Adfer hen enw tafarn Y Mochyn Du, sy'n 'agos at galon' perchennog

Y Mochyn DuFfynhonnell y llun, Y Mochyn Du
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Mochyn Du yng Nghaerdydd wedi ailagor dan ei hen enw ar ôl cael ei ailwampio

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae tafarn enwog yng Nghaerdydd wedi adfer ei hen enw Cymraeg ar ôl cael ei ailwampio.

Cafodd Y Mochyn Du, sydd wedi'i leoli ger maes criced Gerddi Soffia ym Mhontcanna, ei ailenwi'n Brewhouse & Kitchen wedi i'r cwmni brynu'r dafarn yn 2017.

Roedd arwyddion Cymraeg, Bragdy a Chegin, ar y safle hefyd.

Mae'n gwmni o Lundain, ond un o Gaerdydd yw'r perchennog, Kris Grumbell.

Wrth i'r dafarn ailagor ddydd Iau wedi'r gwaith ailwampio, dywedodd y rheolwr Matthew Martin fod adfer hen enw'r dafarn wedi bod "yn agos iawn at galon" Mr Grumbell ers peth amser.

Y Mochyn DuFfynhonnell y llun, Y Mochyn Du
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y rheolwr fod gwaith sylweddol wedi'i wneud ailwampio'r dafarn

"Mae'r perchennog yn dod o Gaerdydd, mae'n caru'r ddinas a'n caru Pontcanna," meddai Mr Martin.

"Mae adfer yr enw wedi bod yn agos i'w galon ers blynyddoedd ac mae wastad wedi eisiau dod â'r Mochyn Du yn ôl i Bontcanna."

Dywedodd fod gwaith sylweddol wedi'i wneud i ailwampio'r dafarn, ar y tu allan a thu mewn, gyda gwaith celf Cymreig yn cael ei arddangos a chynnyrch lleol Cymreig yn cael ei ychwanegu at y fwydlen.

"Mae pawb yn y ddinas yn 'nabod y dafarn fel Y Mochyn Du beth bynnag," ychwanegodd Mr Martin.

"Mae'r ymateb wedi bod yn wych a ry'n ni wrth ein boddau a'n edrych ymlaen at groesawu pobl i'r Mochyn Du."

Cafodd Brewhouse & Kitchen eu sefydlu yn 2011, a'r Mochyn Du yw'r lleoliad cyntaf i gael ei redeg gan y cwmni yng Nghymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol