Tri o blant wedi'u hanafu ar ôl i fws ysgol daro pont

- Cyhoeddwyd
Mae tri o blant wedi'u hanafu ar ôl i fws ysgol daro pont reilffordd yng Nghasnewydd fore Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Tregare am tua 07:45 wedi adroddiadau am wrthdrawiad yn cynnwys bws ysgol a phont reilffordd.
Aeth swyddogion Heddlu Gwent, ynghyd â chriwiau'r gwasanaethau tân ac ambiwlans, i'r safle.
Dywedodd yr heddlu fod tri o blant wedi'u hanafu ac wedi'u cludo i'r ysbyty am driniaeth. Nid yw'n ymddangos bod eu hanafiadau'n rhai sy'n peryglu eu bywydau.
Mae'r ffordd bellach wedi ailagor yn dilyn ymchwiliadau'r heddlu.

Mae Cyngor Casnewydd wedi cadarnhau mai bws i'r ysgol Gymraeg leol, Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad
Dywedodd mam un o'r disgyblion oedd ar y bws bod ei mab, Gruff, sy'n 13 oed ac ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, yn cael triniaeth yn yr ysbyty am grafiadau a mân anafiadau.
Yn ôl Jo Townsend, roedd ei mab yn eistedd ar y dec uchaf yng nghefn y bws pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
"Dywedodd wrtha i fod y bws wedi mynd ffordd wahanol. Y peth nesaf roedd popeth yn dywyll, y goleuadau'n fflachio ac roedd sŵn pobl yn sgrechian a metel yn crafu yn erbyn metel," meddai.


Roedd y bws ysgol wedi gwrthdaro â phont reilffordd
Ychwanegodd fod ei mab wedi cael ergyd i'w ben, ond yn ffodus nad oedd wedi ei anafu'n waeth.
"Mae ganddo farc ar ei ben a rhai crafiadau, ond yn ffodus mae'n iawn. Mae'n dal mewn sioc ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd."

Dywedodd fod derbyn galwad ffôn gan ei mab ar ôl y gwrthdrawiad wedi bod yn brofiad brawychus.
"Rydych chi'n anfon eich plentyn i'r ysgol gan ddisgwyl y bydd popeth yn iawn ac y byddwch yn ei weld eto ddiwedd y dydd. Dydych chi ddim yn disgwyl i rywbeth fel hyn ddigwydd."
Ychwanegodd bod meithrinfa gyfagos wedi agor ei drysau er mwyn i'r gwasanaethau brys drin y disgyblion oedd ar y bws.
'Lles yw'r flaenoriaeth'
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys yn dilyn y gwrthdrawiad.
"Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau lles pawb sydd wedi bod ynghlwm â'r gwrthdrawiad," meddai llefarydd.
Ychwanegodd y cyngor y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu cyn gynted ag y bo modd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.