'Staen ar ein cymdeithas': Pam nad yw gwersi Aberfan yn cael eu dysgu?

- Cyhoeddwyd
Chwe deg mlynedd ers trychineb Aberfan, mae dioddefwyr digwyddiadau fel bomio Arena Manceinion yn dal i wynebu brwydr "gywilyddus" am gefnogaeth.
"Rwy'n credu ei fod yn staen ar ein cymdeithas nad ydym yn helpu pobl ... ar yr adeg waethaf yn eu bywydau," meddai'r eiriolwr cyhoeddus annibynnol (Independent Public Advocate), Cindy Butts.
Mae teuluoedd yn parhau i wynebu llawer o'r un problemau a wynebodd pobl Aberfan ym 1966, meddai.
Bu farw 116 o blant a 28 o oedolion pan darodd gwastraff pwll glo Ysgol Gynradd Pantglas.

Yn 8 oed roedd Jeff Edwards yn un o'r olaf i gael eu tynnu'n fyw o drychineb Aberfan
I'r goroeswr Jeff Edwards, mae canlyniadau'r trychineb yn parhau i fod yn realiti dyddiol.
Roedd yn wyth oed pan gwympodd y domen ar ei ysgol, ac mae'n cofio deffro o dan olion ei ddosbarth gyda chorff un o'i ffrindiau yn gorffwys ar ei ysgwydd.
Ef oedd y plentyn olaf i gael ei dynnu'n fyw o'i ystafell ddosbarth.
Fe wellodd yr anafiadau i'w gorff, meddai, ond mae'n parhau i ddioddef y niwed seicolegol.
"Bu farw llawer o'r plant yn fy nosbarth, felly i bob pwrpas roedd fy holl ffrindiau wedi mynd," meddai.
"Yr anafiadau seicolegol oedd â'r baich mwyaf arnom ni mewn gwirionedd."
Bron i 60 mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd Mr Edwards y gallai'r niwed meddyliol ddychwelyd yn annisgwyl. Daeth y daeargryn diweddar yn Venezuela ag atgofion byw o Aberfan yn ôl.
"Gallwch chi arogli'r llwch glo yn eich trwyn. Mae wir yn dod â'ch ymennydd yn ôl i'r lle hwnnw," meddai.
"Mae'n dod â chymaint o emosiwn yn ôl, nes ei fod yn eich curo chi, ac yn mynd â chi wedyn i iselder dwfn iawn."

Roedd Jeff Edwards yn ôl yn Aberfan rai diwrnodau ar ôl y dinistr, ond mae'r creithiau seicolegol yn para hyd heddiw
Penderfynodd ymchwiliad swyddogol mai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd yn gyfrifol am drychineb Aberfan, ond mae goroeswyr a theuluoedd mewn galar wedi wynebu rhestr hir o anghyfiawnderau.
Cymerwyd arian o gronfa'r trychineb cyhoeddus i helpu i dalu am gael gwared ar y tomenni glo oedd yn weddill uwchben y pentref, tra bod taliadau iawndal yn gyfyngedig a bu'n rhaid i oroeswyr gael asesiadau dro ar ôl tro i brofi'r angen am gefnogaeth.
Roedd y cymorth ar gyfer helpu i ddelio â niwed seicolegol hefyd yn fach iawn.
Mae Mr Edwards yn cofio cael gorchymyn gan seicolegydd i feddwl am bartïon pen-blwydd pan oedd ganddo hunllefau bob nos, er i lawer o'r plant a fynychodd y partïon hynny farw yn y dinistr.
Dywedodd fod goroeswyr, i raddau helaeth, wedi dibynnu ar ei gilydd i ymdopi ac i wella.
"Doedd dim cymorth. Hunangymorth oedd hi, yn y bôn," meddai.
Er iddo ddweud bod gwelliant sylweddol wedi bod wrth gydnabod trawma, dywedodd Mr Edwards fod y gefnogaeth yn parhau i fod yn annigonol, yn enwedig yn y tymor hir.
"Mae gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y GIG yn wasanaeth Cinderella," meddai.

Paul Price gyda'i gymar Elaine McIver - bu farw hithau noson bomio Arena Manceinion ac fe gafodd yntau anafiadau sydd wedi newid ei fywyd
Mae Paul Price yn rhannu'r rhwystredigaeth yna. Fe oroesodd y bomio yn Arena Manceinion yn 2017 ond fe gollodd ei bartner, Elaine McIver.
Dioddefodd Mr Price anafiadau a newidiodd ei fywyd, gan dreulio pythefnos mewn coma a naw mis yn yr ysbyty.
Roedd rhaid iddo ail-ddysgu cerdded, bwyta a gwisgo ei hun. Ar ôl gadael yr ysbyty, dywedodd ei fod yn teimlo ei fod ar ei ben ei hunain.
"Fe ddes i allan o'r ysbyty naw mis yn ddiweddarach i ddim byd," meddai. "Ail drawma oedd hynny."
Gan fethu â gweithio, roedd yn byw ar gynilion wrth dalu am driniaeth ychwanegol.

Cofeb i Elaine McIver bu farw yn yr ymosodiad ar Arena Manceinion yn 2017
Yn y pen draw, llwyddodd cael iawndal trwy'r Awdurdod Iawndal Anafiadau Troseddol, ond dim ond ar ôl blynyddoedd o geisio, ac yn dilyn galwadau cyson am dystiolaeth feddygol ac asesiadau newydd.
"Roedd yn dehumanising," medddai. "Roedd yn warthus. Gwnaeth i mi deimlo nad oedden nhw'n fy nghredu."
Dywedodd Mr Price fod llawer o oroeswyr wedi rhoi'r gorau i geisio iawndal oherwydd bod y broses yn rhy drawmatig.
"Pe bai rhywbeth yn digwydd yfory, byddai pobl yn dal i fynd trwy'r hyn rydw i wedi dod drwyddo," meddai. "Ni ddylai fod fel 'na."

Abbie Jones yn ystod cyngerdd Taylor Swift - dywed ei bod yn benderfynol na fydd y trawma o fod yn Arena Manceinion noson yr ymosodiad a laddodd 23 o bobl yn ei hatal rhag mynd i ddigwyddiadau torfol eto
Plentyn oedd Abbie Jones, 24, o Lanfairfechan noson y gyflafan yn Arena Manceinion, sy'n teimlo'n "lwcus" bod hi a'i ffrind wedi oedi cyn mynd i'r cyntedd ble y ffrwydrodd y bom a laddodd 23 o bobl.
Er hynny, mae hi'n "dal yn meddwl amdano fo'n ddyddiol" ac wedi dioddef PTSD a gorbryder oherwydd y trychineb.
Wrth rannu ei phrofiad yn gyhoeddus am y tro cyntaf, dywedodd wrth Dros Frecwast ei bod yn meddwl ei bod yn iawn am y ddwy flynedd gyntaf nes dechrau cael pyliau panig o glywed synau annisgwyl fel "balŵn yn popio".
Mae hi'n ddiolchgar i'r athrawes "wnaeth benderfynu bod fi ddim yn ok" y diwrnod y cafodd pwl o banig yn yr ysgol, ac fe arweiniodd hynny at gael help ehangach.
"Dwi dal yn ffan masif o Ariana Grande... ond mae o dal yn dod â bach o boen yn ôl," dywedodd.
"Os o'n i heb 'di gofyn am help, dwi'm yn meddwl fysa 'na ddim byd wedi cael ei wneud.
"Tydi o ddim arnon ni fel pobl sydd wedi bod trwy drychineba' i orfod gwybod be' i wneud - 'dan ni mewn digon o sioc fel mae hi."
'Heb newid sylfaenol, mae'n mynd i ddigwydd dro ar ôl tro'
Roedd y cyfreithiwr, Terry Wilcox, wedi gweithio ar ymgyrchoedd iawndal a chyfiawnder Arena Manceinion a Hillsborough, a dywedodd nad oedd digon wedi newid i helpu'r rhai wnaeth ddioddef.
"Roedd yn rhaid i ni ddod yn weithwyr cymdeithasol, roedd yn rhaid i ni ddod yn ddarparwyr gofal," meddai, gan ddisgrifio sut aeth cyfreithwyr ati i helpu eu cleientiaid i gael mynediad at gwnsela, triniaeth a budd-daliadau.
Dywedodd Mr Wilcox fod rhai o oroeswyr Arena Manceinion wedi mynd yn dlawd ar ôl colli eu hincwm a bod cyfreithwyr yn aml yn gorfod trefnu cymorth a ddylai fod wedi dod gan y wladwriaeth.
"Ni ddylai hynny fod yn rhan o rôl y cyfreithiwr," meddai.
"Heb newid sylfaenol, mae'n mynd i ddigwydd dro ar ôl tro."
Beirniadodd hefyd yr oedi o fewn y system iawndal, gan ddweud y gall hyd yn oed hawliadau syml gymryd blynyddoedd i symud ymlaen. Mae dioddefwyr yn aml yn cael eu gadael i "guro pen yn erbyn y wal".
Mae Mr Wilcox a Jeff Edwards yn tynnu sylw at batrwm ehangach sy'n ymestyn o Aberfan a Hillsborough i sgandalau fel gwaed heintiedig a Swyddfa'r Post. Dro ar ôl tro mae addewidion y bydd gwersi'n cael eu dysgu, ac yna cwynion newydd bod dioddefwyr yn cael eu gadael i ymladd ar eu pennau eu hunain.

Dywedodd Cindy Butts mai sefyllfa "warthus" oedd yn wynebu dioddefwyr sy'n gorfod brwydro am gymorth a iawndal
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy'n goruchwylio'r Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol, fod angen i ddioddefwyr allu cael mynediad at "iawndal ariannol yn ogystal â chefnogaeth ymarferol, emosiynol a therapiwtig" a'u bod yn gwneud "pob ymdrech i gyfathrebu â nhw'n sensitif ac yn gywir" pan ddaw hawliadau.
Ychwanegodd: "Talodd y Cynllun Iawndal am Anafiadau Troseddol, a ariennir gan drethdalwyr, dros £180 miliwn y llynedd i gefnogi goroeswyr dewr troseddau treisgar, gan gynnwys y rhai y mae eu bywydau wedi'u difrodi gan ymosodiadau terfysgol erchyll. Rydym hefyd wedi sefydlu Hwb Cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr terfysgaeth a fydd yn helpu dioddefwyr i wneud eu ceisiadau eu hunain."
Cafodd rôl yr Eiriolwr Cyhoeddus Annibynnol ei chreu yn dilyn ymgyrchoedd gan deuluoedd Hillsborough, a Cindy Butts yw'r cyntaf yn y swydd.
Dwedodd fod gormod o berthnasau mewn galar yn dal i orfod dod yn ymgyrchwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr er mwyn datgelu'r gwir.
"Rwy'n credu ei bod yn warthus, ac rwy'n credu ei bod yn staen go iawn ar ein cymdeithas nad ydym yn helpu pobl… ar gyfnod gwaethaf eu bywydau," meddai Ms Butts.
"Y ffaith ein bod yn parhau i gael y problemau ailadroddus yma dro ar ôl tro, mae hynny'n staen llwyr ar ein cymdeithas.
"Rhan o'r rheswm pam nad ydym yn dysgu'r gwersi hynny yw nad oes gennym ffordd briodol o nodi beth yw'r gwersi hynny."
Roedd yn "ffaith wirioneddol drist" bod dioddefwyr a'u teuluoedd wedi'u "gorfodi" i ddal "traed wrth y tân" er mwyn sicrhau'r gwirionedd a chael cyfiawnder.
Dylai'r baich o geisio gwirionedd a chyfiawnder "orffwys ar y system," meddai.
"Ni ddylai byth orffwys ar y teuluoedd hynny."
I Mr Edwards, dyna wers y chwe degawd diwethaf.
"Mae mwy o gefnogaeth allan yna nawr," meddai, "ond nid yw'n ddigonol o hyd."
"Bydd pobl yn parhau i ddioddef y trawma o fod yn rhan o'r trychinebau hyn, oni bai ein bod yn ei wella."
Os ydy cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.