'Stŵr a gwrthwynebiad pan fo plant o dros y ffin eisiau addysg Gymraeg' - AS

Elwyn Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "mynediad didrafferth, di-lol a chludiant rhwydd a hwylus at addysg Gymraeg fel norm", meddai Elwyn Vaughan

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae angen hwyluso mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys, gan gynnwys i blant sy'n byw dros y ffin yn Lloegr, yn ôl un o aelodau newydd Senedd Cymru.

Dywedodd Elwyn Vaughan, AS Gwynedd Maldwyn dros Blaid Cymru, "bob tro" mae cais neu ddymuniad i gael mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys gan deuluoedd dros y ffin, "mae yna ffỳs, stŵr, gwrthwynebiad".

"Mae teuluoedd yn gorfod apelio, cwyno, herio penderfyniadau swyddogion a chael cymorth mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg a gwthio yn erbyn sefydliadau sydd ddim yn deall," meddai.

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: "Mae yna deuluoedd o Gymru sydd yn byw ar y ffin sy'n dymuno addysg Gymraeg i'w plant, ac fe ddylai hynny fod yn bosibl."

Ychwanegodd y gweinidog bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys "yn gytûn bod angen dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i ddysgwyr ar y ffin sydd am gael mynediad i ysgolion Cymraeg, ac mae hyn yn cynnwys dysgwyr dros y ffin hefyd, os ydyn nhw'n dymuno dysgu'r Gymraeg yng Nghymru a bod lle iddynt, wrth gwrs, yn yr ysgolion lleol".

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan y llywodraeth Lafur flaenorol, yn cynnal cyfarfod yng Nghroesoswallt ar 24 Mehefin wrth baratoi adroddiad ar y Gymraeg y tu allan i Gymru.

Maldwyn Meirionnydd fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2027.

Ysgol Gymraeg Y Trallwng
Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 150 o blant yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Elwyn Vaughan: "Gadewch inni ddatgan yn glir fod dwyieithrwydd yn rhywbeth i'w groesawu a'n bod yn croesawu'r siaradwyr newydd ac yn croesawu'r rhai hynny sy'n digwydd byw dros y ffin ond am ailafael yn neu gael mynediad at eu treftadaeth.

"Mae llwyddiant diweddar Ysgol Gymraeg y Trallwng yn esiampl wych, efo niferoedd ar gynnydd a cheisiadau yn dod o Lanymynech a Phant, sydd dros y ffin. Efo lle i 150 o ddisgyblion, mi fydd yn llawn mis Medi yma.

"Gwn am eraill sy'n byw yng Nghroesoswallt sy'n teithio'n ddyddiol i ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond dim ond ar ôl gorfod ymgyrchu.

"O sicrhau mynediad hwylus, didrafferth, yn ddi-os cynyddu fydd y diddordeb."

Galwodd am "sicrhau bod modd i bobl ifanc gael mynediad didrafferth, di-lol a chludiant rhwydd a hwylus at addysg Gymraeg fel norm, os ydynt yn byw dros y ffin; sicrhau estyniad i Ysgol Gymraeg y Trallwng fel yr agosaf at y ffin i adlewyrchu'r twf a'r brwdfrydedd lleol; a sicrhau cynllun gweithredu clir pum mlynedd i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn nalgylch Ysgol Uwchradd Llanfyllin".

Anna BrychanFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog Anna Brychan ei fod yn "bwysig dathlu'r llwyddiannau" ym Mhowys.

Mae Powys, fel pob sir arall yng Nghymru, yn gweithredu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

Dywedodd Anna Brychan wrth ASau: "Cafodd y disgwyliadau cenedlaethol eu cryfhau yn dilyn adolygiad brys o'r cynlluniau yma nôl yn 2017, cam sydd wedi gyrru ymddygiad a phenderfyniadau polisi gwell, ac mae arwyddion o hynny yn sicr i'w gweld ym Mhowys.

"Mae'r sir wedi gweld cynnydd o ychydig dros 2% hyd yn hyn mewn addysg Gymraeg ers dechrau gweithredu eu cynllun strategol nhw, sy'n adlewyrchu'r hyn sydd i'w weld ar draws Cymru."

Mae adolygiad o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn rhan o gynllun 100 diwrnod llywodraeth Plaid Cymru a etholwyd ym mis Mai.

Dywedodd y gweinidog ei fod yn "bwysig dathlu'r llwyddiannau" ym Mhowys.

Meddai: "Cafodd Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr, fuddsoddiad i estyn yr ysgol a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a chafodd Ysgol Gymraeg y Trallwng fuddsoddiad i adeiladu ysgol newydd ar leoliad mwy, i alluogi'r ysgol honno i dyfu.

"Ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach i ateb galw brwd am addysg Gymraeg yn yr ardal yna."

Cyfeiriodd at ddatblygiadau eraill ym Mhowys hefyd, "megis yr ysgol newydd ym Mhontsenni, Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, a Bro Hyddgen ym Machynlleth, ac mae gan y sir hefyd ddwy ganolfan drochi hwyr erbyn hyn sy'n cynnig llwybr ychwanegol i ddysgwyr gael mynediad at addysg Gymraeg".

Dim ond y ddau AS o Blaid Cymru gyfrannodd at y Ddadl Fer hon ar ddiwedd y cyfarfod llawn yn siambr y Senedd ddydd Mercher.

Ar ran Cyngor Sir Powys dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt sy'n aelod o'r cabinet: "Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) Cyngor Sir Powys yn amlinellu ein hymrwymiad i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir, ac mae'n cynnwys nifer o strategaethau a fydd yn galluogi hyn i ddigwydd.

"Un o'r rhain yw cynyddu mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg - amcan strategol allweddol yn ein Strategaeth Trawsnewid Addysg sy'n mynd law yn llaw â'r WESP.

"Fel sir sy'n ffinio â nifer sylweddol o awdurdodau lleol eraill, yng Nghymru ac yn Lloegr, mae'n bwysig bod rhain yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel heb rwystrau na heriau.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau cyfagos i gyflawni'r nod hwn."

Mae Cyngor Sir Amwythig wedi cael cais i ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.