Aur i ras wib merched Cymru ar drac seiclo Gemau'r Gymanwlad

Emma Finucane, Rhian Edmunds a Lowri Thomas oedd yn cynrychioli Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi ennill eu trydedd fedal aur hyd yma yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow ar ôl ennill y tîm ras wib i ferched ar y trac seiclo.
Fe wnaeth Emma Finucane, Rhian Edmunds a Lowri Thomas drechu tîm Lloegr yn y ffeinal, gan osod record newydd ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn y broses - 46.760 eiliad.
Cyn hynny fe enillodd y para-seiclwr James Ball arian yn y ras tandem 1,000m yn erbyn y cloc, gyda'i beilot Matt Rotherham.
Dyma oedd y trydydd gemau yn olynol iddo ennill arian yn y gamp.
Fe lwyddodd Cymru hefyd i ennill efydd ar y trac seiclo yn y ras cwrso tîm, gyda Megan Barker, Jessica Roberts, Anna Morris a Ciara Oliva yn trechu Lloegr yn y ras i orffen yn drydydd.
Mae Cymru bellach wedi ennill 18 medal hyd yma - tair aur, chwe arian a naw efydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
