Pryderon am golli gwlâu ysbytai cymunedol wrth i 8,000 alw am dro pedol

Llun o arwydd ysbyty gyda logo bwrdd iechyd addysgu Powys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymgynghori ar dri maes: ysbytai cymunedol, unedau mân anafiadau a gwasanaethau iechyd meddwl

GanEllis Roberts
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Fwrdd Iechyd Powys ddechrau ymgynghori ar newid gwasanaethau i'r dyfodol, mae miloedd o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb yn galw arnyn nhw i ailfeddwl.

Fe allai nifer y gwlâu dros nos yn yr ysbytai cymunedol ostwng i 60 yn ôl un o'r dewisiadau ond mae yna bryder beth fydd effaith hynny.

Eisoes mae dros 8,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw ar y bwrdd i beidio â thorri nifer y gwlâu.

powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carole Jones yn aelod o Bwyllgor Cyfeillion Ysbyty Ystradgynlais ers dros 40 mlynedd

Un o'r ardaloedd lle mae na bryder ydy Ystradgynlais, sydd ar ffin ddeheuol Powys.

Mae na 20 o wlâu i gleifion mewnol yn ward Adelina Patti ond fe allai pob un ddiflannu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried cyfyngu'r gwlâu i ddau neu dri o safleoedd cymunedol a dydy Ystradgynlais ddim yn un o'r rheini.

Mae Carole Jones yn aelod o Bwyllgor Cyfeillion Ysbyty Ystradgynlais ers dros 40 mlynedd.

"Fi'n gwbod bod 'na broblem ynglŷn a chau'r gwelyau, ond beth sy'n fy mhryderu i ydy bod yr ysbyty'n mynd i gau.

"Ac mae gofid mawr ar y staff oherwydd yn y cyfarfod diwetha' gawson ni o'r Pwyllgor Ffrindiau roedd rhai o'r staff yn pryderu'n fawr iawn am eu swyddi ac yn y blaen."

Chelsea
Disgrifiad o’r llun,

Un arall sy'n poeni am ddyfodol ysbyty Ystradgynlais yw Chelsea Williams

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dweud nad oes na fwriad i gau ysbytai cymunedol, ond nid Carole ydy'r unig un sy'n poeni y gallai hynny ddigwydd.

Mae Chelsea Williams yn gweithio yn Neuadd Les y Glowyr - canolbwynt cymdeithasol i bobl Ystradgynlais.

"Mae mor drist oherwydd mi fydd isie teithio nawr i Singleton neu Morriston neu Bronllys... mae gen i ferch fach a bachgen bach a ni'n defnyddio'r gwasanaeth yn ysbyty Ystradgynlais, felly mae mor drist."

Yn ôl y Bwrdd Iechyd fe allai torri nifer y gwlâu mewn ambell le olygu bod gwell cefnogaeth ar gael i bobl wella yn eu cartrefi eu hunain.

Maen nhw'n pwysleisio nad ydy'r ardal yma'n debyg i unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru.

Er bod Powys yn chwarter tiriogaeth Cymru, dim ond 135,000 o bobl sydd yn byw yno.

Does dim ysbyty cyffredinol ac mae llawer o gleifion yn gorfod teithio cryn bellter am ofal iechyd fel y mae.

Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto ynglŷn â newid gwasanaethau i'r dyfodol.

Yn ôl y Cadeirydd Dr Carl Cooper, mi fydden nhw am i'r cyhoedd herio'u syniadau ac felly maen nhw'n annog pobol i gymryd rhan.

Yng ngeiriau datganiad y bwrdd: "Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg o 5 Hydref 2026 i 10 Ionawr 2027 ac yn ceisio barn ar gynigion ar gyfer iechyd corfforol oedolion, iechyd meddwl oedolion, gofal brys a rhai gwasanaethau diagnosteg.

"Mae'r cynigion yn ymateb i heriau sylweddol sy'n wynebu gwasanaethau iechyd, gan gynnwys galw cynyddol, poblogaeth sy'n heneiddio ac anawsterau wrth recriwtio a chadw'r gweithlu sydd ei angen i gynnal gwasanaethau ar draws sir wledig fawr."

Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod "pob opsiwn yn cadw gwasanaethau ym mhob safle ysbyty cymunedol ym Mhowys ac yn cynnwys cynigion i gryfhau gofal yng nghartrefi a chymunedau pobl," gan wrthod yr awgrymu y gallai ysbytai gau yn llwyr.

Ond mae dros 8,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb sy'n galw ar y Senedd, a'r Gweinidog Iechyd Mabon ap Gwynfor, i gynnal dadl ac ymchwiliad ar ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac i sicrhau nad oes unrhyw dorri ar nifer y gwlâu.

jane dodds
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwelyau mewn ysbytai cymunedol yn hynod bwysig, medd Jane Dodds AS

Un sy'n gefnogol i'r alwad honno ydy Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, ac yn aelod o'r Senedd dros Frycheiniog Tawe Nedd.

"Dan nid di clywed o gymunedau ar draws Powys ac yn Ystradgynlais yn deud bod nhw'n hollol yn erbyn bwriad y Bwrdd Iechyd.

"Maen nhw isio i welyau cymunedol aros yn eu hysbytai nhw, maen nhw mor bwysig i deuluoedd a phobol sy'n sâl neu sy'n gorfod mynd i'r ysbyty felly mae hi mor bwysig bod y Bwrdd Iechyd yn clywed hynny."

Fe fydd y Bwrdd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol dros y misoedd nesaf i roi cyfle i bobl leisio barn.

Bydd y cyfarfod yn Ystradgynlais yn cael ei gynnal y Neuadd Les ar 25 Tachwedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.