Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 'destun balchder i'w gwlad'

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae holl aelodau tîm Cymru wedi bod yn "destun balchder i'w gwlad"
- Cyhoeddwyd
Mae tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad wedi dychwelyd adref ac wedi cael croeso "arbennig" yn y Senedd.
Enillodd Cymru gyfanswm o 31 o fedalau eleni - naw aur, 10 arian a 12 efydd - gan orffen yn y nawfed safle yn y tabl medalau.
Fe enillon nhw fedalau mewn amrywiaeth o gampau - 11 yn y seiclo, chwech yn y nofio, pump yn yr athletau, pedwar yn y bocsio, tair mewn cystadlaethau gymnasteg artistig ac un yn y bowlio a'r codi pwysau.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorweth, fod Tîm Cymru "unwaith eto wedi dangos i'r byd beth mae ein cenedl yn gallu ei wneud".

Gethin Jones oedd Chef de Mission tîm Cymru yn y gemau eleni
Yn ôl Chef de Mission tîm Cymru, Gethin Jones, mae o'n teimlo'n falch iawn o ymdrechion y tîm.
Chef de Mission yw'r teitl sy'n cael ei roi i arweinydd tîm cenedlaethol sy'n gyfrifol am arwain yr athletwyr a staff cefnogol, yn ogystal â bod yn llefarydd mewn digwyddiadau swyddogol.
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bydd e'n cymryd cwpl o ddyddie, falle wythnose i fyfyrio'n llawn ar beth sydd wedi digwydd dros y pythefnos diwethaf.
"Gymaint o bobl wedi aberthu a bod mor benderfynol dros y blynyddoedd i gyrraedd Gemau'r Gymanwlad yn y lle cyntaf, ac wedyn i berfformio ar eu gore pan mae'r pwyse 'mlaen - oedd e'n sbesial iawn i fod yn rhan ohono fe."
'Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf'
Mewn digwyddiad yn y Senedd nos Iau i ddathlu llwyddiant y tîm, dywedodd y prif weinidog: "Gwnaeth pob athletwr a wisgodd grys Cymru yn Glasgow hynny gyda balchder a dawn, a dwi am longyfarch pob un ohonynt.
"Nid trwy rifo medalau yn unig y mae mesur llwyddiant yn y Gemau hyn.
"Mae pob athletwr a dorrodd record bersonol, a wnaeth gystadlu am y tro cyntaf ar y llwyfan ryngwladol, neu a drechodd anawsterau i gynrychioli Cymru, wedi bod yn destun balchder i'w gwlad.
"Mae Tîm Cymru unwaith eto wedi dangos y talent, yr uchelgais a'r penderfyniad sy'n bodoli ar draws chwaraeon Cymru, a dwi'n gwybod y bydd eu gorchest yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf," ychwanegodd Mr ap Iorwerth.
Aur i ras wib merched Cymru ar drac seiclo Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Aled Davies yn cipio ail fedal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Bod yn Chef de Mission yn 'fraint arbennig' i Gethin Jones
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2025
Awstralia orffenodd ar frig y tabl medalau eleni ar ôl iddyn nhw ddominyddu'r gemau yn Glasgow. Enillon nhw gyfanswm o 171 o fedalau - 70 aur, 45 arian a 56 efydd.
Y gemau mwyaf llwyddiannus i Gymru oedd yn 2018, pan enillodd y garfan 36 o fedalau – gan gynnwys 10 aur, 12 arian ac 14 efydd – ond o ystyried y newidiadau i'r gemau eleni mae'n anodd cymharu.
Dyma restr o fedalau Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2026:
Aur
Ruby Evans
Aled Davies
Emma Finucane, Rhian Edmunds a Lowri Thomas
Anna Morris
Emma Finucane
Olivia Breen
Anna Morris
Emma Finucane
Emma Finucane
Arian
Ela Letton-Jones
Olivia Breen
Matt Richards
Matt Richards
Funmi Oduwaiye
James Ball a Matt Rotherham
Orlando Holley-Sotomi
Connor Williams
Jessica Roberts
James Ball a Matt Rotherham
Efydd
Rhys Darbey
Harry Milne, Kieran Bird, Medi Harris, Meghan Higgs, Matt Richards, Dan Jones, Rebecca Sutton a Theodora Taylor
Harry Milne, Lewis Fraser, Jack Knight, Kieran Bird, Matt Richards, Dan Jones a Tyler Melbourne-Smith
Abigail Roper
Emily Roper
Steffan James, Julie Thomas, James Jones a John Wilson
Laura Hughes
Bree Cronin
Ciara Oliva, Anna Morris, Jess Roberts a Megan Barker
Rosie Eccles
Rhian Edmunds
Owain Harris-Allan
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
