" a "phrofi trylwyr o'r holl safleoedd lle mae amheuaeth bod yna broblem".
"Nes bod hynny'n cael ei wneud, mae perygl y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu gwenwyno gan hyn heb wybod; dydw i ddim yn fodlon derbyn hynny."
Roedd gwybod bod y mater yn destun trafodaeth yn San Steffan yn "rhyddhad", ychwanegodd Witherden.
"Mae hyn wedi cymryd amser hir iawn i ddod i'r amlwg".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "mynd i'r afael â mater tir wedi'i halogi yn brif flaenoriaeth" iddyn nhw.
"Byddwn yn datblygu strategaeth ar gyfer Cymru gyfan i adfer tir ôl-ddiwydiannol yn raddol fel nad yw cymunedau bellach yn agored i risgiau posib.
"Bydd hyn yn cynnwys cryfhau'r egwyddor 'y llygrydd sy'n talu' wrth i ni barhau i bwyso am gyfiawnder amgylcheddol drwy bwysleisio pwysigrwydd ceisio cyllid gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol gan Drysorlys y DU.
"Dylid defnyddio hwn i barhau â'n hymdrechion ar y cyd i fynd i'r afael â gwaddol gorffennol diwydiannol Cymru drwy adfer tomenni glo ac adfer tir wedi'i halogi."
Mae Llywodraeth y DU a Chyngor Wrecsam wedi cael cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.