Darlun pobl o Mayhill yn Abertawe 'mor annheg' ers y terfysg

Reit yng nghanol y 'stâd mae canolfan fenter gymunedol y Ffenics
- Cyhoeddwyd
Bum mlynedd yn ôl, roedd ardal Mayhill yn Abertawe yn y penawdau newyddion ym mhob man, ar ôl i wylnos heddychlon ar Heol Waun-wen droi'n derfysg.
Ers hynny, mae teuluoedd sy'n byw yn y gymuned yn dweud fod y digwyddiad wedi rhoi camargraff o'r ardal i bobl.
Felly, fe es i draw i siarad â thrigolion lleol i weld sut le yw ardaloedd Mayhill a Townhill gerllaw a sut gymuned sy'n byw ar y stad sydd wedi'i hadeiladu ar fryn uchel uwchben canol dinas Abertawe.
Rwy' wedi trefnu i gwrdd ag Emily Hayman. Mae hi'n gweithio yn y dderbynfa yng nghanolfan gymunedol y Ffenics ar y stad. Mae'n 37 ac yn fam i chwech o blant.
"Ma' fe'n lyfli - ma' fe'n dawel a dim problemau," meddai.

Soniodd Emily Hayman fod y 'stad wedi cael "bad press yn y gorffennol, ond s'mo ni 'di cael dim problemau yma"
Mae Emily yn brysur wrth ei gwaith yn y Ffenics yn helpu i gynghori pobl a threfnu gweithgareddau lleol.
Cafodd y ganolfan ei hagor union chwarter canrif yn ôl, gyda'r bwriad o helpu i daclo tlodi ac adfywio'r gymuned leol.
Mae'n cael ei rhedeg gan grŵp o ymddiriedolwyr sy'n gwirfoddoli ac yn cynnwys llyfrgell, meithrinfa, caffi, ystafelloedd hyfforddi a chaeau chwarae.
'Dim problemau yma'
Mae Emily yn sôn wrtha' i bod y 'stad wedi cael "bad press yn y gorffennol, ond s'mo ni 'di cael dim problemau yma".
Mae'n cyfeirio at ddigwyddiad brawychus bum mlynedd yn ôl pan gafodd y gymuned yma, sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel 'Y Bryn' ac yn cynnwys ardal Mayhill a Townhill, ei hysgwyd ar ôl i wylnos heddychlon i fachgen lleol gael ei "herwgipio" a'i throi'n derfysg.
Cafodd ceir eu llosgi yn ulw, cafodd eiddo ei chwalu a bu teuluoedd lleol yn cuddio mewn ofn yn eu tai.
Cafodd 18 o bobol eu carcharu o ganlyniad i'r anhrefn llwyr yn Heol Waun-wen ym mis Mai 2021 a dros nos roedd sylw'r wlad ar yr ardal ar ôl y digwyddiad brawychus.

Cafodd Y Ffenics ei hagor yn 2001
Mae digwyddiadau'r noson honno'n dal yn fyw yn y cof i bobl sy'n byw yn ardal Townhill a Mayhill.
Ond mae nifer fawr o'r rheiny y bues yn siarad â nhw yn dweud nad yw'r stigma a ddaeth yn sgil y terfysg yn ddarlun teg o'r gymuned y maen nhw'n ei 'nabod.
Ar ddiwrnod crasboeth rwy'n crwydro rhai o strydoedd a siopau y stad ac yn stopio i siarad â phobl leol i holi sut le yw Townhill.
Yn ddieithriad, yr ateb yw "lyfli", "bydde ni ddim eisiau byw yn unrhyw le arall", neu "ma' pawb yn dishgwl mas am ei gilydd fan hyn".

"Fi'n hapus yn yr ardal yma," medd Lily
Mae'r stad yn dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd a'r tai wedi'u hadeiladu ar gyfer teuluoedd dosbarth gweithiol.
Mae dros hanner y bobl sy'n byw yno'n rhentu oddi wrth yr awdurdod lleol.
Yr hyn sy'n eich taro chi'n syth yw pa mor wyrdd yw'r stad, gyda lawntiau o flaen y tai a choed a pherthi yn drwch o stryd i stryd.
Dyma hefyd lle mae rhai o olygfeydd ysblennydd y ddinas yn ymestyn ar draws Bae Abertawe ac ar ddiwrnod clir gallwch chi weld draw i Ddyfnaint hyd yn oed.
'Maen nhw mo'yn help'
Reit yng nghanol y stad mae canolfan fenter gymunedol Y Ffenics a gafodd ei hagor yn 2001 a'r gyntaf o'i math yng Nghymru - yn cael ei rhedeg gan bobl y stad ar gyfer pobl y stad.
Fe ofynnais i Emily Hayman pam bod pobl yn dod yno, dywedodd: "Maen nhw mo'yn help.
"Weithie s'mo nhw'n siŵr lle maen nhw fod i fynd. 'Falle bod y cyngor yn dweud: 'Cer fan hyn' a s'mo nhw'n siŵr lle.
"Felly ni'n helpu gyda dweud wrthyn nhw lle i fynd, beth i 'neud, neu be' sy' ar gael ar eu cyfer."

Ar nos Fawrth rwy'n mynd draw i'r parc sglefrfyrddio newydd ger Y Ffenics.
Mae'n noson y clwb ieuenctid ac yn brysur - mae nifer o blant lleol wedi ymgasglu ac yn eu plith mae Lily sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw.
Dywedodd hi ei bod newydd fod yn y llyfrgell yn Y Ffenics: "Fi'n hoffi mynd fanna a dod i'r youth club. Mae lot o hwyl i gael fan hyn.
"Fi'n really hapus yn yr ardal yma ac yn yr ysgol. Dwi ddim yn gallu dweud wrthych chi yn gwmws pam fi'n hoffi'r ardal achos mae gymaint o bethau am y lle dwi'n hoffi," meddai.

Dywed Ffion Spooner fod "bobl weithie yn ymuno â'n sesiynau ni [y coleg] er mwyn magu hyder neu ddysgu sgiliau"
Wrth ddathlu chwarter canrif ers ei sefydlu, mae Y Ffenics yn casglu hanes y ganolfan ond wrth hel atgofion maen nhw hefyd yn sôn am obeithion.
Mae hyfforddi pobl leol i gael sgiliau er mwyn cael swyddi yn rhan bwysig o feddylfryd Y Ffenics ac maen nhw'n cydweithio â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dywed Ffion Spooner, swyddog ehangu mynediad y coleg, fod "bobl weithie yn ymuno â'n sesiynau ni er mwyn magu hyder neu ddysgu sgiliau".
"Weithiau ma' rhai pobl eisiau sgiliau er mwyn newid gyrfa, neu efallai bod rhai wedi rhoi'r gorau i weithio er mwyn magu plant neu just eisiau cael profiad gwahanol."

"Os ydych chi'n trin pobl fan hyn â'r parch a'r cwrteisi ma' nhw'n haeddu, fe fyddwch chi yn cael hwnna nôl," medd Simon Trick
Mae'r arolygydd Simon Trick yn arwain y tîm plismona cymdogaeth yn Townhill ac yn ymwelydd cyson â chanolfan Y Ffenics.
"Rwy' wedi gweithio yma am flynyddoedd. Rwy' wrth fy modd yn gweithio yma.
"Os ydych chi'n trin pobl fan hyn â'r parch a'r cwrteisi ma' nhw'n haeddu, fe fyddwch chi yn cael hwnna nôl," meddai.
Wrth i fi baratoi i adael Mayhill a Townhill mae'r neges yn glir: "Mae yna ddrwg a da ym mhob cymuned, ond mae mwy o dda na drwg ar y strydoedd yn ardal 'Y Bryn' yn Abertawe."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2021

- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022

- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2022
