Dyn busnes o Sir Gâr wedi marw mewn damwain awyren yn y Swistir

Owain DaviesFfynhonnell y llun, Amcanu
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn busnes amlwg o Sir Gâr yn un o dri o bobl sydd wedi marw mewn damwain awyren yn Alpau'r Swistir.

Bu farw Owain Davies, 55, wedi i'r awyren fach daro llethr mynydd uchel ger tref Leukerbad yn ardal Valais yn ne'r Swistir ddydd Mawrth.

Mae'r awdurdodau wedi cadarnhau bod yr awyren Cirrus SR22T wedi codi o faes awyr Sion yn nyffryn Rhône cyn taro'r mynydd tua 10 munud yn ddiweddarach.

Roedd Mr Davies yn rheolwr-gyfarwyddwr ar gwmni cynhyrchu Amcanu, ac fe gadarnhaodd y cwmni ei fod wedi marw ddydd Mawrth.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud eu bod yn cefnogi teuluoedd dau o ddinasyddion Prydeinig a fu farw yn y gwrthdrawiad.

Owain Davies yn 2020
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Owain Davies i Ysgol Y Strade, ac roedd yn rhedeg cwmni cynhyrchu Amcanu

Dywedodd cwmni Amcanu fod Mr Davies yn beilot "brofiadol", ond ei fod yn deithiwr yn yr awyren yn y ddamwain.

Dywedon nhw bod dau ffrind iddo hefyd wedi marw.

Yn ogystal â chwmni Amcanu, roedd hefyd wedi bod ar fwrdd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac yn aelod o gyngor corff busnes CBI Cymru.

Yn siarad ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru yn 2016, eglurodd Owain Davies fod ei dad wedi dechrau busnes Amcanu "40 o flynydde'n ôl a ni nawr yn arbenigo mewn cynhyrchu nwydde sy'n cadw sŵn oddi ar beiriannau".

"Pethe fel pwmps dŵr, generators, lighting towers, compressors. Ni'n dodi'r peiriant 'na tu fewn y bocs a ni'n sicrhau bod y sŵn ddim yn cario mas."

'Cymeriad arbennig'

Dywedodd mab Owain Davies, Aron, bod ei dad "yn gymeriad arbennig" oedd yn "benderfynol", ac "nid oedd yn fodlon derbyn bod unrhyw broblem yn rhy fawr i'w datrys".

"Dwi'n hynod falch o bopeth a gyflawnodd, ond dwi'n fwy balch o'i gael yn dad i mi. Roedd yn fentor drwy gydol fy mywyd, yn bersonol ac ym myd busnes, a dwi'n gwybod y bydd llawer o bobl yn Amcanu yn teimlo eu bod nhw hefyd wedi colli mentor.

"Mae ein teulu wedi dioddef colled annirnadwy, ac rydym yn hynod ddiolchgar am y caredigrwydd a'r gefnogaeth sydd eisoes wedi cael eu dangos i ni."

Mae Owain yn gadael ei wraig Michelle, ei blant Aron a Ffion, ei dad Spencer, a'i wyrion Oakley ac Albie.

'Cyfraniad sylweddol' i Ambiwlans Awyr Cymru

Dywedodd cadeirydd ymddiriedolwyr elusen Ambiwlans Awyr Cymru, Dr Kyle Jacques, eu bod wedi'u "syfrdanu a'n tristáu'n fawr" gan y newyddion am farwolaeth Mr Davies.

"Gwasanaethodd Owain ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr am ychydig dros wyth mlynedd, nes iddo ymddiswyddo y llynedd. Trwy gydol y cyfnod hwnnw, gwnaeth gyfraniad sylweddol i Ambiwlans Awyr Cymru ac i'r gwasanaeth hanfodol rydym yn ei ddarparu," meddai.

"Byddwn bob amser yn hynod ddiolchgar am bopeth a wnaeth dros yr elusen a dros Gymru.

"Roedd Owain yn gydweithiwr ac yn ffrind gwerthfawr, ac roedd ei deyrngarwch a'i haelioni yn golygu cymaint i ni. Bydd colled fawr ar ei ôl.

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Owain."

Awyren a mwg ar y mynyddFfynhonnell y llun, Heddlu Valais
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd tystion eu bod wedi gweld tân a llawer o fwg ar ôl i'r awyren daro'r llethr

Cafodd timau brys o Sefydliad Achub Valais, yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu hanfon i'r safle, ynghyd â thri hofrennydd.

Cadarnhaodd y timau brys yn ddiweddarach fod tri o bobl wedi marw.

Mae Bwrdd Diogelwch Trafnidiaeth y Swistir wedi cychwyn ymchwiliad i achos y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Valais a Swyddfa Erlynydd Cyffredinol y Swistir hefyd wedi cychwyn ymchwiliad ar wahân.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydyn ni'n cefnogi teuluoedd dau o ddinasyddion Prydeinig a fu farw yn y Swistir ac rydym mewn cysylltiad â'r awdurdodau lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig