'Trist' bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Mae Cynthia Davies a Karen Locke yn gweithio mewn siop yn y dre ac wedi gweld y gostyngiad
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn Ystradgynlais yn ne Powys wedi gostwng yn sylweddol - yn ôl gwaith ymchwil gan Gyngor Powys dyma un o'r gostyngiadau mwyaf yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Yn 1991 roedd cyfran y siaradwyr Cymraeg yn y dre yn 61% ond erbyn y cyfrifiad diwethaf yn 2021 roedd y nifer yn 34%.
Mae Cynthia Davies, sy'n rhedeg siop Gymraeg yn Ystradgynlais, yn dweud fod iaith y dre "wedi newid tipyn".
"Pan o'n i'n blentyn nag o'n n'n siarad Saesneg tan o'n i'n yr ysgol a pryd 'ni o'dd pawb yn siarad Cymraeg."
"Ma' fe'n drist yn dyw e?" meddai Cynthia gan ychwanegu nad yw hi'n clywed y plant yn siarad Cymraeg bellach.
Yn ôl Karen Locke, sydd hefyd yn gweithio yn y siop: "Hyd yn oed y plant sy'n mynd i ysgol Gymraeg, amser maen nhw mas o'r ysgol neu yn dod fan hyn, maen nhw'n siarad Saesneg - Saesneg yw nhw gyd".

Mae angen sicrhau bod yr iaith yn berthnasol i bobl ifanc, medd Leanne Walker
Yn ôl Leanne Walker, Prif Swyddog Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot mae 'na amryw o resymau dros ddirywiad yr iaith yn yr ardal fel "lot o fewnfudo a thai newydd yn cael eu hadeiladu".
Ond er mwyn ceisio cynyddu niferoedd y siaradwyr mae'n dweud mai sicrhau bod yr iaith yn berthnasol i bobl ifanc yw un ateb.
"Ma' pobl ifanc yn gweld y Gymraeg fel iaith ysgol, felly ein gwaith ni fel Menter yw creu gymaint o gyfleoedd â phosib i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned a bod nhw'n gweld e fel iaith bywyd o ddydd i ddydd," meddai.

Mae Wil ac Anest yn ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera
Yn Ysgol Uwchradd Gymraeg Ystalyfera, sydd rhyw ddwy filltir o Ystradgynlais, mae rhai disgyblion yn dweud bod 'na lawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg tu allan i'r ysgol.
"Lot o gyfleon ond mae neb yn [gwneud hynny]," meddai Wil sy'n 14 oed.
"Fi'n credu mae pawb yn gweld e'n haws i siarad Saesneg."
Dywed Anest, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Ystalyfera ei bod hi'n siarad Cymraeg bob dydd.
"Fi'n siarad Cymraeg gatre ond gyda ffrindiau fi ni wastad yn siarad Saesneg gyda'n gilydd. Fi'n meddwl ma' just yn haws. Dyna sut ni'n cyfathrebu 'da'n gilydd," meddai.

Yn 1991 roedd cyfran y siaradwyr Cymraeg yn Ystradgynlais yn 61% ond erbyn y cyfrifiad diwethaf yn 2021 roedd y nifer yn 34%
Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson.
Yn ôl John Harvey Williams, un o'r trefnwyr: "Un broblem sydd gyda ni yn Ystradgynlais yw ma' llawer o fewnfudo 'di bod ma. Ma' lot fawr o Saeson wedi symud mewn i'r pentre.
"Dwi wedi dechre dosbarth Cymraeg yma i oedolion a dwi'n gobeithio byddan nhw'n gallu helpu eu hwyrion i siarad Cymraeg."
Er mwyn "deall yn well y ffactorau sy'n effeithio ar ddefnydd a throsglwyddo'r iaith Gymraeg mewn cymunedau" fe ddywedodd Cyngor Sir Powys eu bod wedi cytuno i "gomisiynu astudiaeth mapio ieithyddol ledled y sir gyda ffocws manwl ar ardaloedd blaenoriaeth gan gynnwys Ystradgynlais".
"Bydd yr astudiaeth yn archwilio heriau a chyfleoedd lleol i dyfu'r iaith.
"Bydd hefyd yn llywio nodi camau gweithredu blaenoriaeth ar gyfer gweithgaredd hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y gymuned yn y dyfodol," meddai llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin

- Cyhoeddwyd15 Mehefin
