Gyrrwr yn gwadu rasio ei frawd cyn gwrthdrawiad angheuol

Rhys Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr a darodd gar arall gan ladd tad i ddau o blant ac anafu bachgen naw oed yn ddifrifol, wedi dweud wrth lys nad oedd wedi bod yn gyrru ar "gyflymder gormodol" ac nad oedd ef na'i frawd "yn rasio".

Bu farw Rhys Jenkins o Ddeuddwr, Powys, yn lleoliad y gwrthdrawiad ar 16 Tachwedd, 2024.

Cafodd ei fab, Ioan, ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau difrifol.

Mae Abubakr Ben Yusaf, 31 oed, ac Umar Ben Yusaf, 35 oed, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Mae Abubakr Ben Yusaf hefyd yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant.

Abubakr Ben Yusaf ac Umar Ben Yusaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abubakr Ben Yusaf a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

Gan roi tystiolaeth yn yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, dywedodd Abubakr Ben Yusaf ei fod wedi bod yn gweithio fel optometrydd locwm yn Aberteifi ar adeg y digwyddiad, a bod ei frawd yn gwneud yr un swydd yn Aberystwyth, lle roedden nhw yn rhannu fflat.

Roedd y ddau yn gyrru'n ôl o Aberystwyth i gartref y teulu ym Manceinion pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Ben Yusaf wrth y llys fod ei frawd wedi gadael o'i flaen mewn Audi A4 glas a'i fod ef wedi gadael mewn BMW X3 coch, tua 17:00.

Clywodd y llys gan Abubakr Ben Yusaf, mai car ei dad oedd y BMW a'i fod wedi'i yswirio ganddo, ond dywedodd Mr Ben Yusaf ei fod yn credu bod ei dad wedi'i ychwanegu fel gyrrwr ychwanegol ar y polisi.

Dywedodd ei fod wedi gyrru'r car ar nifer o achlysuron, gan gynnwys gyda'i dad yn deithiwr.

Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o'i frawd yn gyrru'n agos y tu ôl iddo a dywedodd ei fod wedi disgwyl y byddai wedi bod ar y blaen oherwydd iddo adael Aberystwyth o'i flaen.

Dywedodd ei fod yn anghytuno â nifer o dystion a ddywedodd iddyn nhw weld y BMW yn gyrru ar gyflymder gormodol ar hyd yr A483 yn y munudau cyn y gwrthdrawiad.

A483 BelanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng

Ychwanegodd Mr Ben Yusaf, er iddo oddiweddyd nifer o gerbydau ar y daith, mai dim ond "pan oedd yn meddwl ei bod yn ddiogel" oedd yn gwneud hynny.

Gofynnodd Hugh Barton - bargyfreithiwr Abubakr Ben Yusaf, os oedd yn derbyn fod y lluniau camera dashcam a gafodd eu dangos i'r llys nifer o weithiau yn ei ddangos yn goddiweddyd car. Gofynnwyd iddo hefyd beth oedd ei farn am y symudiad.

"Dydy o ddim yn edrych yn dda… ar y pryd roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddiogel i'w wneud… wrth edrych yn ôl rŵan, gallwn i fod wedi gadael mwy o le… rhwng y cerbyd o flaen… doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn unrhyw beth peryglus i'w wneud ar y pryd."

Ychydig cyn y gwrthdrawiad, dywedodd fod ei gerbyd wedi "colli gafael" ar y ffordd.

"Teimlais fel pe bai newid sydyn yng nghyflwr y ffordd gyda'r ffordd y gwnaeth y cerbyd ymateb, nes i deimlo fod y cerbyd wedi colli gafael a dechreuodd symud o ochr i ochr.

"'Dw i'n credu fy mod wedi brecio i geisio cael rheolaeth ar y car. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn gallu," gan ychwanegu ei bod hi'n "rhyfedd sut roedd y car yn symud".

Ar ôl y gwrthdrawiad, dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn cofio "deffro," a chanfod ei hun yn wynebu'r cyfeiriad arall ar y ffordd.

Dywedodd ei fod "mewn cyflwr o sioc".

"Roeddwn i'n ymwybodol fy mod i wedi bod mewn damwain ond doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn digwydd ar y pryd."

Dywedodd Mr Ben Yusaf iddo wedyn adael ei gar a gweld cerbyd roedd e'n ei "adnabod", sef cerbyd ei frawd, ac aeth i sedd teithiwr y car.

Eglurodd nad oedd yn cofio popeth: "'Dw i'n teimlo 'mod i, ar y pryd, yn mynd mewn ac allan o ymwybyddiaeth," meddai, gan ychwanegu ei fod wedi colli ei olwg a'i glyw dros dro. Dywedodd mai ei atgof nesaf oedd bod yng nghefn ambiwlans.

Yn ddiweddarach, gofynnwyd iddo pam y atebodd "dim sylw" mewn cyfweliad gyda'r heddlu ar ôl cael ei arestio.

Dywedodd ei fod wedi gwneud hynny oherwydd y cyngor cyfreithiol oedd wedi ei dderbyn gan gyfreithiwr.

Ychwanegodd fod y digwyddiadau'r noson honno wedi "effeithio'n fawr" arno ac nad oedd "diwrnod yn mynd heibio" heb iddo feddwl amdano.

"Byddwn i'n dymuno y gallwn ei newid...mae fy nghalon yn mynd allan at y teulu," meddai.

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr ei frawd, Sean Minihan, fe wadodd ei fod wedi "rasio" ei frawd y noson honno, a dywedodd nad oedd Audi Umar Ben Yusaf wedi ei oddiweddyd.

'Yr unig amser i mi weld fy mrawd oedd ar ôl y ddamwain'

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd, David Mainstone, gofynnwyd i Mr Ben Yusaf am dystiolaeth ANPR a ddangosodd y bwlch rhwng ceir y ddau frawd yn cau wrth iddynt agosáu at y Drenewydd, lle roedden nhw y tu ôl i'w gilydd bryd hynny.

Dywedodd Mr Ben Yusaf ei fod yn cytuno mai dyna oedd yr achos "o'r hyn mae'r dystiolaeth yn ei ddangos" ond gwadodd weld car ei frawd y tu ôl iddo.

Yna, aeth Mr Mainstone ymlaen i sôn am gyfres o lygad dystion a ddywedodd eu bod wedi'i weld yn gyrru'n gyflymach na'r terfyn cyflymder ac yn goddiweddyd yn beryglus.

Yn gyntaf, rhannodd dystiolaeth Roy Jennings a ddywedodd iddo gael ei oddiweddyd gan y brodyr yn dod oddi ar gylchfan yn y Drenewydd a'i fod yn teimlo fel eu bod "yn rasio".

"Dydw i ddim yn cytuno," meddai Mr Ben Yusaf. "Alla i ddim gwneud sylwadau ar yr hyn y mae'n credu iddo ei weld. Gwnaeth cerbydau eraill oddiweddyd, gallai fod wedi bod yn rhywun arall".

"Fe wnes i oddiweddyd pan oedd yn ddiogel. Yr unig amser i mi weld fy mrawd oedd ar ôl y ddamwain," ychwanegodd.

'Newid sydyn yng nghyflwr y ffordd'

Gwadodd hefyd ei fod wedi defnyddio "cyflymder gormodol" ar wahân i fynd "un neu ddwy filltir dros y terfyn cyflymder" (60mya) wrth oddiweddyd.

Cafodd delweddau dashcam gan dyst o'r enw Emma Crabtree eu rhannu oedd yn dangos ei bod yn cael ei phasio gan dyst arall, Tyler Lewis, ac yna'n gyflym iawn wedyn gan Abubakr Ben Yusaf. Ar y pryd, roedd Ms Crabtree yn teithio ar gyflymder o 55mya.

"Roeddwn i'n teimlo ei fod yn ddiogel ar y pryd," meddai Mr Ben Yusaf, gan ychwanegu nad oedd yn gwybod pa gyflymder yr oedd yn ei wneud, ond roedd yn teimlo mai dim ond tua 5mya yn gyflymach na Ms Crabtree oedd o.

Awgrymodd Mr Mainstone ei fod yn "llawer mwy".

"Rwy'n anghytuno," meddai Mr Ben Yusaf.

Yna gofynnwyd iddo a'r ffaith ei fod yn teithio ar "gyflymder gormodol," oedd y rheswm iddo golli rheolaeth ychydig cyn y gwrthdrawiad ond dywedodd na ac mai "newid sydyn yng nghyflwr y ffordd" oedd y rheswm am hynny.

"Collais afael," meddai. "Doeddwn i ddim wedi'i brofi o'r blaen yn ystod y daith. I mi, roedd yn ymddangos bod newid sydyn yng nghyflwr y ffordd."

Derbyniodd fod camgymeriad bach ar gyflymder uchel yn ei gwneud hi'n fwy tebygol i gerbyd golli rheolaeth, ond dywedodd nad oedd yn "ffactor" yn yr achos hwn.

'Roeddwn i mewn cyflwr o sioc'

Dywedodd Mr Mainstone wrth Mr Ben Yusaf ei fod wedi bod yn teithio mwy na 63mya ar adeg y gwrthdrawiad â char Toyota Mr. Jenkins a bod y BMW wedi llithro am 40 metr cyn y gwrthdrawiad, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd Mr Ben Yusaf, o'i dystiolaeth ei hun, wedi brecio.

Dadlodd Mr Mainstone ei fod yn mynd yn "sylweddol gyflymach" cyn hynny.

"Rwy'n anghytuno," meddai Mr Ben Yusaf, "rwy'n credu fy mod i'n mynd tua'r terfyn cyflymder."

Yn dilyn y gwrthdrawiad, gofynnodd Mr Mainstone pam ei fod wedi cerdded tuag at gar ei frawd ac nid at y car yr oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad ag o.

"Roeddwn i wedi drysu," meddai. Gan ddod o hyd i'r car yn wag, cytunodd ei fod wedi ceisio ffonio Umar Ben Yusaf ar ei ffôn symudol, rhywbeth nad oedd wedi'i grybwyll yn ei dystiolaeth gynharach.

"Roeddwn i mewn cyflwr o sioc," meddai, gan ddweud ei fod yn anymwybodol o bryd i'w gilydd.

Ychwanegodd nad oedd yn cofio ei hun na'i frawd yn dweud eu bod am adael, sef tystiolaeth gyrrwr arall a oedd wedi cerdded heibio'r car ar y ffordd i leoliad y gwrthdrawiad.

Dywedodd Mr Ben Yusaf nad oedd wedi meddwl am deithwyr y car arall ar y foment honno, ond ei fod wedi bod eisiau "mynd i'r ysbyty."

Yna gofynnwyd iddo pam y gwnaethon nhw yrru i Tesco yn Audi ei frawd. Dywedodd ei fod wedi aros yn y cerbyd tra'r oedd ei frawd yn defnyddio'r toiled.

Gofynnwyd iddo am y ffaith ei fod wedi defnyddio ei ffôn eto ar y pryd, gan lawrlwytho ap yswiriant o'r enw Cuvva.

"Dydw i ddim yn cofio," meddai.

Awgrymwyd iddo ei fod wedi lawrlwytho'r ap gan ei fod yn gwybod nad oedd wedi'i yswirio ac eisiau ôl-ddyddio'r yswiriant ar gyfer y diwrnod hwnnw.

"Na," meddai, gan ychwanegu na allai gynnig esboniad arall.

Bydd Umar Ben Yusaf yn rhoi ei dystiolaeth ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig