Nofel am Hen Gymry gogledd Sbaen yn cael ei chyfieithu i'r Galiseg

Gareth gyda chopïau o Y Pibgorn Hud a'i gyfeithiad Galiseg, A Cornamusa Máxica
- Cyhoeddwyd
Mae stori cymuned o Hen Gymry a oedd yn byw yn ardal Galisia yn ystod y chweched ganrif yn cael ei hadrodd mewn cyfres o lyfrau i bobl ifanc gan yr awdur Gareth Evans.
Y Pibgorn Hud yw'r cyntaf o drioleg sy'n pontio cymuned yng Ngwent, a Brythonia yng ngogledd orllewin Sbaen. A nawr, mae nofel ar gael mewn Galiseg.
Chwilio am Maelog
Gweld arwydd ar siop yn Galisia, yng ngogledd Sbaen, gydag enw lled-gyfarwydd arno a ddechreuodd y siwrne i Gareth.
Roedd yr enw MAELOC yn edrych yn debyg i Gymraeg, meddai, ac ar ôl holi, cafodd wybod fod Maelog yn esgob Brythonaidd a fu'n gwasanaethu yn yr ardal yn ôl yn y chweched ganrif. Roedd y lle yma yn cael ei alw'n Brythonia.

MAELOC - yr arwydd yn Santiago de Compostela a ddechreuodd y cyfan
'Sbardunodd hyn syniad am nofel yn nychymyg Gareth, ac yn 2018 aeth ati o ddifri i ymchwilio:
"Does fawr iawn o bobl yn gwybod am y lle, dyna'r gwir," meddai, "ond do'n i ddim cweit yn sylweddoli cyn dechrau'r ymchwil cyn lleied o wybodaeth oedd.
"Y drafferth yw, fel sydd yng Ngorllewin Prydain, mae cyfansoddiad cemegol y tir yn asidig iawn, felly mae popeth organig yn pydru, felly ychydig iawn o olion sydd o'r cyfnod hyn.
"Yr unig brawf sydd yw ein bod ni'n gwybod o ddogfen o'r cyfnod fod esgob o'r enw Maelog yn bodoli a'i fod yn esgob ar frythoniaid Brythonia ac Asturias. Felly mae'n rhaid fod 'na ryw fath o gymuned Brythonaidd yn bodoli, a bod gymaint o bwysigrwydd i'r eglwysi bod nhw'n haeddu esgob eu hunain, a'r esgobaeth wedi para am ddegawdau."
Ymchwilio a dyfeisio
O Aberystwyth yn wreiddiol, mae'r awdur wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers blynyddoedd maith ar ôl cyfnodau'n byw yn Yr Almaen a Sbaen.
Roedd ei Sbaeneg yn hanfodol yn ystod y gwaith ymchwil, eglurodd, oherwydd mai prin yw'r erthyglau am hanes y gymuned yma sydd ar gael yn Saesneg.
Roedd trwch ei waith ymchwil, yn enwedig ar gyfer yr ail nofel Y Ferch o Aur, eglurodd, wedi digwydd yn ystod y Cyfnod Clo, oedd yn ddefnyddiol iawn mewn ffordd:
"Fues i'n cysylltu â haneswyr ac archolegwyr o Galisia a Sbaen, a falle gan bo' pawb adre'n gweithio, ges i ymateb gwych a bron pawb wedi ateb ac yn fodlon helpu! Treuliais i flwyddyn neu ddwy yn gohebu ac yn cael cyfarfodydd ar-lein.
"Ar gyfer y trydydd llyfr 'nes i ymweld â Galisia a gogledd Portiwgal – oedd hefyd yn rhan o'r rhanbarth dan sylw – a chael fy nhywys o gwmpas pedwar lle oedd yn bodoli bryd hynny, a sy'n bodoli yn y llyfr."

Cafodd caer y Brythoniaid yn Y Pibgorn Hud ei seilio ar Gaer Viladonga - gwelodd Gareth olion y gaer yma pan aeth draw i Galisia ar daith ymchwil
Mae'r drioleg yn dilyn anturiaethau Ina, merch 12 oed sy'n teithio o dde-ddwyrain Cymru draw i Frythonia, gan roi syniad i ni o fywyd yn yr ardaloedd hynny yn ystod y 550au.
Er ei holl ymdrech yn ymchwilio, gyda chyn lleied o wybodaeth ar gael, roedd llawer o waith dyfalu a dyfeisio, wrth gwrs.
"Mae'r ymchwil wedi bod yn rhan bwysig o'r broses yn amlwg; nofel hanesyddol yw hi, er fod 'na elfennau ffantasi hefyd.
"Y gwir yw does neb yn gwybod yn union sut oedd bywyd adeg hynny, ond drwy wahanol ffynonellau mae modd creu rhywbeth o ddarlun.
"Felly mewn ffordd cymryd yr hyn sy'n wybodus, ceisio creu rhyw fath o drosolwg o fywyd bob dydd a wedyn dychmygu sut byddai Brythoniaid yn ffitio mewn i hyn, a chreu stori gyda'r sgerbwd hanesyddol."
Cysylltiadau rhyngwladol ers canrifoedd
Roedd nofel gyntaf Gareth – Gethin Nyth Brân – yn un i bobl ifanc, ac ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og yn 2018.
Felly roedd yn gwneud synnwyr i Gareth mai nofel i bobl ifanc a fyddai ei ail nofel hefyd, sef ei nofel am yr Hen Gymry yn Galisia. Ond roedd hefyd yn meddwl fod y testun o ddiddordeb i bobl ifanc:
"Ro'n i yn awyddus i greu stori oedd yn gosod y Cymry mewn cyd-destun gwahanol. Bod 'na fodd i greu stori am ein treftadaeth ni, sydd ddim yn digwydd ym Mhrydain.
"Roedd hyn yn digwydd rhyw ddwy flynedd ar ôl pleidlais Brexit, felly roedd yn rhywbeth o'n i'n awyddus iawn i wneud; i sgwennu rhywbeth falle oedd yn mynd yn erbyn y syniad yma bod modd i ni fod yn hollol ynysig, ac i ddangos bod cysylltiadau rhyngwladol masnach a mudo wedi digwydd erioed.
"Pan ddes i at ddiwedd y drafft cyntaf, sylweddolais i fod 'na dipyn mwy i ddweud, nid yn unig o ran y stori ond y ran y byd hwnnw."
Cyfieithiad i'r Galiseg
Mae tair nofel Gareth hyd yma wedi eu cyfieithu i'r Saesneg a mwynhaodd gyd-weithio gyda Jane Burnard ar y cyfieithiadau, meddai.
Eglurodd fod cael cyfieithiad nid yn unig yn adnodd gwych ar gyfer darllenwyr Saesneg-eu-hiaith, ond mae hefyd yn agor y drws i'r nofel gael ei chyfieithu i ieithoedd eraill yn ogystal, a hynny o'r Saesneg.
Ac mae wrth ei fodd fod Y Pibgorn Hud nawr wedi ei chyfieithu i'r Galiseg, a hynny gan wasg Boadicea sy'n cyhoeddi gweithiau ffantasi ac arswyd mewn Galiseg.
Cafodd A Cornamusa Máxica ei chyhoeddi fis Mehefin eleni, gyda Gareth yn cael gwahoddiad i fod yn rhan o ŵyl lenyddol draw yng Ngalisia i'w hyrwyddo.
"Oedd e'n reit ddoniol achos oedden nhw wedi oedi ychydig bach gyda'r cyhoeddi achos o'n nhw'n poeni falle bydde y llyfrau oedolion o'n nhw'n cyhoeddi yn cymryd gormod o sylw, sef llyfrau gan Stephen King a Terry Pratchett. O'n i ddigon hapus i aros!

Roedd Gareth wedi mwynhau siarad am Y Pibgorn Hud/A Cornamusa Máxica mewn gŵyl lenyddol yn Allariz
"Oedd y cyhoeddwyr yn bobl gweithgar a blaengar iawn dros y Galiseg.
"Roedd hi'n ŵyl aml-ieithog, ac roedd hi'n hyfryd iawn cael y profiad o gwrdd ag awduron o led-led Sbaen a Phortiwgal, ac wrth gwrs i sôn am Y Pibgorn Hud."
Mae Gareth yn arbennig o falch fod y llyfr nawr ar gael mewn tair iaith sy'n chwarae rhan mor flaenllaw yn stori'r nofel.
"Y tri prif gymeriad ydy Ina sydd yn siarad Hen Gymraeg, Ebba sy'n siarad Hen Saesneg a Miro sy'n siarad Hen Galiseg, felly ro'n i wir yn awyddus pe byddai'r llyfr yn cael ei gyfieithu, mai i'r Galiseg fyddai e'n cael ei gyfieithu gyntaf."
Diwedd cyfnod
Mae Gareth wrthi'n gorffen y ddrafft derfynol o drydydd llyfr y drioleg, Y Groes Emrallt, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2027, gan gau'r drws ar naw mlynedd hir o waith ymchwil ac ysgrifennu. Y gobaith yw y bydd honno hefyd yn cael ei chyfieithu i'r Saesneg.
Beth wedyn i'r awdur?
"Mae 'na ambell i syniad yn yn dechrau cnocio i ddod allan o'r drôr. Ond dwi'n credu y bydda i angen hoe gyntaf – mae 'di bod yn broses hir iawn, a bydda i angen cael fy llusgo yn ôl i'r 21ain ganrif yn anffodus.
"Wedyn bydd rhaid gweld beth sy'n dod mas o'r drôr gyntaf!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021

- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
